90 o ddiffoddwyr yn ymladd tân fawr ar barc busnes Llandŵ

  • Cyhoeddwyd
Siteserv ym Mharc Busnes LlandŵFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd criwiau o'r Bont-faen, Llanilltud Fawr a Phen-y-bont eu galw am 5.14am

Fe gafodd diffoddwyr eu galw oherwydd tân mawr ar stad ddiwydiannol ym Mro Morgannwg.

Roedd y criwiau o'r Bont-faen, Llanilltud Fawr a Phen-y-bont ers 5.14am fore Mawrth ac ar un adeg roedd bron 90 o ddiffoddwyr ar safle cwmni Siteserv ym Mharc Busnes Llandŵ.

Cafodd wyth pwmp, pedwar tanc dŵr ac offer arall eu defnyddio.

Mae'r tân dan reolaeth ond dywedodd y Gwasanaeth Tân eu bod yn disgwyl bod ar y safle am ddiwrnodau.

Cafodd un o safleoedd eraill Siteserv ei ddifrodi gan dân yn ddiweddar.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod y stad ar gau ond nad oedd ffyrdd ar gau.

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi dweud bod y tân yn hen adeilad Georgia Pacific.

"Mae Gwasanaeth Tân De Cymru yn delio gyda tân mawr yn unedau 2a a 2b ar Barc Busnes y Fro," meddai'r cyngor.

"Pan gyrhaeddon nhw roedden nhw'n wynebu tân oedd wedi datblygu ac yn cynnwys llawer o ddeunydd wedi ei ailgylchu."

Yn ôl y Gwasanaeth Tân roedd dau dân yn yr adeilad.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd mwg trwchus yn yr awyr fore Mawrth

Tân 'enfawr'

Ar un adeg roedd 'na rybudd i 'r cyhoedd fod yn wyliadwrus a chadw drysau a ffenestri ar gau

Dywedodd un llygad-dyst yn Minehead, Gwlad yr Haf, ei fod yn gallu gweld y mwg ar draws Môr Hafren.

Dywedodd Gareth Morgan, sy'n gweithio ar y stad: "Dydw i erioed wedi gweld mwg fel hyn.

"Mae'n enfawr. Yn bersonol, dydw i erioed wedi gweld tân fel yma o'r blaen."

Dywedodd ei fod wedi cael gwybod na fyddai unrhyw un yn cael mynd i'r safle am 24 awr.

"Byddwn ar ei hôl hi o ddiwrnod. Dydyn ni ddim yn cael mynd i'r swyddfa," meddai.

"Yn anffodus, mae ein cyfrifiaduron i gyd yna. Bydd dim gwaith yn y busnes am ddiwrnod."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol