Eisteddfod yr Urdd: Lluniau dydd Sadwrn

Merched Cor Taflais ar y ffordd i gystadluFfynhonnell y llun, Celf Calon
Disgrifiad o’r llun,

Merched Cor Taflais ar y ffordd i gystadlu, a'n dal i wenu er gwaetha'r glaw

  • Cyhoeddwyd

Mae hi wedi bod yn wythnos i'w chofio ym Mharc Margam!

Roedd Betsan Evans, Celf Calon yn crwydro'r maes ar ran Cymru Fyw heddiw, ac roedd digon i'w weld ar ddiwrnod olaf Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr.

Nel yn ymarfer sgiliau syrcas ar y maesFfynhonnell y llun, Celf Calon
Disgrifiad o’r llun,

Nel yn ymarfer sgiliau syrcas ar y maes

Michael, Kate, Charlie ac Ollie o BontypriddFfynhonnell y llun, Celf Calon
Disgrifiad o’r llun,

Michael, Kate, Charlie ac Ollie o Bontypridd, sy'n deulu o siaradwyr Cymraeg newydd. Ar ôl mwynhau cymaint yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd, roedd Charlie yn benderfynol o ymweld ag Eisteddfod Dur a Môr eleni

Aelwyd Penrhyd cefn llwyfanFfynhonnell y llun, Celf Calon
Disgrifiad o’r llun,

Aelwyd Penrhyd, Llandybie yn paratoi i hoelio'r gystadleuaeth!

Cyfeilyddon PenrhydFfynhonnell y llun, Celf Calon
Disgrifiad o’r llun,

Cyfeilyddion profiadol Penrhyd yn barod am y llwyfan

Yr actores Jalisa Phoenix-Roberts ar y maesFfynhonnell y llun, Celf Calon
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr actores Jalisa Phoenix-Roberts wrth ei bodd fod Eisteddfod yr Urdd yn ei milltir sgwâr, yn enwedig gan fod cyfoeth o ddoniau canu ac actio yn yr ardal. Bu hefyd yn dweud pa mor bwysig iddi yw fod y Gymraeg yn cael ei chlywed yn ardal Port Talbot

Trystan a Heledd, cyflwynwyr S4CFfynhonnell y llun, Celf Calon
Disgrifiad o’r llun,

Mae Trystan a Heledd wedi cael wythnos brysur yn cyflwyno rhaglenni S4C o'r Eisteddfod. Fe fydd rhaglen olaf yr wythnos heno am 18:15 ar S4C, neu gallwch wylio eto ar iPlayer neu S4C Clic

Mirain IweryddFfynhonnell y llun, Celf Calon
Disgrifiad o’r llun,

Y gyflwynwraig Mirain Iwerydd yng ngofal y gerddoriaeth ym mhabell Na nOg, a'n edrych ymlaen hefyd at ŵyl Triban heno ar faes yr Eisteddfod

Lan Star Ffynhonnell y llun, Celf Calon
Disgrifiad o’r llun,

Y grŵp Lan Star yn rocio yng nghystadleuaeth band/arist unigol yn yr Adlen

Iestyn Gwyn Jones, enillydd cystadleuaeth Unawd Sioe GerddFfynhonnell y llun, Celf Calon
Disgrifiad o’r llun,

Iestyn Gwyn Jones, enillydd y gystadleuaeth unawd o sioe gerdd. Bydd Iestyn hefyd yn perfformio mewn gwyliau eraill yn ystod yr haf, fel rhan o ddeuawd gwerin amgen Cadog

Dadleoli yn perfformio set acwstigFfynhonnell y llun, Celf Calon
Disgrifiad o’r llun,

Dadleoli yn perfformio set acwstig ar stondin Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Criw Hansh ar y maesFfynhonnell y llun, Celf Calon
Disgrifiad o’r llun,

Criw Hansh yn llawn drygioni ar y maes a'n amlwg wedi mwynhau Eisteddfod Dur a Môr!

Fe welwn ni chi yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026!

Pynciau cysylltiedig