Cwpl yn mynd â bwrdd iechyd i'r llys wedi marwolaeth eu merch

LiliwenFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Emily Brazier a Rhodri Thomas wedi lansio achos sifil yn erbyn Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi marwolaeth Liliwen

  • Cyhoeddwyd

Mae cwpl o Gaerdydd yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn bwrdd iechyd wedi i'w merch farw o fewn oriau o gael ei geni.

Bu farw Liliwen Iris Thomas yn Hydref 2022, 20 awr ar ôl cael ei geni yn Ysbyty Athrofaol Cymru, o ganlyniad i gymhlethdodau yn ystod ei genedigaeth.

Mae ei rhieni - Emily Brazier a Rhodri Thomas - wedi lansio achos sifil yn erbyn Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.

Dywedodd y bwrdd iechyd eu bod yn cydymdeimlo â theulu Liliwen, ond ei bod yn amhriodol iddyn nhw wneud sylw cyn i'r cwest i'w marwolaeth gael ei gwblhau.

'Ei gadael ar ei phen ei hun i roi genediaeth'

Yn ôl Ms Brazier a Mr Thomas, roedd ei beichiogrwydd wedi cael ei chategoreiddio fel un risg uchel, ac roedd hi wedi derbyn monitro ychwanegol.

Ond mae'r cwpl, sydd â dau o blant eraill - Carys ac Ellis - yn honni bod Ms Brazier wedi cael ei gadael ar ei phen ei hun i roi genedigaeth.

"Mae fy atgofion o roi genedigaeth yn niwlog iawn, ond fi'n cofio'n amlwg codi'r gobennydd a gweld Liliwen yn hollol llonydd a difywyd," meddai Ms Brazier.

"Fe fydd y darlun yna gyda fi am byth. Fi dal yn cael flashbacks a hunllefau, ac wedi bod yn cael cwnsela ers iddo fe ddigwydd."

Doedd Mr Thomas ddim yn bresennol pan oedd Ms Brazier yn rhoi genedigaeth.

Dywedodd nad oedd yr uned famolaeth yn caniatáu i bartneriaid fod ar y ward dros nos oni bai bod y fenyw yn rhoi genedigaeth, a doedd Ms Brazier ddim wedi cyrraedd y pwynt hwnnw pan fu'n rhaid i Mr Thomas adael.

"Dylen i fod wedi bod yno. Gallwn i fod wedi dadlau dros Emily," meddai Mr Thomas.

"Bydden i wedi pwyso'r gloch a thynnu sylw'r bydwragedd ei bod hi'n amlwg wrthi'n rhoi genedigaeth, ac angen mwy o help a monitro."

LiliwenFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Liliwen Iris Thomas yn Hydref 2022, 20 awr ar ôl cael ei geni

Ychydig cyn hanner nos ar 9 Hydref 2022, dywedodd Ms Brazier ei bod hi wedi cael meddyginiaeth ladd poen a'i bod ar 'gas and air'.

Dywedodd mai'r peth nesaf y mae hi'n cofio ydy deffro wedi 02:00 a darganfod bod ei merch wedi cael ei geni.

"Roedd pethau'n panic llwyr o'r pwynt yna," meddai.

"Fe gymron nhw Liliwen i ffwrdd a rhuthro fi i'r ystafell eni - ro'n i wedi colli lot o waed ac angen stitches, IV fluids a thrallwysiad gwaed.

"Fe ddigwyddodd hyn i gyd tra ro'n i ar yr induction ward, a dim ond llenni o amgylch y gwely yn gwahanu fi rhag pedair menyw arall.

"Mae'n siŵr bod y peth yn ofnadwy iddyn nhw hefyd."

Cafodd Liliwen ei throsglwyddo i'r uned gofal dwys newydd-anedig, ond bu farw'n ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

'Byw hunllef pob dydd'

Ers marwolaeth ei merch, mae Ms Brazier, oedd yn astudio i fod yn nyrs ar y pryd, wedi penderfynu yn erbyn gyrfa ym maes iechyd, ac wedi cael diagnosis anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD).

"Fi'n edrych ar wynebau fy mhlant sy'n fyw ac yn meddwl 'sut fyddai Liliwen yn edrych nawr yn ddwy a hanner?'" meddai.

"Wna i byth ddod dros ei marwolaeth hi. Fi'n teimlo'n sownd mewn amser. Fydda i byth yr un person eto.

"Fi wedi colli fy mhlentyn - dyna hunllef waethaf pob rhiant, a ni'n byw'r hunllef honno pob dydd."

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro eu bod yn cydymdeimlo â theulu Liliwen, ac yn meddwl amdanynt.

"Mae'r bwrdd iechyd yn ymwneud yn llawn â phroses y cwest a byddai'n amhriodol i wneud sylw pellach tan bo'r cwest ar ben," meddai.