Lluniau: Gogledd Cymru o'r awyr

Castell Cricieth yn y gwyll
- Cyhoeddwyd
Mae Gareth Ellidge yn rhannu ei gariad tuag at Gymru drwy lens unigryw.
Gyda'i drôn, mae'n teithio ledled y gogledd, yn tynnu lluniau o olygfeydd cyfarwydd - o'r eiconig i'r cyffredin - ond o ongl anghyfarwydd.

Pont y Ddraig, Y Rhyl

Trên stêm Black Five ar y draphont dros y prom yn Hen Golwyn

Llong stemar y Waverley yn ymweld â phier Llandudno
"Beth dwi wir yn ei fwynhau ydi mynd i leoedd sy'n golygu rhywbeth i mi, ac i'r bobl sy'n byw o amgylch fan'ma," eglura.
"Efallai ei fod yn ffordd rydyn ni'n ei gyrru arni bob dydd neu'n adeilad rydyn ni wedi stopio cymryd sylw ohono. Ond pan ti'n ei weld o'r awyr, mae o'n teimlo'n wahanol."

Pentref heddychlon Beddgelert

Llun amlygiad hir (long exposure) o gar mewn maes parcio yn Sychnant

Castell Penarlâg - "roedd rhaid i mi gael caniatâd arbennig Maes Awyr Penarlâg i gael hedfan drôn i dynnu'r lluniau yma"
"Dwi'n caru bod allan yn ystod y wawr neu jest fel mae'r golau yn newid," meddai. "Mae'n dod â heddwch i'r lluniau.
"Mae hefyd yn her; gwneud i rywbeth cyffredin edrych yn anhygoel. Ond dyna'r rhan gorau."

Llyn Celyn

Cwch cyflym yn gwibio drwy'r môr ger Llandudno

Castell Gwydir wedi ei amgylchynu gan y gerddi, gyda golygfa i lawr Dyffryn Conwy
Dim ond ers ychydig dros ddwy flynedd mae Gareth wedi bod yn ymddiddori mewn ffotograffiaeth, ond bellach mae ganddo filoedd o ddilynwyr yn ei grŵp Facebook, Welsh Skies by Gareth.

Gweddillion long pleser y Rhosneigr a ddrylliodd oddi ar arfordir Llandrillo-yn-Rhos yn 1908

Twnnel Moel Dyrnogydd ger Blwch y Gorddinan (Crimea)

Gogledd Cymru ddiwydiannol dan olau'r lleuad... llong Jonaborg ger Glanfa Raynes, Llanddulas
Ag yntau wedi byw yn y gogledd ei holl fywyd, ei gariad tuag at ei gynefin sy'n ei yrru 'mlaen, meddai:
"Dwi'n caru beth dwi'n ei wneud – mae'n rhoi teimlad o falchder i mi. Dydi o ddim jest am ffotograffiaeth, mae am ddangos pobl harddwch lle 'dan ni'n byw.
"Dyma Gymru. Ac weithiau ti jest angen ongl wahanol i weld pa mor anhygoel ydi hi."

Pont Sir y Fflint, sy'n cysylltu'r Fflint a Chei Connah

Clogwyni serth y Gogarth Fawr

Goleudy Talacre, a gafodd ei adeiladu yn 1776
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd21 Medi 2023
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2024