'Dim modd cynnal llyfrgelloedd Cymru heb newidiadau mawr'

  • Cyhoeddwyd
llyfrgell
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r argymhellion yn dilyn adolygiad arbenigol o lyfrgelloedd cyhoeddus Cymru

Mae adolygiad gan Lywodraeth Cymru o wasanaethau llyfrgell wedi dod i'r casgliad bod angen newidiadau sylfaenol er mwyn sicrhau dyfodol llyfrgelloedd.

Fe allai hyn arwain at "gydleoli" gwasnaethau a lleihau'r nifer o lyfrgelloedd bychain.

Mae'r adroddiad yn galw am weithredu ar frys gan wasanaethau llyfrgell er mwyn cynllunio ar gyfer y dyfodol.

Wrth gyhoeddi casgliadau'r adroddiad, dolen allanol, hawliodd y Dirprwy Weinidog Ken Skates AC, nad yw'r drefn bresennol yn gynaliadwy, gan ddweud bod angen trawsnewid y gwasanaethau.

'Darpariaeth hanfodol'

Dywedodd Mr Skates: "Mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn wasanaeth statudol sy'n rhoi darpariaeth hanfodol i'r gymuned, i unigolion o bob oed.

"Mae eu hangen fwy nag erioed i roi cyfleoedd dysgu a mynediad at wasanaethau digidol, i helpu pobl i gael gwaith ac fel man i'r gymuned ddod ynghyd i gymdeithasu.

"Oherwydd y straen ariannol sy'n wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus, mae'n amlwg nad yw'r model cyfredol o wasanaethau llyfrgell bychain yn mynd i allu goroesi'r heriau sydd o'n blaen.

"Mae cynlluniau i foderneiddio a chydleoli gwasanaethau lleol i greu canolfannau cymunedol a chynlluniau i wneud pob plentyn yn aelod o lyfrgell yn sicrhau bod llyfrgelloedd Cymru ar flaen y gad o ran datblygiadau mewn gwasanaethau llyfrgell yn y DU."

Strategaeth newydd

Ymhlith yr argymhellion mae'r adroddiad yn dweud y dylai pob gwasanaeth llyfrgell gyhoeddi strategaeth "ar sail canlyniadau" a'i adolygu yn rheolaidd.

Mae'r argymhellion yn galw am weithredu ar unwaith ar gynlluniau cydweithio newydd.

Yn ôl yr awduron yr adroddiad: "Dylai awdurdodau lleol gydnabod yr angen am fwy o bwyslais, a hynny ar frys, ar gynlluniau cydweithredol yn eu strategaethau ar gyfer darparu llyfrgelloedd cyhoeddus i'r dyfodol, yn enwedig rhwng adrannau awdurdodau lleol, ar draws ffiniau'r awdurdodau lleol a chyda llyfrgelloedd eraill yn y sector cyhoeddus, a dylent ymateb i'r angen hwnnw."

Mae disgwyl i'r argymhellion arwain at ragor o gydweithio rhwng llyfrgelloedd a lleihau'r nifer o'r lyfrgelloedd hynny sydd yn darparu gwasanaethau ar gyfer nifer cymharol fechan o gwsmeiriaid.