Sgil-effeithiau cyffur o dan y lach
- Cyhoeddwyd
Mae galw am godi ymwybyddiaeth am sgil-effeithiau cyffur a roddwyd i ferched beichiog ynghanol y ganrif ddiwethaf.
Mae Diethylsbildestrol neu DES yn dal i effeithio ar unigolion hyd heddiw.
Yn ôl rhai, dyma'r "thalidomide" cudd, cudd am nad oedd neb yn gweld ei sgil-effeithiau, a chudd am nad oedd fawr neb yn gwybod amdano.
Fe gafodd Dafydd Roberts ei eni ym 1945 yn Llanfair, Harlech - y trydydd plentyn ond yr unig un gafodd ei eni yn fyw.
Oestrogen synthetig
Yn ôl ei fam, roedd y diolch am hynny i gyffur o'r enw DES, yr oestrogen synthetig cyntaf oedd yn cael ei farchnata fel "cyffur gwyrthiol" fyddai'n osgoi erthyliad naturiol.
Roedd cryfder y dos dyddiol a roddwyd i rai mamau yn cyfateb i gymryd 700 o dabledi atal-cenhedlu heddiw.
"Dwi'n cofio mam yn d'eud ei bod yn cael injections pan oedd hi'n fy nisgwyl i, ac mi ddaru nhw y tric i fy nghael i, medda' hi, achos oedd hi wedi colli dau blentyn arall yn barod - yn still birth," meddai Mr Roberts.
Ond yn 2001, yn 56 oed, fe gafodd o ddiagnosis o diwmor ar ei chwaren - y pituitary gland. Cafodd lawdriniaeth a radiotherapi.
Bellach mae'n credu bod ei diwmor yn gysylltiedig â'r cyffur gymrodd ei fam.
"Mae Diethylsbildestrol wedi cael ei ddosbarthu yn endocrine disruptor, sy'n golygu ei fod yn amharu ar glandiau'r corff sydd yn cynhyrchu hormonau.
"Mae'r pituitary yn un o brif glandiau'r corff, sydd yn cynhyrchu hormonau, ac yn cael ei alw yn Saesneg y Master Gland. Mae'r cyffur yn medru effeithio arno fo," meddai.
'Creu canser'
Ar ddechrau'r 70au roedd amheuon am y cyffur ar ôl i ymchwil ddangos ei fod yn creu canser y groth neu'r fagina i rai o blant y mamau oedd wedi ei gymryd.
O ganlyniad fe gafodd meddygon eu cynghori i beidio â'i roi i ferched beichiog.
Roedd ymchwil gafodd ei gyhoeddi bron 20 mlynedd ynghynt wedi profi nad oedd DES yn gwneud yr hyn yr oedd i fod i'w wneud, lleihau'r risg o erthyliad naturiol.
Tua 10,000 o ferched dderbyniodd y cyffur ym Mhrydain ond mae'n debyg bod hyd at 300,000 wedi eu heffeithio.
Roedd Dr Gruff Jones o Dreffynnon yn feddyg teulu yn y cyfnod ac yn cofio pan oedd merched beichiog yn cael cymryd y cyffur.
'Trafferthion'
"Roedd yna drafferthion adeg hynny efo pobol methu cario 'mlaen i gael plant ac oeddan nhw'n colli plentyn yn aml.
"Os oedd rhywun wedi colli dau neu dri w'rach fasan ni'n eu helpu nhw efo'r cyffur yma yn y dyfodol os oedden nhw yn disgwyl wedyn."
Ychwanegodd bod y rheolau a chanllawiau yn llawer llymach y dyddiau hyn cyn bod cyffur newydd yn cael ei roi ar y farchnad.
Ond doedd sawl meddyg teulu wnaeth Manylu gysylltu â nhw, gan gynnwys rhai oedd yn gweithio yn y cyfnod pan oedd DES yn cael ei roi i ferched beichiog, ddim wedi clywed am yr amheuon am y cyffur.
Syndod
Mae hynny'n syndod i Dr Myfanwy Davies, darlithydd mewn Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor.
"Mae hynny'n rhyfedd, dydi, achos mi gafodd y papur oedd yn dangos y perthynas efo canser ei gyhoeddi yn 1971 ac mi wnaeth Llywodraeth America a Llywodraeth Prydain ymateb yn eitha cyflym i hwnnw - o fewn y flwyddyn - i dynnu'r drwydded ar gyfer ei ddefnyddio fo i famau beichiog.
"Mi oedd o'n cael ei ddefnyddio am bethau eraill am rai blynyddoedd wedi hynny, ond mi ga'th meddygon teulu y cyfarwyddyd i beidio ei roi i ferched beichiog yr adeg hynny. P'run ai gafodd o ei egluro yn ddigonol iddyn nhw ai peidio, dwi ddim yn gwybod."
Y drafferth i Dafydd Roberts ydy nad oes ymchwil wedi ei wneud i weld a ydy DES yn gallu effeithio ar y chwaren lle cafodd ei diwmor. Er hynny mae tystiolaeth bod DES yn effeithio ar y system endocrinaidd - ac mae'r chwaren yn perthyn i'r system honno.
Ynghyd â galw am ymchwil pellach ar effaith DES ar y chwaren bitweidol, mae'n flin nad oes mwy o ymwybyddiaeth am yr adroddiadau sydd eisoes wedi eu cyhoeddi.
Manylu, ar BBC Radio Cymru ddydd Iau, Mehefin 19 am 12.30 a dydd Llun Mehefin 23, am 18.55.