Deddf 'hanfodol' i geisio adfer amgylchedd Cymru wedi'i chyhoeddi

- Cyhoeddwyd
Mae deddf newydd sydd â'r bwriad o warchod natur a gwrthdroi colli bywyd gwyllt wedi cael ei chyflwyno gan Lywodraeth Cymru.
Os caiff ei phasio bydd yn galluogi aelodau'r cyhoedd i herio sefydliadau yng Nghymru, gan gynnwys cynghorau, ar faterion amgylcheddol fel llygredd dŵr.
Bydd cyrff cyhoeddus yng Nghymru hefyd yn cael eu gorfodi i gyhoeddi cynlluniau gweithredu adfer byd natur, gyda thargedau wedi'u gosod gan Lywodraeth Cymru.
Ond mae ymgyrchwyr yn dweud ei bod yn hen bryd cyflwyno'r mesur, gan nodi "methiant systemig" Llywodraeth Cymru a chyrff rheoleiddio "i gadw ein hafonydd yn lân ac erlyn y rhai sy'n eu llygru".

Daeth ymyrraeth gan y Comisiwn Ewropeaidd ynghylch pwerdy Aberddawan
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi wynebu beirniadaeth ynglŷn â pha mor hir mae'n cymryd i fynd i'r afael â'r hyn sydd wedi'i ddisgrifio fel bwlch o ran y mesurau sydd yn eu lle i warchod yr amgylchedd ar ôl Brexit.
Roedd pobl yn arfer gallu cwyno'n rhad ac am ddim i'r Comisiwn Ewropeaidd os oedden nhw'n teimlo nad oedd eu llywodraeth a'u cyrff cyhoeddus yn gwneud digon i gydymffurfio â deddfau gwyrdd a hybu natur.
Fe allai benderfynu ymchwilio ar eu rhan a gorfodi cenhedloedd i weithredu – roedd enghreifftiau nodedig yn ymwneud â Chymru yn cynnwys methiant i fynd i'r afael â gollyngiadau carthion, mynd i'r afael ag allyriadau llygryddion niweidiol o orsaf bŵer glo Aberddawan ym Mro Morgannwg yn ogystal â lefelau llygredd aer ar rai o ffyrdd prysuraf Cymru.
- Cyhoeddwyd21 Mai
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd21 Medi 2023
Sefydlodd Llywodraeth y DU Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd (OEP) annibynnol yn 2021 i gyflawni rôl debyg ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon, tra sefydlodd Llywodraeth yr Alban gorff o'r enw Environmental Standards Scotland yn yr un flwyddyn.
Gadawodd hynny Gymru fel yr unig ran o'r DU heb drefniadau parhaol ar waith.
Bydd sefydlu Swyddfa Llywodraethu Amgylcheddol Cymru yn ateb beirniadaeth gan ymgyrchwyr.
Bydd ei rôl yn cynnwys sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus, megis Llywodraeth Cymru, CNC a chynghorau, yn cydymffurfio â'r gyfraith ac yn ei gweithredu.

Mae elfennau eraill o'r bil yn cynnwys sicrhau bod gweinidogion Llywodraeth Cymru a'r rheoleiddiwr Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio amddiffyniad amgylcheddol wrth lunio polisi.
Mae hefyd yn gosod targedau "uchelgeisiol" sy'n canolbwyntio ar wrthdroi colli bywyd gwyllt yn gyfraith, gyda chyrff cyhoeddus sydd â'r dasg o baratoi a chyhoeddi cynllun gweithredu adfer byd natur ar gyfer eu hardaloedd.
Disgrifiodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies fel "deddfwriaeth hanfodol a bydd yn rhoi'r grym i ni allu mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, diogelu ein hamgylchedd rhag niwed a sicrhau dyfodol cynaliadwy i Gymru".
"Mae Cymru'n wynebu heriau digynsail oherwydd y newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth gyda tywydd mawr fel llifogydd, gwres, sychder a thanau gwyllt yn effeithio'n sylweddol ar ein cymunedau, ein hecosystemau a hyd yn oed ein heconomi.
"Ni fu erioed cymaint o frys arnom i weithredu, ac mae'r Bil hwn yn gam pwysig i gryfhau ein hymateb a'n mesurau i gadw golwg ar weithredu yng Nghymru."

"Mae rhywogaethau a oedd unwaith yn gyffredin, fel y gylfinir, ar y dibyn," meddai Annie Smith o RSPB Cymru
Dywedodd Annie Smith, Pennaeth Polisi a Gwaith Achos RSPB Cymru fod hi'n "falch" bod y bil wedi'i gyflwyno.
"Rydym yn byw mewn un o'r gwledydd sydd wedi dirywio fwyaf o ran byd natur ar y Ddaear", meddai.
"Mae rhywogaethau a oedd unwaith yn gyffredin, fel y gylfinir, ar y dibyn, a dim ond rhan fach o'n hardaloedd gwarchodedig ar gyfer natur sydd mewn cyflwr da.
"Mae'n rhaid i'r bil hwn weithredu'r camau brys sydd eu hangen i wella'r amgylchedd ac adfer natur yng Nghymru."
Ychwanegodd fod y bil yn "dechrau'n dda, ond hoffem ei weld yn mynd ymhellach".
'Diffyg brys yn syfrdanol'
Dim ond ar ôl i'r bil ddod yn gyfraith fydd y gwaith o gyflwyno targedau penodol ar arbed ac adfer rhywogaethau a chynefinoedd penodol yn dechrau.
Ychwanegodd Ms Smith: "O ystyried ei fod yn dod ar ddiwedd cyfnod y Senedd, bydd hyn yn rhoi'r cyfle i weithredu newid yn nwylo Llywodraeth Cymru a'r Senedd nesaf a rhaid iddo beidio â gadael ddim amheuaeth am y pwysigrwydd o gynyddu'r gweithredu i wrthdroi colled difrod bioamrywiaeth.
"Wedi datgan argyfwng natur, rhaid i'r Senedd hon sicrhau bod ei hetifeddiaeth yn cynnwys ymateb cryf i natur."
Disgrifiodd Anthony Slaughter, arweinydd Plaid Werdd Cymru, y mesur fel un "di-hid o wan".
"Ni fydd llifogydd, afonydd budr, a rhywogaethau sydd mewn perygl fel y gylfinir yn aros am hunanfodlonrwydd di-hid Llafur.
"Mae'r diffyg brys i bobl a'r blaned yn syfrdanol. Bydd cymunedau sy'n dioddef llifogydd rheolaidd, difrod i seilwaith, tirlithriadau, a bywyd gwyllt yn diflannu yn meddwl tybed beth ar y ddaear y mae Llafur yn aros amdano."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2023