Galw am ymchwiliad annibynnol i Esgobaeth Bangor a'i chadeirlan

Eleni mae'n 1,500 o flynyddoedd ers i Sant Deiniol sefydlu cymuned ym Mangor
- Cyhoeddwyd
Mae offeiriaid yng Nghadeirlan Bangor yn galw ar yr Eglwys yng Nghymru i gynnal ymchwiliad annibynnol i'r Eglwys Gadeiriol a'r Esgobaeth.
Ddechrau mis Mai, cyhoeddodd yr Eglwys yng Nghymru grynodebau dau adroddiad beirniadol oedd yn cynnwys cwynion am "ddiwylliant lle'r oedd terfynau rhywiol wedi cymylu", iaith amhriodol yn cael ei defnyddio ac alcohol yn cael ei yfed i ormodedd.
Ni chafodd yr adroddiadau llawn eu cyhoeddi.
Fe wnaeth yr Eglwys gydnabod gwendidau o ran diogelu, arferion rheoli gwan, ymddygiad gwael yn gysylltiedig â defnydd alcohol ac ymddygiad o natur rywiol yn y Gadeirlan pan gyhoeddwyd y crynodebau.
Wedi i rai alw ar Archesgob Cymru i ystyried ei ddyfodol, fe gynigiodd y Gwir Barchedicaf Andrew John, sydd hefyd yn Esgob Bangor, ymddiheuriad i "unrhyw aelodau o gymuned y Gadeirlan sydd wedi cael eu brifo, neu sy'n teimlo fy mod wedi eu gadael i lawr".
Dywed yr Eglwys yng Nghymru bod grŵp gweithredu wedi ei ffurfio i weithredu argymhellion yr adroddiadau.
Maen nhw hefyd yn dweud bod bwrdd goruchwylio wedi ei sefydlu i sicrhau bod y gwaith hwnnw yn cael ei wneud yn gywir.
Sefyllfa 'erchyll'
Mae dau offeiriad o fewn y Gadeirlan wedi ysgrifennu at esgobion Cymru yn galw am ymchwiliad ffurfiol i esgobaeth a Chadeirlan Bangor ers 2011, gan ddweud y dylai'r ymchwiliad hwnnw gael cymorth "ymgynghorwyr mewn rheoli gweithdrefnol, cyfraith eglwysig, cyfraith sifil a chyfraith troseddol."
Mae gan y Parchedig Ddoctor John Prysor-Jones a'r Tra Barchedig a'r Athro Gordon McPhate 70 mlynedd o brofiad yn y Weinidogaeth rhyngddyn nhw.
Maent yn dweud bod crynodebau'r adroddiadau gafodd eu cyhoeddi fis diwethaf yn "anfoddhaol am eu bod wedi eu cyfyngu gan y cylch gorchwyl... ni wnaethpwyd canfyddiadau ffeithiol, ond yn hytrach daethant i gasgliadau wedi seilio ar argraffiadau".
Er bod John Prysor-Jones a Gordon McPhate yn pregethu ac yn ymgymryd â dyletswyddau bugeiliol yng Nghadeirlan Bangor, does dim rolau ganddyn nhw o ran rheolaeth y Gadeirlan.
Cafodd copïau o lythyron eraill eu hanfon at Newyddion S4C dros y diwrnodau diwethaf sy'n amlinellu pryderon am Eglwys Gadeiriol Bangor.
Disgrifia un y sefyllfa yn y Gadeirlan fel un "erchyll" gydag un arall yn dweud bod pethau yn "enbyd" yno.
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd13 Mai
Mae aelod o gynulleidfa'r Gadeirlan wedi galw am waredu teitl Archesgob Cymru fel prif esgob diogelu yr Eglwys yng Nghymru ar unwaith o ganlyniad i'r methiannau diogelu sydd eisoes wedi eu cydnabod gan yr Eglwys.
Fe wnaeth Newyddion S4C gais am gyfweliad gydag Archesgob Cymru i drafod y llythyron.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys nad ydyn nhw yn gwneud cyfweliadau.
Mewn datganiad byr, dywedon nhw: "Gallwn gadarnhau bod llythyrau wedi cael eu derbyn gan Esgobion esgobaethau eraill yr Eglwys yng Nghymru ynglŷn ag Esgobaeth Bangor a'i chadeirlan ac y bydd y materion a godwyd yn yr ohebiaeth hon yn cael eu hystyried yn ofalus."