Seren newydd y byd rygbi a aeth i'r ysgol yng Nghymru

SachaFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae Sacha Feinberg-Mngomezulu'n creu dipyn o argraff ar hyn o bryd, gyda llawer o'r farn mai ef a'r Ffrancwr, Antoine Dupont, yw chwaraewyr rygbi gorau'r byd heddiw.

Bydd Feinberg-Mngomezulu yn gwisgo'r crys rhif 10 wrth i'r Springboks wynebu Cymru yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Daw'r seren 23 mlwydd oed o Cape Town ac mae'n chwarae dros dîm y DHL Stormers, sydd wedi ei leoli yn y ddinas.

Ond yn rhan o'i ddatblygiad fel chwaraewr rygbi oedd cyfnod yng Ngholeg Llanymddyfri, ac yn chwarae gyda Sacha yno oedd Archie Hughes a Harri O'Connor - dau sydd bellach yn chwarae'n broffesiynol gyda'r Scarlets.

LlanymddyfriFfynhonnell y llun, Coleg Llanymddyfri
Disgrifiad o’r llun,

Carfan Coleg Llanymddyfri, 2018/19. Mae Sacha yn y rhes ôl (trydydd o'r chwith), mae Archie Hughes hefyd yn y rhes ôl (ar y pen ar yr ochr dde), a Harri O'Connor yn y rhes ganol (ail o'r dde)

Mae'r mewnwr Archie Hughes yn cofio ymddangosiad cyntaf Sacha dros y Coleg.

"O'n i flwyddyn iau na fe yn yr ysgol, ond o'n i'n chwarae 'da fe yn nhîm cyntaf Coleg Llanymddyfri ar y pryd, ac o'n i'n chwarae ym mhob gêm 'nath e chwarae ynddi.

"Oedd e'n chwarae maswr i ni, ond dwi'n cofio bod e'n gallu chwarae bach fel 12 hefyd. O'n i'n chwarae mewnwr pan o'dd e'n faswr felly o'n i'n gallu gweld yn agos iawn cymaint o dalent o'dd e."

Mae Feinberg-Mngomezulu yn chwaraewr amryddawn sy'n gallu chwarae yn safle'r maswr, canolwr neu fel cefnwr, ond fel maswr mae'n chwarae i'r Springboks.

'Braint chwarae wrth ei ochr'

Pan gyrhaeddodd Sacha Coleg Llanymddyfri fe greodd dipyn o argraff ar ei gyd-chwaraewyr yn gyflym iawn.

"Roedd e wedi ei anafu pan ddaeth e yma gyntaf," meddai Archie, "ond pan ddechreuodd e chwarae yn y sesiynau ymarfer ac yn ei gêm gyntaf roedd yr hyder anhygoel 'ma'n dod i'r amlwg.

"Roedd gymaint o flair 'da fe ac roedd e'n 'backio ei hun' gyda'r sgiliau oedd ganddo."

Coleg LlanymddyfriFfynhonnell y llun, John Davies
Disgrifiad o’r llun,

Sacha yn croesi'r gwyngalch yn erbyn Coleg Gwent, 14 Tachwedd, 2018

Fel ei bartner yn yr haneri dywed Archie ei bod hi'n brofiad braf cael maswr o'r fath wrth ei ochr.

"Roedd e'n dipyn o brofiad chwarae wrth ei ochr e, yn enwedig fel mewnwr, achos roedd e'n gwneud pethau mor hawdd i fi! Roedd e'n chwarae fel mae'n gwneud heddi, yn llawn egni ac yn cyrraedd pob rhan o'r cae.

"Os edrychwch arno fe heddi mae e'n gweiddi gorchmynion ar bawb yn y tîm, ac roedd e fel 'na pan o'n i'n chwarae wrth ei ochr hefyd. Roedd e'n dipyn o fraint i chwarae wrth ei ochr i fod onest."

LlanymddyfriFfynhonnell y llun, John Davies
Disgrifiad o’r llun,

Yn sgorio yn erbyn Coleg Sir Benfro, 21 Tachwedd, 2018

"Y prif beth dwi'n gofio amdano fe oedd ei angerdd ym mhob agwedd o'i chwarae," meddai Archie.

"Hyd yn oed yn nhîm y coleg o'dd e yng nghanol yr amddiffyn - sy'n gallu bod yn rhywbeth anghyffredin ymysg maswyr.

"Felly, yn ogystal â'i sgiliau anhygoel roedd e'n taflu ei gorff i mewn i bopeth, ac roedd hynny'n eitha' arbennig i'w weld."

LlanymddyfriFfynhonnell y llun, Archie Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Archie Hughes yn y canol, gyda Ollie Jones a Sacha Feinberg-Mngomezulu

Mae Harri O'Connor, prop y Scarlets, hefyd yn cofio agweddau arbennig o gêm y maswr.

"Daeth e drosodd gyda bachgen arall o Goleg Bishops Diocesan yn Capetown, Ollie Jones - chwaraewr da arall, a oedd yn y safle 13 i ni.

"Rwy'n credu o'dd Sacha wedi torri ei law pan ddaeth draw 'ma yn gyntaf, ac felly 'naeth e ddim chwarae yn y pump neu chwe gêm gyntaf."

Scarlets - StormersFfynhonnell y llun, Archie Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Harri O'Connor, Sacha Feinberg-Mngomezulu ac Archie Hughes, yn dilyn gêm rhwng y Scarlets a'r DHL Stormers yn Stellenbosch y llynedd

Er gwaetha'r anaf, mae Harri yn cofio i Sacha ddychwelyd i chwarae a chreu argraff yn syth.

"'Naeth e weithio'n galed i ddod 'nôl o'r anaf yn gynnar a pan chwaraeodd e roedd e'n amlwg i bawb o'dd e ben ac ysgwydd yn well na phawb arall.

"Chi ddim yn aml yn cael myfyriwr ar system gyfnewid sy'n chwaraewr cystal â fe, ond dwi'n cofio'r flwyddyn cyn fe roedd boi arall o'r enw Luca Liebenberg, o'r un ysgol â Sacha, ac roedd e hefyd yn chwaraewr da iawn."

'Diymhongar' a 'doniol'

Felly, sut fath o berson yw Sacha oddi ar y cae? "Mae'n foi neis iawn, yn witty ac yn ddoniol," meddai Harri

Mae Archie Hughes yn cytuno: "Mae'n foi hyfryd a diymhongar. 'Nes i golli cysylltiad â fe dipyn bach ar ôl dyddie Coleg Llanymddyfri - dwi'n siŵr bod miloedd o bobl yn gyrru negeseuon iddo fe yn ei DMs!"

Sacha'n cicio dros Goleg Llanymddyfri ym mis Tachwedd 2018, ac yn serenu dros y Springboks mewn buddugoliaeth yn erbyn Ffrainc, 8 Tachwedd, 2025Ffynhonnell y llun, John Davies/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sacha'n cicio dros Goleg Llanymddyfri ym mis Tachwedd 2018, ac yn serennu dros y Springboks mewn buddugoliaeth yn erbyn Ffrainc, 8 Tachwedd, 2025

Ond dywed Archie ei fod yn siarad â'i gyfaill o Dde Affrica ar adegau, a'i fod yn braf i'w weld ar ac oddi ar y cae.

"Rwy'n siarad â fe o bryd i'w gilydd, ac mae wastad yn neis pan fydden ni'n wynebu ein gilydd ar y cae.

"Rwy'n meddwl rwy' 'di chwarae yn erbyn e ddwywaith ers Llanymddyfri - unwaith mas yn Stellenbosch, ac yna'r llynedd pan ddaethon nhw i Barc Y Scarlets."

Sacha Feinberg-MngomezuluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn sgorio cais yn y fuddugoliaeth yn erbyn Iwerddon yn Nulyn, 22 Tachwedd 2025

Roedd taid Sacha, Barry Feinberg, yn fardd ac yn aelod blaenllaw o Blaid Gomiwnyddol De Affrica.

Oherwydd y sefyllfa fregus wleidyddol yn y wlad yn ystod y frwydr gwrth-apartheid fe dreuliodd Feinberg flynyddoedd yn byw'n alltud yn Lloegr, ble ganwyd tad Sacha, Nick Feinberg.

Gan fod tad Sacha wedi ei eni yn Lloegr fe wnaeth Eddie Jones, pan oedd yn brif hyfforddwr yno, ymholiadau iddo gynrychioli'r Rhosod Coch.

Ond gyda'r Springboks oedd calon Sacha am fod, ac roedd ei dymor cyntaf yn y crys gwyrdd enwog yn un cwbl arbennig. Enillodd ei gap cyntaf dros Dde Affrica yn erbyn Cymru yn Twickenham, ar 22 Mehefin, 2024.

SachaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn hollti amddiffyn y Crysau Duon yn Eden Park, Auckland, 6 Medi 2025

Enillodd De Affrica'r Bencampwriaeth Rygbi yn 2025, gan guro Seland Newydd i'r brig ar wahaniaeth pwyntiau.

Rhan allweddol o hyn oedd buddugoliaeth swmpus y Springboks dros Yr Ariannin o 67-30 yn Durban, ble sgoriodd Sacha Feinberg-Mngomezulu 37 o bwyntiau (record i dîm De Affrica), mewn perfformiad bythgofiadwy gan y maswr.

Beth all y dyfodol ei gynnig i Sacha Feinberg-Mngomezulu?

"Mae e jest am fynd o nerth i nerth," meddai Harri O'Connor, "a gyda'r pac anferthol De Affrica 'na o'i flaen e ma' hynny'n argoeli i fod yn eitha' dychrynllyd!"

Sacha Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Buddugoliaeth arbennig yn Durban ble sgoriodd Sacha 37 o bwyntiau - record i dîm cenedlaethol De Affrica

Pynciau cysylltiedig