Clwb cerdded yn rhoi hyder i bobl â nam golwg

Clwb Cerdded EryriFfynhonnell y llun, Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau Clwb Cerdded Eryri ar lan Llyn Trawsfynydd cyn dechrau eu taith

  • Cyhoeddwyd

Mae clwb cerdded yng ngogledd Cymru yn rhoi hyder i bobl sydd â nam golwg i fynd am dro, yn ôl un o drefnwyr y teithiau, Mark Roberts.

Ers 15 mlynedd mae Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru wedi bod yn cefnogi Clwb Cerdded Eryri, sy'n trefnu taith gerdded fisol i bobl gyda nam golwg. Sefydlwyd Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn 1882.

 mis Mai yn fis cenedlaethol cerdded, mae Mark yn gobeithio denu mwy o wirfoddolwyr a cherddwyr i'r clwb.

"Fasa ni methu rhedeg y clwb heb wirfoddolwyr i dywys, mae yna rai angen braich," eglurodd Mark ar raglen Bore Cothi.

Mae rhaglen ddiweddar y clwb yn cynnwys teithiau i Drawsfynydd, i draeth Llanddwyn, i Abergwyngregyn a Malltraeth.

Cerdded â'i gi tywys, Forest

Ganwyd Mark â'r cyflwr llygaid Retinitis Pigmentosas, ac mae yntau wedi bod ar siwrne bersonol wrth i'w olwg waethygu:

"Fel o'n i'n mynd yn hynach oedd fy ngolwg i'n dirywio, doeddwn i erioed yn gweld llawer ond 'nes i allu chwarae pêl-droed a seiclo nes o'n i'n fy ugeiniau.

"Er i ngolwg i ddirywio bob blwyddyn pan o'n i yn yr ysgol, doeddwn i ddim yn gwybod y baswn i'n colli fy ngolwg yn gyfan gwbl. Roedd clywed y byddai hynny yn digwydd i mi fel slap ar fy wyneb.

"Dwi wedi fy nghofrestru yn ddall ers 1994 a sgena i'm golwg o gwbl erbyn hyn."

Mae Mark yn egluro pa mor bwysig yw'r teithiau i bobl gyda nam golwg:

"Mae cerdded yn gwneud lot o les, mae gen ti bobl fel fi sydd efo'r hyder i fynd allan bob dydd ond mae yna bobl eraill heb yr hyder i fynd am dro felly maen nhw'n cael dod efo ni.

"Mae yna wirfoddolwyr yn helpu efo tywys, ac maen nhw'n cael eu hyfforddi gan y gymdeithas ar sut i dywys yn iawn ac yn y blaen. Mae pobl yn mwynhau eu hunain, a rydan ni wedi dŵad yn fwy o ffrindiau yn hytrach na chlwb cerdded."

Mark a'i gi tywys ForestFfynhonnell y llun, Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mark a'i gi tywys, Forest

Tra bo' rhai aelodau'n cerdded gyda chymorth gwirfoddolwyr, bydd rhai yn cerdded gyda chi tywys fel Mark ei hun sy'n cerdded gyda'i gi, Forest:

"Ges i Forest dair blynedd yn ôl. Dwi wedi ei enwi fo ar ôl Forrest Gump gan ei fod o'n rhedeg mor gyflym! Mae o'n gi ffantastig.

"Dyma'r trydydd ci tywys i mi ei gael a chyn cael Forest ro'n i'n dibynnu ar gerdded gyda braich rhywun arall am gyfnod," meddai.

"Rydan ni wedi cael mwy o gŵn tywys yn ddiweddar na 'dan ni wedi ei gael erioed. Fis dwytha aethon ni i Niwbwrch a cherdded i draeth Llanddwyn, mi fuodd yna chwe chi tywys yn rhedeg ar y traeth yn fan'no a roeddan nhw wrth eu boddau."

Sut dywysydd ydy Forest?

"Mae o'n ffantastig, werth y byd," meddai Mark.

"Dwi'n byw ym Methesda ac mae Forest yn gwybod ei ffordd rŵan yn grêt felly dydw i ddim angen deud llawer wrtho fo.

"Mae o wedi ei hyfforddi yn Saesneg felly os dwi'n rhoi unrhyw fath o ormchynion iddo fo, yn Saesneg dwi'n eu rhoi nhw. Unwaith dwi angen deud wrtho fo 'Forest left, Forest right' a mae o'n gwybod.

"Pan es i i Gaerdydd i'w nôl o doeddan nhw ddim yn saff os oedd o'n cyrraedd y safon. Ddeudon nhw wrtha i 'he doesn't like this, doesn't like that, doesn't wag his tail' ond erbyn hyn dydi ei gynffon o ddim yn stopio symud. Mae o'n gi hapus iawn."

Mark a Forest yn mynd am droFfynhonnell y llun, Mark Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mark a Forest yn mynd am dro

Cyfle i gymdeithasu

Ymhen pythefnos bydd y clwb yn cerdded at Lyn Llydaw ar lethrau'r Wyddfa ac yn ôl Mark, y cymdeithasu yw'r elfen bwysciaf:

"Mae o'n gyfle i gymdeithasu yn fwy na ddim byd. Rhaid i ti ystyried, dwi allan bob dydd os ydy'r tywydd yn caniatau, ond mae gen ti rhai ella sydd ddim mor hyderus â fi ac yn ofn mynd allan os nad oes yna neb hefo nhw.

"Os oes yna bobl yn dymuno mae o'n gyfle i rannu profiadau hefyd, ac mae hynny yn naturiol wrth gyfarfod rhywun am y tro cynta', ond fel arall, mae o'n gyfle i gymysgu a sgwrsio."

Os ydych chi'n awyddus i gerdded gyda Chlwb Cerdded Eryri neu gyda diddordeb gwirfoddoli cysylltwch â Chymdeithas Deillion Gogledd Cymru.

Aelodau Clwb Cerdded Eryri yn mynd ar daithFfynhonnell y llun, Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau Clwb Cerdded Eryri yn mynd ar daith fisol

Pynciau cysylltiedig