Côr Ieuenctid Môn yn 20 oed

Aelodau'r côr yn Neuadd AlbertFfynhonnell y llun, Côr Ieuenctid Môn
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau'r côr yn Neuadd Albert

  • Cyhoeddwyd

Pan sefydlodd Mari Pritchard Gôr Ieuenctid Môn ugain mlynedd yn ôl, roedd y ferch a'r gantores o Fôn eisiau sicrhau bod plant a phobl ifanc sy'n cael eu magu mewn ardaloedd gwledig yn cael yr un cyfle i ganu â phlant y dinasoedd.

Ugain mlynedd yn ddiweddarach, mae 100 o aelodau o'r côr newydd ddychwelyd o ganu yn Prom Barnardos yn Neuadd Albert yn Llundain. Fe berfformiodd y côr hŷn gyda Cherddorfa'r Philarmonic fel rhan o'u gwobr ar ôl dod yn fuddugol yng nghystadleuaeth Côr y Flwyddyn Barnados.

Ar ôl dod yn fuddugol mewn cystadleuaeth i gorau ledled Prydain a hithau'n flwyddyn pen-blwydd y côr yn ugain oed, mae Mari'n llawn balchder o'i haelodau ifanc "er mai'r gymdeithas a'r cyfeillgarwch sydd yn dod yn gyntaf bob tro," meddai.

Perfformio ar lwyfan Neuadd Albert

Ond beth sy'n gwneud y profiad fwy emosiynol fyth i Mari yw i ddeugain o'r côr ganu Pacio o'r sioe gerdd Branwen dan gyfeiliant Cerddorfa'r Philarmonic.

Mae Pacio'n gân a gyfansoddwyd gan Gareth Glyn bron i chwarter canrif yn ôl pan wnaeth Mari a oedd yn gweithio i Theatr Ieuenctid Môn ar y pryd gomisiynu Ken a Siân Owen, Gareth Glyn ac Eleri Cwyfan i greu'r sioe gerdd Branwen.

Rai blynyddoedd yn ôl fe addasodd Gareth Glyn Pacio i Gôr Ieuenctid Môn.

Aelodau'r côr yn Neuadd AlbertFfynhonnell y llun, Côr Ieuenctid Môn
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau'r côr yn Neuadd Albert

Roedd clywed deugain o'r côr yn canu Pacio i gyfeiliant Cerddorfa Brenhinol Philarmonic yn Neuadd Albert ar nos Lun 24 Tachwedd yn brofiad fydd yn aros yn y cof i Mari, er iddo fod yn brofiad rhyfedd hefyd rhoi'r côr yn nwylo arweinydd arall:

"Ro'n i'n cael eistedd i lawr yn trio eistedd ar fy nwylo yn gwylio Ben Pope, yr arweinydd hyfryd yn arwain y côr. Roedd o'n gythgam o deimlad.

"Roedd gen i lwmp yn fy ngwddw i, oedd o'n emosiynol iawn ac mi oedd y gân ei hun yn mynd â fi yn ôl chwarter canrif i gyfnod eithaf chwerw-felys, gan i mi golli fy nhad yn fuan iawn wedyn. Roedd o'n gorffen y cylch ac mi oedd mynd â'r Gymraeg i Neuadd Albert yn fraint hefyd."

Ail ymweliad y côr â Neuadd Albert i ganu rhan o requiem Verdi gyda Cherddordfa y BBCFfynhonnell y llun, Côr Ieuenctid Môn
Disgrifiad o’r llun,

Ail ymweliad y côr â Neuadd Albert i ganu rhan o requiem Verdi gyda Cherddordfa y BBC

Rhoi cyfle i blant Ynys Môn gael canu

Magwyd Mari ar fferm yn Bryngwran cyn mynd ymlaen i astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor a dilyn cwrs ôl-radd mewn therapi cerdd yng Nhaergrawnt. Erbyn hyn, cyd-lynydd y gwasanaeth cerdd cenedlaethol yw ei gwaith o ddydd i ddydd.

Fel arweinydd Côr Ieuenctid Môn mae'n falch o allu gwasanaethu plant a phobl ifanc ei mebyd ei hun, a dyna oedd ei bwriad wrth sefydlu'r côr ugain mlynedd yn ôl.

Meddai: "Dwi wedi cael fy magu a'n amgylchynu mewn harmoni a chorau'n blentyn felly o'n i yn awyddus i feithrin y cyfle yna i blant gael canu mewn harmoni. Ges i fy magu mewn cymuned lle oedd yna lot o ganu corawl – Hogia Bryngwran, mynd i Gapel Hebron a'r cyfloedd ges i yn Ysgol Bodedern.

"Ond mae'n hawdd iawn meddwl pan ti'n byw mewn ardal wledig ella fedra i ddim canu ar lwyfan yr Albert Hall. O'n i wastad isio sicrhau fod plant yr ynys yn gwybod eu bod nhw'n dalentog a fod yna gyfle iddyn nhw ddatblygu."

Ennill y Côr Adloniant yn Eisteddfod Genedlaethol LlanrwstFfynhonnell y llun, Côr Ieuenctid Môn
Disgrifiad o’r llun,

Ennill y Côr Adloniant yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst

Ar hyn o bryd mae gan y côr 115 aelod sydd wedi ei rannu'n ddau gôr sef y côr iau a'r côr hŷn. Ond mae Mari'n pwysleisio mai gyda phrofiad, ymarfer a gwrando ar adborth beirniaid mae'r côr wedi derbyn ei lwyddiant dros y blynyddoedd:

"Wnaeth gymryd rhai blynyddoedd cyn i ni ddechrau ennill pethau. Mae ymarfer a bod yn barod i wrando ar gyngor beirniaid mor bwysig.

"Mi roedd ein tro cyntaf ni yn cystadlu yng nghystadleuaeth Côr Cymru yn galondid mawr i ni.

"Mi oeddan ni'n cystadlu'n lleol a wedyn mi oedd yr adborth gaethon ni yn y gystadleuaeth honno'n annog ni i gario ymlaen. Dwi wedi dysgu gymait drwy wneud camgymeriadau a dwi dal i ddysgu. Dwi'n meddwl fod hynny mor bwysig."

Troedio llwyfan Eisteddfod Llangollen gyda’r côr iâuFfynhonnell y llun, Côr Ieuenctid Môn
Disgrifiad o’r llun,

Troedio llwyfan Eisteddfod Llangollen gyda'r côr iâu

Uchafbwyntiau

Er bod perfformio yn Neuadd Albert yn uchafbwynt mawr i lwyddiant y côr eleni, nid dyma tro cyntaf y côr yno.

"Y tro cyntaf i ni ganu yn Neuadd Albert yn 2009, wna i byth anghofio derbyn yr ebost yn dweud ein bod wedi cael ein dewis i ganu yno. Oeddan ni wedi bod mewn gŵyl gorawl yn Birmingham ac mi oedd beirniaid yr ŵyl yn penderfynu pwy oedd cael canu yn Neuadd Albert. Mae'r aelodau oedd yn y côr bryd hynny dal i hel atgofion am hynny gan gynnwys fy mhlant i, Ifan a Gwenno.

"Uchafbwynt arall oedd canu efo Bryn Terfel yng Ngŵyl Cricieth, roedd hynna jest yn anhygoel, 'dan ni wedi eisteddfota, ac wrth gwrs canu mewn cyngherddau lu, nid jest cystadlaethau.

Y fraint o ganu gyda Syr Bryn Terfel yng Ngŵyl CriciethFfynhonnell y llun, Côr Ieuenctid Môn
Disgrifiad o’r llun,

Y fraint o ganu gyda Syr Bryn Terfel yng Ngŵyl Cricieth

"Ond dwi hefyd yn ymfalchio yn llwyddiannau pob un aelod o'r côr, nifer wedi mentro i'r byd canu proffesiynol, a nifer erbyn hyn yn famau a thadau, a dwi'n ymfalchio yn faint sydd wedi cadw mewn cysylltiad a sydd efo atgofion melys am y côr.

"Mi roedd o'n arbennig hefyd cael cwmni Elain Rhys Jones efo ni yn Neuadd Albert. Hi bellach ydi ein cyfeilyddes a roedd hi'n un o aelodau cyntaf y côr.

"'Nôl yn 2009 pan oeddan ni yn Neuadd Albert am y tro cyntaf, roedd hi'n chwarae'r delyn i ni ar y llwyfan yn naw oed, Sioned Webb ar y piano, Siôn Gwilym o Fleur de Lis ar y drymiau a ninnau wrthi'n canu Something Inside So Strong yn ein acen Sir Fôn gora' felly oedd o'n lyfli cael Elain yno efo ni."

Gŵyl Gorawl Llandudno yn y blynyddoedd cynnarFfynhonnell y llun, Côr Ieuenctid Môn
Disgrifiad o’r llun,

Gŵyl Gorawl Llandudno yn y blynyddoedd cynnar

Wrth edrych ymlaen at yr ugain mlynedd nesaf i Gôr Ieuenctid Môn, a'r ymarferion di-ffael bob nos Iau yng Nghanolfan Glanhwfa, Llangefni, dywed Mari bod "dysgu sut i gyd-dynnu, sut i rannu'r pwysau ac i gynnal ein gilydd yr un mor bwysig â'r canu ei hun" a'i bod "yn fythol ddiolgar i'r cyfeilyddion Aled Evans, Sioned Webb, Ann Peters Jones, i bob ac i'r byddin o ffrindiau a rhieni brwd y pwyllgor sydd wedi cefnogi'r côr bob cam".

Côr Ieuenctid Môn yn canu gyda Band Beaumaris ar achlysur pen-blwydd Gareth Glyn yn 60 oed yn y dyddiau cynnarFfynhonnell y llun, Côr Ieuenctid Môn
Disgrifiad o’r llun,

Côr Ieuenctid Môn yn canu gyda Band Beaumaris ar achlysur pen-blwydd Gareth Glyn yn 60 oed yn y dyddiau cynnar

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: