Taid a nain 'creulon' wedi llofruddio eu hŵyr 2 oed - llys

Bu farw Ethan Ives-Griffiths yn ddwy oed ar 16 Awst 2021
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r erthygl yn cynnwys manylion a allai beri gofid.
Mae llys wedi clywed y bu farw bachgen dwy oed ar ôl wythnosau o gamdriniaeth ac esgeulustod yng nghartref ei daid a'i nain yn Sir y Fflint.
Bu farw Ethan Ives-Griffiths ar 16 Awst 2021 o anafiadau i'w ymennydd, clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug.
Mae Michael Ives, 47, a Kerry Ives, 46, o Garden City yn Sir y Fflint, wedi'u cyhuddo o lofruddiaeth, achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb tuag at blentyn.
Mae mam Ethan, Shannon Ives, 28 oed, o'r Wyddgrug, wedi'i chyhuddo o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb tuag at blentyn.
Mae'r tri yn gwadu'r cyhuddiadau.

Mae Michael Ives, 47, wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth, achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb tuag at blentyn
Clywodd y llys fod Ethan, ei fam Shannon, a phlant eraill yn byw gyda Michael a Kerry Ives yn haf 2021.
Wrth agor yr achos yn erbyn y tri, dywedodd y bargyfreithiwr Caroline Rees KC ar ran yr erlyniad bod Ethan wedi ei drin gyda "chreulondeb" gan Michael Ives ac nad oedd Kerry Ives na'u merch Shannon Ives wedi gwneud unrhyw beth i warchod y plentyn bach.
Fe gafodd Ethan ei ddisgrifio fel "plentyn tawel, bychan a thenau oedd yn amlwg yn wannach na phlant eraill".
Cafodd ei dargedu a'i "gam-drin a'i esgeuluso," ac yn y cyfnod cyn ei farwolaeth, profodd "ofid, poen a thrallod", meddai Ms Rees.

Mae Shannon Ives, 28, o'r Wyddgrug, wedi'i chyhuddo o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb tuag at blentyn
Ar 14 Awst fe gafodd yr heddlu eu galw gan y gwasanaeth ambiwlans i'r cartref yn Garden City, ger Queensferry.
Dywedodd Ms Rees mai dim ond Michael a Kerry Ives oedd yn yr ystafell fyw pan gwympodd Ethan yn anymwybodol, ac mai nhw'n unig oedd yn gwybod beth yn union digwyddodd.
Roedd ei fam Shannon Ives yn ei hystafell wely ar y ffôn ar y pryd, meddai.
Ond pan gafodd Ethan ei gludo i'r ysbyty, fe gasglodd meddygon fod ganddo anaf "catastroffig" i'w ymennydd, oedd ddim wedi ei achosi trwy ddamwain.
Nid yw ei fam wedi'i chyhuddo o lofruddiaeth, ond mae'r erlyniad yn honni ei bod hi'n ymwybodol ei fod mewn perygl, a'i bod hi "wedi gwneud dim i'w amddiffyn rhag y risg honno".

Clywodd y llys fod Ethan wedi wynebu wythnosau o gamdriniaeth ac esgeulustod yng nghartref ei daid a'i nain
Byddai'r dystiolaeth feddygol yn dangos, meddai Ms Rees, bod yr anaf wedi ei achosi gan ergyd sylweddol neu ysgwyd difrifol i'r pen ychydig funudau cyn i'r plentyn gwympo'n anymwybodol.
Yn ogystal ag anaf i'w ben roedd gan Ethan nifer o anafiadau eraill, yn cynnwys tri chlais maint blaen bys i'w foch, anafiadau i'w geg, ei fol a'i asgwrn cefn, meddai Ms Rees.
Clywodd y llys bod parafeddygon wedi darganfod y bachgen bach yn gorwedd yn anymwybodol o flaen y soffa yn yr ystafell, yn edrych fel "dyn yn ei 90au", gyda llygaid dwfn tywyll a gwefusau sychion gwaedlyd.
Yn ôl Ms Rees, roedd Kerry Ives wedi aros 20 munud cyn galw am gymorth meddygol i Ethan.
Honnodd Ms Rees bod Michael a Kerry Ives wedi oedi cyn galw am help er mwyn cynllwynio i "gelu" yr hyn ddigwyddwyd a chytuno ar eglurhad gwahanol.
"Maen nhw wedi gwneud cytundeb o dawelwch," meddai Ms Rees.
"Pam gwneud hynny oni bai bod ganddyn nhw rywbeth i'w gelu?"
- Cyhoeddwyd17 Mai 2024
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2024
Roedd Ethan Ives-Griiffiths wedi symud i fyw i gartref ei daid a'i nain fis Mehefin 2021 gyda'i fam Shannon Ives.
Yn y llys dydd Mercher, cafodd cyfres o ffilmiau camerâu cylch cyfyng o gartref Michael a Kerry Ives eu dangos i'r rheithgor.
Roedd rhai yn dangos gardd gefn y cartref ble roedd Ethan wedi cael ei roi ar drampolîn gan ei daid.
Roedd plant eraill i'w gweld yn neidio'n galed wrth ei ymyl gan achosi iddo gwympo.
Roedd hi'n ymddangos nad oedd medru cydbwyso'n iawn ac roedd ei ben i'w weld yn ysgwyd yn arw.
Mewn un ffilm roedd ei fam hefyd yn neidio gan achosi i Ethan gwympo.
Roedd Ethan i'w weld yn rhoi ei ddwylo ar ei ben ac yn cerdded yn sigledig ymhob ffilm.
Roedd cyfres arall o ffilmiau yn dangos Michael Ives yn codi Ethan i mewn ac allan o'r car gerfydd un fraich.
Mewn un ffilm roedd hi'n ymddangos i Mr Ives daro'r plentyn ddwywaith yng nghefn y car.
'Amlwg bod Ethan angen cymorth meddygol'
Aeth Ms Rees yn ei blaen i grynhoi'r dystiolaeth feddygol am gyflwr Ethan.
Casglodd y patholegydd Dr Brian Rogers bod gan y plentyn 40 o anafiadau y tu fewn a thu allan i'w gorff pan fu farw.
Roedd y rhain yn cynnwys gwaedu a cheulad gwaed ar ei ymennydd a madruddyn y cefn.
Roedd anaf i'r coluddyn oedd yn debygol o fod wedi ei achosi gan ergyd, meddai.
Ychwanegodd fod yr anafiadau i'w ymennydd hefyd yn debygol o fod wedi eu hachosi gan ergydion neu ysgwyd.
Ym marn Dr Rogers doedd yr anafiadau yma ddim wedi eu hachosi trwy ddamwain, meddai Ms Rees.
Dywedodd Ms Rees bod tystiolaeth gan bedwar arbenigwr meddygol hefyd yn dweud bod Ethan wedi dioddef cyfres o anafiadau oedd ddim yn debygol fod yn ddamweiniol.
Roedd gwaedu i lygaid y plentyn yn gyson ag ysgwydd sylweddol, yn ôl un arbenigwr.
Dywedodd arbenigwr arall bod y lluniau CCTV yn dangos Ethan yn ymddwyn yn "abnormal" a bod hyn yn debygol o fod yn "ymateb a datblygiad seicolegol" i gamdriniaeth, meddai Ms Rees.
"Roedd hi'n amlwg i unrhyw oedolyn rhesymol bod Ethan angen cymorth meddygol, ond wnaeth y tri diffynnydd ddim byd i helpu'r bachgen bregus hwn," dywedodd Ms Rees.
Mae'r achos yn parhau.