Alzheimer's: 'Ti'n gweld y person yn diflannu'

Kelsey, Alan a KatrinaFfynhonnell y llun, Katrina Collis
  • Cyhoeddwyd

"Y peth anoddaf yw gweld y person yn diflannu. Ti'n chwilio am yr aelod yna o dy deulu di – ond maen nhw wedi mynd."

Mae Katrina Collis o Aberbargoed yn ofalwr llawn amser i'w gŵr Alan sy'n byw gyda chyflwr Alzheimer's.

Cafodd Alan y diagnosis yn 2022 pan oedd yn 62 oed, yr ail aelod o deulu Katrina i gael diagnosis o'r cyflwr ar ôl i'w thad hefyd ddioddef gyda Alzheimer's.

Bu Katrina'n siarad gyda Cymru Fyw am fywyd fel gofalwr a'r gefnogaeth sy'n ei chadw hi i fynd.

Dywedodd: "Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd.

"Roedd nifer o brofion cyn y diagnosis ac oedd hi'n anodd iawn i gael Alan i'r ysbyty i gychwyn – ac roedd hi'n anodd i ein merch ni, Kelsey, i weld ei thad fel hyn.

"Roedden nhw'n dweud yn yr ysbyty ei fod yn anarferol i rywun o'i oedran e i gael Alzheimer's ac ers hynny mae wedi cael diagnosis o glefyd Motor Niwron hefyd."

I gychwyn, roedd Katrina'n gweithio'n llawn amser fel cynorthwy-ydd dosbarth yn ogystal â gofalu am ei gŵr a'i thad, ond erbyn hyn mae'n ofalwr llawn amser.

Mae 'na o leiaf 370,000 o ofalwyr yng Nghymru.

Newid byd

Mae bywyd y teulu wedi gorfod addasu er mwyn i Alan fynychu apwyntiadau ysbyty ac er mwyn cadw at amseroedd cymryd meddyginiaeth, fel mae Katrina yn esbonio: "Ti'n cael dyddiau da a dyddiau drwg.

"Yn lwcus mae gyda fi fy merch. Ac mae cael grŵp i gefnogi ti mor bwysig.

"Pan ti'n cael y diagnosis ti ddim yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd, ti'n teimlo fel pysgodyn aur mewn bowlen yn edrych allan.

"Ti'n ymdopi achos mae'n rhywun ti'n caru. A ti jest eisiau bod yno iddyn nhw.

"Ond mae mor bwysig i edrych ar ôl dy hun – dwi wedi methu ymdopi ddwywaith.

"Mae'n ofal 24 awr. Mae Alan i fyny bob awr ac hefyd mae wedi cwympo i lawr y grisiau.

"Mae e'n hoffi rŵtîn – mae'n mynd i'r gwely, wedyn codi eto, felly weithiau ti i fyny drwy'r nos. Dwi'n trio gorffwys pan mae e yn y gwely.

"Mae wedi bod yn dair mlynedd anodd."

Mae 50,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru ac mae disgwyl i'r nifer i godi i tua 70,000 erbyn 2040.

Katrina mewn digwyddiad i godi arian i Gymdeithas AlzheimersFfynhonnell y llun, Katrina Collis
Disgrifiad o’r llun,

Katrina mewn digwyddiad i godi arian i Gymdeithas Alzheimer's

Cefnogaeth

Mae Katrina'n dweud fod rhwydwaith o gefnogaeth yn amhrisiadwy iddi fel gofalwr: "Mae Cymdeithas Alzhimer's wedi bod yn gefnogaeth mawr a dwi'n lwcus fod gen i swyddog cefnogaeth da iawn sy' wedi trefnu grantiau a gofal seibiant.

"Mae grŵp o ni ofalwyr yn cyfarfod bob mis ar Zoom ac mae hynny'n rhoi cyfle i ti siarad ac i rannu ac i sôn am sut mae dy ddiwrnod wedi bod.

"Ni'n rhannu cyngor gan obeithio fod beth sy'n gweithio i un yn gweithio i'r llall. Ac mae'r rhwydwaith yno i gefnogi ti."

Cyn y diagnosis, roedd Alan yn gynghorydd ac yn gadeirydd llywodraethwyr mewn ysgol leol wedi iddo ymddeol o'i swydd yn y swyddfa drethi.

Ond mae bywyd y teulu wedi newid yn fawr, fel mae Katrina'n esbonio: "Mae bob dydd yn wahanol.

"Mae e'n ddyn hollol wahanol nawr – ni wedi bod gyda'n gilydd am 44 o flynyddoedd.

"Dwi wedi bod gyda fe ers 'mod i'n 16 oed – mae'n drist a ti'n galaru'r golled yna. Ti'n mynd yn grac – mae'r emosiynau i gyd yn codi.

"Ond ti'n gweld y pethau positif ac yn meddwl, mae e dal yma.

"Weithiau ti'n meddwl 'alla'i ddim neud e' – ond wedyn ti'n edrych arnyn nhw ac maen nhw'n rhoi bawd fyny.

"Ti'n ofni bod nhw'n mynd i anghofio ti – ond dyw Alan ddim wedi. Mae wedi anghofio rhai aelodau o'r teulu ond dyw e ddim wedi anghofio fi."

Symptomau

Mae symptomau dementia yn gwaethygu dros amser ac yn cynnwys colli cof, angen help gyda thasgau dyddiol, newid mewn ymddygiad a phroblemau gyda iaith a dealltwriaeth.

Meddai Katrina: "Mae Alan yn siarad ond dim ond un gair ar y tro.

"Ni wedi cael lot o gefnoagaeth – help gyda siarad, dietegwyr ac hefyd hurio gwely a dodrefn.

"Y peth anoddaf yw'r blinder. Ti wedi blino'n lan."

Mae gan Katrina air o gyngor i ofalwyr eraill: "Byddwch yn garedig i'ch hunain. Meddyliwch am eich hunain achos os nad ydy chi'n hwylus allwch chi ddim gofalu amdanyn nhw.

"Ewch am dro, achos mae hynny'n rhoi ychydig o normalrwydd i chi. Mae'n hawdd i fynd yn ynysig, a'r unigrwydd yw'r peth caletaf."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb

Straeon perthnasol