Sioned Wiliam: 'Bywyd yn dy 60au yn bennod newydd cyffrous'

Sioned WiliamFfynhonnell y llun, S4C
  • Cyhoeddwyd

"Mae hawl gyda chi i wneud penderfyniadau a dechrau penodau newydd yn eich bywyd hyd yn oed yn eich 60au."

Dyma neges yr awdures Sioned Wiliam sy' newydd gyhoeddi ei nofel diweddaraf 60 Rhywbeth.

Mae Sioned, sy'n dod o'r Barri yn wreiddiol ond bellach yn byw yn Llundain, yn awyddus i gyfleu fod bywyd yn cynnig cyfleoedd cyffrous i fenywod yn eu 60au, fel mae'n sôn wrth Cymru Fyw: "Wrth i fi weithio ar y llyfr 'nes i sylweddoli does 'na ddim lot o bethau am yr oed yma mewn gwirionedd.

"Ry'n ni'n dueddol o fod yn anweledig. Ac mae'r delweddau sy'n bodoli'n gallu bod yn ystrydebol ar y cyfan – mam-gu gyda gwallt gwyn sy'n hoff o gathod ac yn y blaen.

"Mae'r cymeriadau [yn y llyfr] yr un oedran â fi – felly dechrau'r 60au. Oedden ni'n gyd yn y coleg yn 1979 i 1982 ac yn perthyn i'r punk generation, pobl oedd yn protestio'n wyllt. Ni dal i deimlo fel yr un bobl ond dydyn ni ddim yn edrych fel yr un bobl."

Sioned Wiliam ac Angharad Mair yn lansio'r llyfrFfynhonnell y llun, Y Lolfa
Disgrifiad o’r llun,

Sioned Wiliam ac Angharad Mair yn lansio'r llyfr

Ysbrydoliaeth

Y trydydd mewn cyfres yw'r llyfr dychanol 60 Rhywbeth, yn dilyn hynt y cymeriadau yn y nofel Dal i Fynd sy' bellach wedi cyrraedd eu 60au.

Ac mae Sioned, sy'n enw cyfarwydd ym myd comedi teledu, yn tynnu ar brofiad personol ar gyfer y llyfr: "Mae'r cymeriadau i gyd yn wahanol i fi ond dwi'n deall ac yn uniaethu gyda lot maen nhw'n mynd trwyddo. Mae ffrindiau yn cael yr un profiadau hefyd.

"Oedd e'n dir gyfoethog achos dwi'n byw e mewn ffordd."

Ac mae neges gan Sioned i fenywod wrth iddynt fynd yn hŷn: "Mae sawl ffordd o ddygymod â'r cyfnod yma yn ein bywydau ni.

"Mae'r dair menyw ar ddiwedd y llyfr i gyd wedi gwneud dewisiadau gwahanol i'w gilydd ond maen nhw i gyd yn gweithio iddi nhw.

"Mae gyda chi ddewisiadau a phethau da yn eich bywyd o hyd yn eich 60au ac mae sawl ffordd o ddatrys y broblem a derbyn yr her."

Bywyd newydd

Gyda'r gyfres newydd Riot Women ar BBC 1 yn adlewyrchu bywydau menywod sy'n mynd drwy'r menopos mae Sioned yn sôn am y gwahaniaeth rhwng y cyfnod hynny a'r hyn sy'n dod wedyn: "Mae hwnna i gyd [y menopos] drosodd. Mae lot yn well mewn lot o ffyrdd – ti'n teimlo'n well.

"Mae lot o fenywod yn eu 60au wedi ymddeol ond ddim ishe rhoi'r gorau i bethau felly maen nhw'n gwirfoddoli a'n edrych ar ôl wyrion. Ac weithiau mae dal gyda nhw rhieni hefyd.

"Mae'n gyfnod pan 'sdim gymaint o ots gyda chi am sut chi'n edrych. Chi'n gallu mwynhau eich hunan. Chi'n teimlo llawer mwy hyderus i fod yn chi eich hunain.

"Mae lot o fanteision iddo fe. Chi ddim mor ymwybodol falle a chi â mwy o awch i fwynhau pethau hefyd. Chi ddim yn poeni gymaint am beth mae pobl yn meddwl amdano chi."

Ac mae hi'n falch i weld menywod hŷn yn cael llais ar y sgrin: "Mae'n bwysig – mae Sally Wainwright [sy' wedi creu Riot Women] yn awdur toreithiog a gwych ac mae'r cast yn arbennig.

"Maen nhw'n fenywod sy' mor brofiadol a dwi'n meddwl mae'r syniad yma eto o fwynhau bywyd a dechrau penodau newydd. Maen nhw wedi dod i groesffordd ac yn chwilio am bennod newydd. Hwnna yw'r brif neges – bod modd cael pennod newydd.

"Yn Riot Women mae siwrne y menywod yna yn wahanol i gyd ond maen nhw'n haeddu dechrau pennod newydd gyfoethog."

Mae'r nofel 60 Rhywbeth yn un doniol ond yn ymdrin â phynciau dwys mewn ffordd ysgafn yn ôl Sioned: "Ni'n sôn am gymeriadau sy'n ddigon ffodus i beidio bod yn sâl. Maen nhw'n ffodus does dim problemau economaidd gyda nhw.

"Mae un yn gorfod symud tŷ ar ôl ysgariad ond dydyn ni ddim yn sôn am bobl sy'n gorfod wynebu pethau enbyd fan hyn. Mae'n lyfr ysgafn ond dwi'n trio archwilio rhai themâu mwy dwys.

"Mae rhai pobl yn ffodus gyda'r menopos hefyd. Lwc yw e i gyd – mae bwyta yn gymedrol a neud lot o ymarfer corff yn syniad da ond lwc yw lot ohono fe."

Sioned yn beirniadu Gwobr Daniel Owen yn Eisteddfod Boduan ym 2023 gyda Mared Lewis a Dewi PrysorFfynhonnell y llun, Sioned Wiliam
Disgrifiad o’r llun,

Sioned yn beirniadu Gwobr Daniel Owen yn Eisteddfod Boduan ym 2023 gyda Mared Lewis a Dewi Prysor

Dechrau newydd

Ac mae Sioned wedi byw neges y nofel ei hun gan ymddiswyddo o'r BBC wrth gyrraedd ei 60au er mwyn gwneud pethau gwahanol a theithio mwy. Bu'n gynhyrchydd annibynnol am flynyddoedd gan weithio ar sioeau fel Tonight With Jonathan Ross, iDot, Big Train a Yonderland.

Mae hefyd wedi bod yn gomisiynydd comedi i ITV a BBC Radio 4 ac yn Brif Weithredwr dros dro i S4C. Ers hynny mae wedi canolbwyntio ar ysgrifennu a chyfarwyddo: "Oedd e'n bryd newid swydd.

"Dwi wedi teimlo gyda Covid a throi'n 60 nawr yw'r amser i neud pethe gwahanol. Dwi wedi teithio, oedd y mab wedi mynd i'r brifysgol. Oedd e'n gyfle i neud pethau gwahanol.

"Mae e'n gyfnod allai fod yn anodd iawn ond ar y cyfan mae'n nghymeriadau i yn y nofel yn lwcus iawn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig