Ateb y Galw: Emyr Afan

Emyr AfanFfynhonnell y llun, Emyr Afan
  • Cyhoeddwyd

Cynhyrchydd gweithredol a sylfaenydd y cwmni teledu Afanti yw Emyr Afan... a fo sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma.

Ag yntau newydd fod yn gyfrifol am dros 160 awr o ddarlledu byw o Eisteddfod yr Urdd wythnos diwethaf yn ogystal â bod yn un o lywyddion y dydd, mi gymerodd saib o'i amserlen prysur i ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw.

Beth yw eich atgof cyntaf?

Eistedd ar garped y stafell fyw yn Mans y Gorlan yng Nghwm Afan gyda fy mrodyr a fy chwiorydd o 'nghwmpas, a Mam yn ei ffedog yn gofalu amdanom ni gyd. Fel y 'cyw melyn olaf'... "A fi!" oedd yr enw cefais gan fy mrodyr a chwiorydd wrth iddynt adael fi allan yn gyson, am fy mod yn rhy fach i ymuno yn eu hwyl.

Rwy'n grediniol bod cystadlu am fy lle yn y teulu wedi arwain at fy ysbryd entrepreneuraidd creadigol.

PlentynFfynhonnell y llun, Emyr Afan
Disgrifiad o’r llun,

Emyr, neu "A fi!" fel yr oedd yn cael ei alw gan ei frodyr a'i chwiorydd pan yn blentyn

Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Heb os Carn Llidi sef y mynydd tu ôl i'n ffermdy Porthmawr Uchaf yn Nhraethmawr, Tyddewi. Dyma oedd un o hoff lefydd y bardd Waldo hefyd ac rwy'n aml yn meddwl am ei eiriau wrth ddringo i'r copa ac edrych allan ar ddiwrnod clir ar draws gogledd Sir Benfro am filltiroedd.

Cans yma mae mynydd fy mynyddoedd

A'i hug o rug fel yr oedd pan glybu'r

Canu ar antur y cynnar wyntoedd

TirweddFfynhonnell y llun, Emyr Afan
Disgrifiad o’r llun,

Carn Llidi, hoff le Emyr

Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?

Genedigaeth fy nghyntaf anedig Alaw Fflur. Sioc anferth i lanc ifanc 24 mlwydd oed ond gorfoledd llwyr.

Fi'n cofio i'r llawenydd yna orffen yn hwyr y noson honno wrth fynd heibio bwyty Indiaidd a rhannu fy ngorfoledd gyda'r perchennog a'i ateb swrth oedd "mae gen i 13 ohonyn nhw a ddei di drosto fe!".

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.

Creadigol, chwareus, caredig.

Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Chwarae pass the parsel mewn parti fy nghyfnither Sioned Elias pan oeddwn yn wyth a chwrdd â merch o'r enw Mair (y gwaelod ar y dde yn y llun ac mae'n edrych dros y bwrdd ata i!). Fi bron yn sicr wna'th hi wenu arna i.

Rhyw ddegawd yn ddiweddarach dechreuodd y garwriaeth sydd wedi para dros 40 mlynedd.

PartiFfynhonnell y llun, Emyr Afan
Emyr a MairFfynhonnell y llun, Emyr Afan
Disgrifiad o’r llun,

Emyr a'i wraig Mair - "carwriaeth sydd wedi para dros 40 mlynedd'

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?

Ffilmio sbesial Pasg ar gyfer Songs of Praise yn Jeriwsalem gydag Aled Jones a gweld sut oedd llygredd dyn a chrefydd wedi difetha cysegr bedd honedig Crist a sawl lleoliad allweddol arall bellach yn syrcas twristaidd gyda gwneud arian wrth wraidd y profiad. Yr hil ddynol heb newid dim ers dyddiau Crist yn troi byrddau y Synagog.

Emyr ac AledFfynhonnell y llun, Emyr Afan
Disgrifiad o’r llun,

Emyr a'r canwr Aled Jones

Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?

Wythnos diwethaf wrth eistedd a gwrando ar albwm Tir Cyffredin – Celfyddyd Di-Gyfaddawd ar iTunes ar ôl clywed i ni golli un o'r gitaryddion bâs gorau a boi hyfryd dros ben yn Dafydd Wyn o Aberystwyth. Roedd Dafydd mewn sawl grŵp gyda mi o Tir Cyffredin i Pererin. Dafydd oedd y gitarydd bâs gorau i mi 'rioed chware gyda ac yn foi hollol hyfryd.

Daeth y newyddion amdano yn fuan ar ôl clywed am golli ffrind annwyl arall i mi sef Mike Peters o The Alarm i ganser ac roedd y ddau golled yn olynol yn ormod i mi.

Emyr a DafyddFfynhonnell y llun, Emyr Afan
Disgrifiad o’r llun,

Emyr a'i ffrind Dafydd Wyn a fu farw'n ddiweddar

Emyr a'r diweddar Mike PetersFfynhonnell y llun, Emyr Afan
Disgrifiad o’r llun,

Emyr a'r diweddar Mike Peters

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?

Oes! Gormod! Rhan fwyaf i wneud gyda bwydydd sydd ddim yn iach. Fi'n trio'n galed i wneud fy nghorff fel teml ond gan fwyaf mae e'n fwy fel canolfan hamdden!

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Heb os, Un Nos Ola Leuad gan Caradog Pritchard a dwi'n falch iawn i ddweud bod opera ffilm wedi cael ei gynyrchu gennym ar y cyd gyda Opera Cymru a Seren o'r enw Tannau'r Lloer / Fires of the Moon sydd wedi cael ei ysbrydoli gan y llyfr gwreiddiol ac ar sail gwaith opera gwych y cyfansoddwr Gareth Glyn.

Mae'n ffilm du a gwyn wedi ei chyfarwyddo gan Chris Forster a'r sgript gan Marc Evans. Bydd yn cael ei rhyddhau cyn hir mewn theatrau a gŵyliau ffilm gyda darllediad cyd-amserol ar C4 ac S4C flwyddyn nesaf.

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?

John Lennon – athrylith o fardd a cherddor.

John LennonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

John Lennon- 'athrylith o fardd a cherddor'

Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mae fy mawd chwith hanner maint fy un dde ar ôl damwain yn blentyn wrth chwarae pêl droed a gwrthod mynd i'r cwrdd yn y nos. Am flynyddoedd fel plentyn roeddwn yn cyfri hyn fel cosb Duw! Yn dechnegol dylwn i ddim fod yn gallu chware gitâr o gwbl ond fi wedi dysgu techneg o weithio rownd hynny neu fel arall baswn yn Eric Clapton!

Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?

Mynd â fy mhedwar ŵyr Indeg, Besi, Macsen a Ruby i barc y pentref yn Rhiwbeina, lle rwyf newydd symud i fyw am bicnic tedi bêrs.

Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

Rwyf wedi bod yn edmygwr o waith yr artist David Cowdry.

Dyw e ddim yn derbyn gwaith comisiwn fel y cyfryw ond heb yn wybod i mi, pan golles i fy mam wnath e baentio llun hyfryd o Mair Eluned Davies a'i gyflwyno i mi just cyn steddfod Llanbed wedi ei lapio mewn papur brown plaen.

Roedd ei agor yn sioc ac yn tynnu dagrau i'm llygaid. Mae yn drysor i mi yn y tŷ newydd.

CowdryFfynhonnell y llun, Emyr Afan
Disgrifiad o’r llun,

Llun o Mair Eluned Davies wedi ei baentio gan yr artist David Cowdry - llun y mae Emyr yn ei drysori

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

John Travolta ar set Grease – ffilm hynod ddylanwadal yn fy llencyndod.