Hedfan awyren cyn bod yn ddigon hen i ddreifio car

Macsen o flaen yr aweyrenFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Macsen, 16 oed, o flaen y Piper PA-28 ym Maes Awyr Caernarfon

  • Cyhoeddwyd

I rieni, mae'n beth digon pryderus i wylio'u plentyn yn gyrru i ffwrdd ar ben eu hunain mewn car am y tro cyntaf, heb sôn am hedfan tua'r gorwel mewn awyren - yn 16 oed.

Ond dyna'r sefyllfa i un teulu yng Ngwynedd gan fod Macsen wedi llywio awyren ar ben ei hun cyn ei fod yn ddigon hen i gael ei wers gyntaf yn gyrru car.

A gyda'i fryd ar fod yn beilot, mae'r disgybl chweched dosbarth yn Ysgol Brynrefail eisoes hanner ffordd i gael ei drwydded, a'i rieni yn falch ei fod wedi hedfan ar ben ei hun am y tro cyntaf.

"Do'n i'm yn gwybod dim byd amdano fo tan iddyn nhw ffonio fi i ddweud ar ôl iddo fo landio," meddai Ffion, mam Macsen. "Ond dwi mor prowd bod o wedi 'neud o. Dwi'n poeni wrth gwrs ond dyna ydi ei passion a dyna mae o isio 'neud."

Macsen ar awyren gyda het peilotFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Macsen yn cael gwisgo het y peilot ar un o'i hediadau pan yn iau

Mae diddordeb Macsen mewn awyrennau yn mynd yn ôl i'w blentyndod. Aeth i fyny mewn jet am y tro cyntaf pan oedd o'n flwydd oed a rhwng mynd ar wyliau ac ymweld â theulu sy'n byw dramor mae o wedi hedfan 80 gwaith.

Fel plentyn roedd o'n hoffi chwarae gyda theganau awyren a mynd gyda'i nain a'i daid am drip i faes awyr Manceinion. Roedd ganddo hefyd ddynwaredwr hedfan (flight simulator) ac yn gallu ymarfer bod yn beilot yn ei gartref yn Eryri.

Bob tro roedd o'n mynd ar ar ei wyliau mewn awyren, ar ôl glanio byddai'n gofyn i gael mynd i gaban y peilot.

"Dwi wedi teithio lot fel plentyn," meddai. "Dwi'n licio'r holidays sy'n dod efo hedfan - a dwi jest bob tro wedi licio fflio.

"Wedyn neshi fynd ar brofiad gwaith pan o'n i'n Blwyddyn 10 i Ddinas Dinlle - Maes Awyr Caernarfon - a geshi fynd fyny a fflio."

A dyna pryd newidiodd hedfan o fod yn ddiddordeb plentyn, i fod yn gynllun gyrfa.

Macsen yng nghaban y peilotFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Yng nghaban y peilot pan yn iau - mae Macsen yn gobeithio mai dyma fydd ei 'swyddfa' yn y dyfodol

Yn 15 oed, fe ddechreuodd gael gwersi hedfan ym Maes Awyr Caernarfon. Roedd o'n talu am ei wersi gydag elw o'i fusnes gwerthu hufen iâ i bobl oedd yn cerdded un o lwybrau'r Wyddfa ger ei gartref.

Ac yn ddiweddar, ar ôl hedfan nifer o weithiau gyda'i hyfforddwr, fe gafodd syrpréis. Aeth i'r maes awyr am ei wers arferol yn y Piper PA-28 a chael gwybod ei fod yn mynd ar ei ben ei hun.

"Neshi ddim cael llawer o amser i feddwl amdano fo achos neshi fynd syth i ffwrdd ond o'n i'n gwybod be' i 'neud," meddai.

"O'n i wedi bod lot o weithia yn barod efo'r peilot pan wnaeth o jest deud 'ti'n mynd ben dy hun rŵan'. Neshi fynd allan a 'neud circuit ac yn ôl."

Ar dir cadarn oddi tanodd, oedd ei dad Ian.

"Roedda chdi jest yn gweld y dot bach yma'n mynd yn y pellter, ac o fewn dim roedd o'n ôl," meddai.

Dim ond wedyn wnaethon nhw ffonio adra i ddweud y newyddion wrth weddill y teulu.

Macsen yn yr awyren bu'n ei hadfanFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Macsen yn yr awyren mae o'n dysgu hedfan ynddi

Mae Macsen newydd ddechrau astudio Lefel A mewn mathemateg, ffiseg a chemeg tra'n gweithio tuag at ennill ei leisans peilot.

Mae o eisoes wedi gwneud dau allan o'r naw arholiad sy'n rhaid eu pasio, sy'n cynnwys dysgu am fapio a'r tywydd. Fe fydd yn rhaid iddo hefyd gael profiad o hedfan am 45 awr cyn sefyll ei brawf - ac mae o bron hanner ffordd i'r targed yn barod.

A thra bod profion gyrru car yn yr ardal yn tueddu i fynd o gwmpas Bangor ac ar hyd yr A55 am ychydig filltiroedd, mae'r prawf ar gyfer trwydded peilot yn wahanol. Bydd yn rhaid iddo hedfan o Gaernarfon i'r Amwythig ac yn ôl, ar ei ben ei hun.

Ei gynllun hir dymor ydi mynd i goleg hedfan - yn ddelfrydol yr Emirates yn Dubai - cyn bod yn beilot sy'n hedfan awyrennau 777 i bedwar ban byd.

Macsen gyda'i rieniFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Ian, Macsen a Ffion

Ond cyn hynny, mae 'na baratoi at ei ben-blwydd yn 17 oed fis Rhagfyr a chael ei wers gyntaf yn gyrru car.

"Dwi'n edrych ymlaen i ddechrau dreifio - i fi gael medru dreifio i'r maes awyr," meddai.

Ac i'w fam, fel unrhyw riant ar bob cam o'r daith, mae'n fater o ddygymod â'r elfen nesaf yma o dyfu fyny.

Meddai Ffion: "Ella bod o'n fwy peryg dreifio car. I fyny yn yr awyren mi rwyt ti in control o bob dim ond ar y lôn mae 'na gymaint o bethau i feddwl amdanyn nhw.

"Efo hedfan dwi'n gwybod bod o wedi paratoi ac wedi darllen am y wers felly mae o'n gwybod be' mae o'n 'neud, a dwi'n gwybod bod o'n barod i'w wneud o. Ond ti dal yn poeni. Fel rhiant, be' bynnag ydi o, ti bob tro'n poeni."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig