Pryder o'r newydd am domenni glo wedi tirlithriad Cwmtyleri

Disgrifiad,

Mae pobl wedi gorfod symud o’u cartrefi wedi'r tirlithriad yn ardal Cwmtyleri, Blaenau Gwent

  • Cyhoeddwyd

Mae nifer o ASau Cymreig wedi codi pryderon am ddiogelwch tomenni glo ac wedi galw am fwy o gefnogaeth gan Lywodraeth y DU ar y mater yn dilyn Storm Bert.

Roedd y gwleidyddion - o sawl plaid wahanol - yn siarad yn ystod datganiad brys yn Nhŷ'r Cyffredin ar y llifogydd.

Dydd Llun daeth cadarnhad bod tirlithriad yng Nghwmtyleri wedi dod o domen lo.

Mae'r domen yn un categori D - un sydd â'r potensial mwyaf o achosi perygl i'r cyhoedd, ac sy'n cael ei harchwilio ddwywaith y flwyddyn.

Cafodd ei hasesu ddiwethaf ym mis Awst, a ni chafodd unrhyw bryderon eu codi bryd hynny.

Cyhoeddwyd £25m i ddiogelu tomenni glo Cymru yng nghyllideb Llywodraeth y DU fis hydref, ond roedd 'na eisoes alw am fwy.

Mae'r llywodraeth yn dweud eu bod wedi cynnig cefnogaeth i Gymru yn dilyn y glaw trwm dros y penwythnos.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Daeth cadarnhad ddydd Llun bod y tirlithriad yng Nghwmtyleri wedi dod o domen lo

Dywedodd AS Plaid Cymru Ynys Môn, Llinos Medi fod tirlithriad o domen lo yng Nghwmtyleri yn "hynod bryderus" ac y byddai’n "arwain at bryder i eraill sy’n byw ger tomenni glo".

“Mae’r tomenni yma'n etifeddiaeth diwydiant a gymrwyd o Gymru i gyfoethogi Llundain, ond eto dim ond 4% o’r £600m sydd ei angen i’w diogelu mae Llywodraeth y DU wedi addo."

Yn ymateb i hynny dywedodd Ysgrifennydd Amgylchedd Llywodraeth y DU, Steve Reed, mai dyma'r "llywodraeth gyntaf i gynnig nawdd i ddelio â thomenni glo".

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y domen lo ei hasesu ddiwethaf ym mis Awst, a ni chafodd unrhyw bryderon eu codi bryd hynny

Ychwanegodd AS Llafur Blaenau Gwent a Rhymni, Nick Smith fod Storm Bert wedi bod yn "ddinistriol" i'w etholwyr.

Dywedodd ei fod yn croesawu'r £25m a gyhoeddwyd fis Hydref, ond o ystyried y "tywydd rhyfeddol" dros y penwythnos gofynnodd a fyddai rhagor o arian yn cael ei ddarparu.

Dywedodd Steve Reed fod Keir Starmer wedi siarad â Phrif Weinidog Cymru Eluned Morgan i'w "sicrhau fod unrhyw gefnogaeth sydd ei angen ar Lywodraeth Cymru i ddelio â’r sefyllfa ar gael".

"Mae’r cynnig hwnnw ar agor ac rydym yn barod i gefnogi ein cydweithwyr yng Nghymru os, a phryd y bydd angen hynny arnynt."

Pynciau cysylltiedig