Pum munud gyda Sophie Mackintosh

Sophie MackintoshFfynhonnell y llun, Alice Zoo
  • Cyhoeddwyd

Mae'r awdur o Sir Benfro, Sophie Mackintosh, wedi cael ychydig o flynyddoedd hynod llwyddiannus.

Cafodd ei nofel gyntaf, The Water Cure, le ar restr hir y Man Booker Prize yn 2018, ac yn 2023, cafodd Sophie ei chynnwys yn y rhestr Best of Young British Novelists; yr 20 awdur mwyaf addawol o dan 40 oed. Bydd ei phedwerydd nofel - Permanence - yn cael ei chyhoeddi yn 2026.

Dyma gyfle i ddod i'w hadnabod yn well.

Rydych chi'n wreiddiol o Sir Benfro - ydych chi'n teimlo fod eich magwraeth yno wedi dylanwadu arnoch chi?

'Nes i dyfu lan yn Arberth, a fi'n meddwl bod byw mewn tirwedd mor hardd – ac un sydd yn gallu fod yn anhygyrch, hefyd! – wedi cael dylanwad pwysig ar fy ngwaith.

Yn fy llyfr cyntaf, The Water Cure, mae'r teulu yn byw mewn gwesty ar ynys, ac oeddwn i'n meddwl, yn fy mhen, am Barafundle a Stackpole am leoliad – rhywle mor braf, ond sy'n teimlo fel ti'n bell o'r byd.

Hefyd, fel plentyn oeddwn i'n darllen llawer a mynd i'r llyfrgell yn Arberth yn aml.

Pryd wnaethoch chi benderfynu mai awdur oeddech chi am fod?

Fi 'di bod yn ysgrifennu ers oeddwn i'n teenager, ond cerddi. Ceisiais ysgrifennu nofel pan o'n i'n 17, ond wnes i ddim mynd yn bell!

Rydw i wedi gweithio mewn swyddi eraill, yn PR a marchnata, ond roeddwn i'n gwybod bod fi eisiau ysgrifennu nofel, a wnes i ysgrifennu yn fy amser rhydd i orffen fy nofel gyntaf.

Roedd eich nofel gyntaf, The Water Cure, ar restr hir y Man Booker Prize yn 2018. Sut beth oedd cael gymaint o ganmoliaeth amdano?

Roedd e'n profiad swrreal i dweud y gwir! Ond gwych, hefyd.

Roeddwn i wedi meddwl falle mai fy mam a ffrindiau fyddai'r unig bobl fyddai'n darllen y nofel, ond yn y diwedd mae llawer mwy wedi ei darllen, a fi'n teimlo'n ddiolchgar iawn am hynny.

Llyfr SophieFfynhonnell y llun, Sophie Mackintosh
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Sophie 'funud iddi hi'i hun' ar ôl cael gafael ar gopi caled o'i nofel gyntaf

Am ba fath o themâu ydych chi'n ysgrifennu?

Mae nofelau fi yn wahanol, ond rwy'n ysgrifennu yn aml am gymeriadau sy'n teimlo'n unig, a chymeriadau sy'n byw mewn sefyllfa anarferol.

Roedd fy nofelau cyntaf ac ail yn nofelau gyda theimlad dystopian hefyd – rwy'n hoffi cymryd elfennau o sci-fi a speculative fiction yn fy ngwaith i chwilio am ffyrdd gwahanol i ysgrifennu am faterion ein byd.

Mae Permanence wedi bod yn hwyl i ysgrifennu achos oedd rhaid i fi greu byd hollol newydd, ond gydag elfennau ni'n gallu adnabod o byd ni.

Mae The Water Cure yn nofel fwy agos i realiti, ond mae'n rhaid i'r darllenwyr benderfynu os mai realiti y teulu yw realiti y byd.

Cyn troi at nofelau, roeddech chi'n adnabyddus am ysgrifennu straeon byrion. Pa genre sydd well gennych chi?

Rwy'n hoffi ysgrifennu nofelau. Mae'n deimlad gwych i eistedd gyda stori am amser hir (blynyddoedd!) ac i weithio ar brosiect fawr.

Mae ysgrifennu straeon byr yn anoddach i fi.

Sophie MackintoshFfynhonnell y llun, Getty Images

Rydych chi'n ysgrifennu yn bennaf yn Saesneg. Ydych chi'n ysgrifennu yn Gymraeg o gwbl?

Dydw i ddim wedi ysgrifennu gymaint yn Gymraeg, falle oherwydd fod Saesneg jyst yn haws i fi.

Mae ysgrifennu yn Gymraeg yn cymryd amser hir i fi, a rwy'n meddwl amdano fe fel iaith fi'n siarad, mwy na ysgrifennu. Rwy'n siarad Cymraeg yn aml gyda teulu a ffrindiau.

Ond falle dylwn i gymryd yr amser i ysgrifennu Cymraeg mwy – falle fydden i'n synnu fy hun!

Yn 2023, cawsoch chi eich enwi ar y rhestr o 20 awdur Prydeinig mwyaf arwyddocaol o dan 40. Oes 'na bwysau mawr arnoch chi ers hynny?!

Ha! 'Sa i'n teimlo pwysau, ond roedd e'n foment gwych ac, eto, swrreal.

Yr unig beth nawr yw parhau i ysgrifennu mwy a mwy o nofelau, ac rwy'n gobeithio mae llawer mwy ynddo fi!

Pynciau cysylltiedig