Magwraeth a gyrfa yn ysbrydoli nofel gyntaf Neil Rosser

- Cyhoeddwyd
Efallai fod ysgrifennu nofel yn ymddangos fel tro pedol i'r cerddor, Neil Rosser, ond mae wedi cynnwys llawer ohono'i hun ynddi, meddai.
Mae Wythnos Ryfedd Gwilym Puw, sy'n dilyn helyntion arolygwr ysgolion, wedi ei ysbrydoli gan yrfa ddysgu Neil a barodd dros 30 mlynedd.
A doedd o ddim yn dal nôl wrth drafod pwnc y llyfr – wythnos arolwg mewn ysgol - ar raglen Dei Tomos ar BBC Radio Cymru.
"Beth o'n i moyn 'neud yn y llyfr, oedd pwysleisio cymaint o ffars oedd e; beth oedd athrawon yn gorfod mynd drwyddo i baratoi ar gyfer yr wythnos yna, a hefyd yr wythnos ei hunain, a gymaint o straen a pwysau o'dd e'n ei roi ar yr unigolyn."

Ac yntau wedi dysgu mewn tair ysgol uwchradd dros ei gyfnod fel athro, ac wedi bod drwy nifer fawr o arolygon dros y blynyddoedd, mae mewn lle i allu ysgrifennu am sut beth yw'r cyfnod, sy'n gallu bod yn un anodd.
"Mae dadl i ddweud fod rhaid cael atebolrwydd ond mae bendant wedi mynd yn rhy bell. Mae'r atebolrwydd 'na yn lladd brwdfrydedd os yw e'n mynd yn rhy bell.
"Doedd dim un ohonyn nhw'n bositif, y rhai es i drwyddo. Roedd 'na bwysau aruthrol yn dod mlaen yn ystod yr wythnos yna."
Talu teyrnged
Ond dim beirniadaeth o'r system arolygu yw hon, meddai, ac roedd yn awyddus i ddefnyddio ei lais i dalu teyrnged i athrawon, gydag ambell i athro yn y nofel wedi eu seilio ar rai o gyn-gydweithwyr Neil dros y blynyddoedd.
"Roedden nhw'n gwybod eu bod nhw'n athrawon da, roedden nhw'n cael canlyniadau gwych. Y peth gorau i'w wneud â phobl fel'na yw gadael iddyn nhw fod.
"Roedd hi'n fraint i weithio gyda nhw. Roedden nhw'n gallu mynd i fewn gyda brwdfrydedd ac egni bob dydd, a dal i wneud pum gwers bob dydd, pum diwrnod yr wythnos. O'n i eisiau talu teyrnged iddyn nhw.
"Mae'r athrawon 'na i'w cael mas yna."
Creu cofnod i dafodiaith sy'n cael ei cholli
Ynghyd â'i yrfa fel athro, mae mwy o brofiadau personol Neil wedi treiddio i mewn i'r llyfr, gydag un cymeriad sy'n ddisgybl yn yr ysgol. Mae'n cael ei fagu gan ei dad-cu, ac felly yn siarad hen dafodiaith Cwm Tawe; tafodiaith sydd yn prysur gael ei cholli, eglura Neil.
"Ges i'n fagu mewn ardal o Abertawe sydd ddim yn Gymreigaidd iawn. Roedd cymaint o bobl yn yr ardal yna – ardal Llansamlet, Treforys – o'dde nhw ddim yn pasio'r Gymraeg 'mlaen i'r plant. Ond penderfynodd fy nheulu i eu bod nhw am siarad Cymraeg, ac oherwydd eu bod nhw ddim wedi symud o'r ardal, roedd tafodiaith yr hen bobl yn gryf iawn 'da nhw.
"Mae'n grêt fod y Gymraeg yn ffynnu, ond dyw'r dafodiaith leol ddim wastad yna, a dyw e ddim yn cael ei adlewyrchu yn yr ysgol ac iaith lafar y plant. Mae hwnna yn brysur ddiflannu, ac un o'r acenion sydd wedi diflannu yw acen Cwm Tawe.
"Felly o'n i moyn dod â hwnna mewn, achos dwi'n ei ffeindio mor bert ar y glust i glywed acenion gwreiddiol ardaloedd gwahanol a thafodieithoedd gwahanol.

Mae Neil (dde) yn chwarae gyda'r grŵp, Pwdin Reis
"Mae 'na ddywediad sy'n cael ei ddefnyddio yn y llyfr; o'dd yr hen bobl yn Llansamlet yn y capel lle oedden ni'n mynd yn Llwynbrwydrau yn dweud 'fel lleian mewn crachen'. Mae'n disgrifio rhywun sy'n fywiog ac anystywallt; o'n i'n meddwl fod hwnna'n wych, a 'sa'i 'di chlywed hi erioed tu fas i Gwm Tawe.
"O'n i'n meddwl fod rhaid i mi gael y pethau hyn i mewn rhywffordd. Achos maen nhw'n mynd ar goll. Yn raddol bach, ry'n ni'n eu colli nhw."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2024