'Dwi eisiau dangos i ferched ifanc fod golff yn cŵl!'

- Cyhoeddwyd
Teithio'r byd yn chwarae golff; dyna'r freuddwyd i ambell un, a dyna yw swydd Beth Roberts o Abertawe.
Ond nid chwaraewraig broffesiynol mohoni, a dim ond tair blynedd yn ôl y dysgodd hi i chwarae'r gamp...
Pam ddim chwarae golff?!
Dylanwadwr (influencer) golff ar y cyfryngau cymdeithasol ydy Beth. Dyma ydy ei swydd lawn amser ers blwyddyn, a hynny ar ôl dechrau cyfrif ar Instagram dair blynedd yn ôl, pan ddechreuodd ddysgu chwarae golff.
"Mae Golff Cymru yn g'neud system dda o'r enw New to Golf, sy'n wersi am ddim i fenywod ar draws Cymru. O'n i wedi gwneud yng Nghlwb Clyne yn Abertawe, oedd yn chwech wythnos am ddim, ac roedd ganddyn nhw'r clubs a phopeth.
"O'n i wedi ei 'neud e achos mod i angen hobi arall yn lle mynd mas yn yfed a bwyta! Felly pam ddim chwarae golff?!
"Ar ôl chwech wythnos, o'n i ddim rili'n barod i fynd ar y cwrs, ond roedd bach mwy o hyder gyda fi i gario 'mlaen. Ac o'n i jyst yn mwynhau e. Es i yn addicted yn gyflym - one hit and you're hooked, maen nhw'n ei ddweud."
Bachodd y gamp ynddi, a bellach mae'n fwy na hobi i Beth, wrth iddi rannu ei chynnwys am ei golff ar ei chyfrif Instagram ei hun, ac ar gyfrif ar y cyd gyda'i phartner, Russell, sy'n trafod gwyliau golff.

Russell a Beth yng nghlwb golff Pasatiempo yn San Francisco
Felly sut fath o gynnwys mae hi'n ei rannu?
"Unrhyw beth i wneud â golff! Dwi'n rhannu fy siwrne golff ar-lein; dwi'n gweithio 'da lot o brands, cymdeithasau fel y PGA a'r LPGA, a Golff Cymru. Dwi jyst yn trio annog mwy o bobl ar draws Cymru – yn arbennig menywod – i ddechrau chwarae golff.
"A gyda fy mhartner i, ni'n canolbwyntio ar westai a resorts golff, so dyna pam dwi'n teithio drwy'r amser!"
Ond beth sydd mor arbennig am y gamp sydd fel arfer yn cael ei ystyried yn un mae hen ddynion wedi ymddeol yn ei wneud?
"Mae dal stigma o fod yn gamp hen ddyn, ond dwi'n meddwl ma' fe'n cŵl! A ma' pobl fel fi nawr yn trial dangos bod e'n hwyl a chi'n gallu chware fe o unrhyw oedran.
"Ma' fe'n rili da i'ch iechyd meddwl chi; chi'n mynd allan a cherdded am bedair awr ar y cwrs, yn siarad â ffrindiau... dyna beth dwi'n trial dweud wrth bawb.

Mae Beth yn gweithio gyda chwmnïoedd i hyrwyddo golff ar y cyfryngau cymdeithasol
"A dwi ddim yn ei 'neud e i fod yn broffesiynol – dwi dal ddim yn rili da! – ond dwi jyst yn mwynhau e. Mae pobl yn mwynhau gweld rhywun fel fi, sydd fwy relatable na golffiwr proffesiynol ar y teledu."
Swydd anhygoel ond anodd
Y dyddiau yma, anaml mae hi'n cael llawer o gyfle i chwarae yn ei chlwb golff lleol, gan ei bod yn brysur yn ffilmio fideos, teithio neu chwarae golff ar gyrsiau ledled y byd.
Swydd ei breuddwydion, wrth gwrs, ac un sy'n edrych fel un gwyliau mawr, ond dydy pobl ddim yn gweld yr holl waith sy'n mynd ymlaen tu ôl i'r llenni, meddai.
"Dwi byth yn cwyno am y job achos mae'n anhygoel a dwi'n ei garu e. Ond dwi'n credu ma' fe'n galetach na be' ma' pobl yn sylweddoli, achos dwi wastad ar fy ffôn yn golygu neu ffilmio, tra bod Russ ar y cyfrifiadur yn ateb e-byst.
"Ni'n teithio i lefydd anhygoel, ond pan dwi'n ôl, mae pobl yn gofyn sut oedd e, a dwi weithiau methu cofio dim byd, achos gwaith yw e!
"Dy'n ni newydd fod i Mallorca ar ran bwrdd twristiaeth golff yr ynys, yn dangos beth sydd ar gael ar dripiau golff yno. Oedden ni yno am bedair noson, ond yn aros mewn pedwar gwesty gwahanol ar draws Mallorca; erbyn i ti checio mewn, roedd hi bron yn amser checio mas! Felly roedden ni ar fws yn teithio am lot o'r daith.
"Ond roedd e dal yn anhygoel, a roedden ni'n cael ein talu i fwynhau Mallorca."

Beth a Russell gyda dylanwadwyr a newyddiadurwyr eraill oedd hefyd wedi cael eu gwahodd i brofi'r golff ym Mallorca
Ac wrth gwrs, mae pwysau mawr i greu cynnwys gwych o hyd; does yna ddim ymlacio pan mae'n dod at y cyfryngau cymdeithasol.
"Mae'r ffigyrau reit yna; chi'n postio rhywbeth ar-lein a chi'n cael feedback a sylwadau yn syth bin am eich gwaith chi. Felly dwi wastad yn teimlo mod i'n cystadlu gyda'n hun a dwi'n feirniadol iawn o fy hun. Dyna ran anoddaf y swydd, dwi'n meddwl."
Ysbrydoli chwaraewyr ifanc
Yn ffodus, anaml mae Beth yn profi sylwadau negyddol ar ei chynnwys – rhywbeth sydd ond yn rhy gyffredin ar y cyfryngau cymdeithasol y dyddiau yma.
Yn lle, mae hi'n cael negeseuon yn diolch am beth mae hi'n ei gyhoeddi. Ac mae cyfarfod merched sydd wedi cael eu hysbrydoli ganddi i ddechrau chwarae golff yn ei gwneud hi'n hapus dros ben, meddai.
"Pan mae'n digwydd, yn enwedig merched ifanc iawn, mae'n anhygoel. A llawer o ferched o Gymru hefyd, achos dwi ddim yn meddwl fod yna lawer o golffwyr ar y cyfryngau cymdeithasol o Gymru.

Beth (canol) yn siarad mewn sesiwn yn ystod yr AIG Women's Open ym Mhorthcawl yn yr haf
"Eleni roedd yr AIG Women's Open ym Mhorthcawl – un o'r digwyddiadau chwaraeon merched mwyaf i gael ei gynnal yng Nghymru. O'dd hwnna'n anhygoel.
"'Nes i gymryd rhan llawer yn hwnna, ac o'dd lot o bobl yn dod lan ata i a dweud 'dwi mo'yn bod fel ti!'; o'dd e'n rili cŵl.
"Nawr, gobeithio, dwi 'di dangos fod ddim rhaid i ti fod yn golffiwr proffesiynol i weithio yn y byd golff."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd4 Chwefror

- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2023

