Cofio 70 mlynedd ers Trychineb Cwm Silyn

Wil Macintyre Hughes a'r bardd Karen Owen yn sgwrsio am Drychineb Cwm Silyn ar Dros Ginio
- Cyhoeddwyd
Mae'n 70 mlynedd ers i fom o'r Ail Ryfel Byd ffrwydro yng Nghwm Silyn, Dyffryn Nantlle gan ladd dau o hogiau lleol ac anafu dau arall yn ddifrifol.
Ar 31 Mai 1955, fe aeth Maiwyn Macintyre Hughes (16 oed) a Tecwyn Hughes am dro i'r mynydd gyda dau frawd o'r dyffryn i chwarae ac i hel llus.
Fe drodd diwrnod braf o hwyl diniwed yn drychineb wrth i hen fom oedd wedi bod yn segur ers cyfnod yr Ail Ryfel Byd ffrwydro.
Dywedodd y bardd lleol, Karen Owen sydd wedi bod yn ymchwilio i mewn i'r hanes ar Dros Ginio, Radio Cymru fod "pobl yn dal i gofio'r digwyddiad ond ddim yn sôn amdano fo achos fod o'n lot yn rhy boenus".
Colli ei frawd i'r drychineb
Tra bo' rhai o bobl Dyffryn Nantlle wedi dysgu am yr hanes, mae Wil Macintyre Hughes o Dalysarn, brawd y diweddar Maiwyn Macintyre Hughes, yn byw gyda'r diwrnod a'r graith o golli ei frawd a'i ffrind.
"Mae'n 70 mlynedd eleni ac wrth gwrs mae yna bobl wedi anghofio, pobl wedi mynd a phlant y pentre heb gael clwad am yr hanas," meddai Wil.
"Mi fasa Maiwyn yn 86 heddiw. Mi wnaeth trychineb Cwm Silyn ddychryn y dyffryn i gyd, o Ddrws-y-coed i Ddinas Dinlla."

Cwm Silyn yn Nyffryn Nantlle
Ond fel mae Wil yn ei egluro, roedd yntau'n arfer mynd am dro i Gwm Silyn a gallasai wedi bod yno y diwrnod hwnnw:
"Mi oedd Dyffryn Nantlle yn le braf iawn i dyfu fyny ynddo fo, roedd yna gymaint o betha' yn mynd ymlaen, dwy chwarel fawr, trên passenger, a'r mynydd wrth gwrs, Cwm Silyn, a bob haf mi fydda' plant y pentra yn mynd i fyny'r mynydd i hel llus ac i chwarae ac oeddan ni'n gweld yr hen fomiau yma a'u pen-olau i fyny allan o'r mawndir.
"Oeddan ni'n mynd reit i ben y mynydd a sbio i lawr ar Gwm Pennant a Porthmadog a Cricieth a Bermo. Roedd o'n lle braf i fynd i hel llus i Mam.
"Yr haf yma o'n i wedi cael gwaith gan rhyw ffarmwr i garthu cwt mochyn a chael dau swllt am wneud felly wnes i ddim mynd i fyny efo'r bois.
"Mi aeth y pedwar i fyny a lladdwyd dau wrth gwrs. Mi oedd y ddau frawd yn fyw, diolch i'r drefn, ac maen nhw fyw'n hyd heddiw a dyna sut ddoth y drychineb heibio.
"Pan ddoth y ddau frawd i lawr i'r pentre yn waed i gyd ddeudon nhw wrth y plismon, Mr Davies, fod yna ddau ffrind arall i fyny ar y mynydd ond erbyn cyrraedd yr hogia' oedd y ddau wedi gwaedu i farwolaeth."
Yr effaith ar gymuned Dyffryn Nantlle
Wil sy'n adlewyrchu ar y cyfnod anodd iddo ef a'i deulu yn Nhalysarn yn dilyn y drychineb:
"Roedd o wedi dychryn y pentra', mewn lle mor dawel â Thalysarn yn Nyffryn Nantlle roedd yn drychineb fawr iawn.
"Dwi'n cofio pobl yn dŵad adra i tŷ ni a Mam yn deud wrth fy Nhad, 'Agor drws ffrynt Glyn, mi fydd pobl y pentra' yn dŵad yma i gydymdeimlo dwi'n siŵr.'
"A 'Nhad yn disgwl yn fan'no a neb yn mynd drwy'r drws ffrynt, pawb yn mynd drwy'r drws cefn a gyda'r nos wedyn, Mam yn deud wrth fy Nhad, 'Dos i gau drws' a 'Nhad yn mynd i'r drws cefn a mi fydda'r pantri'n llawn, llawn o fwyd.
"Llwyth wedi dod yno i gydymdeimlo. Lle felly oedd Talsarn, pawb yn rhwyfo yr un gwch, pentra' braf iawn a ddoth y drychineb i gynhyrfu pawb."
Siom ac anghyfiawnder
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cafodd tua 6 miliwn erw o dir ei ddefnyddio i hyfforddi milwyr ac i brofi arfau a ffrwydron gan gynnwys tir mynyddig Cwm Silyn.
Ac yn ôl Karen Owen, roedd dicter yn lleol am nad oedd y tir wedi ei archwilio a'i glirio'n ddiogel o ffrwydron yn dilyn y rhyfel.
Eglurodd: "Dwi wedi bod yn edrych ar gofnodion San Steffan o'r cyfnod ac o fewn mis i'r drychineb ar 28 Mehefin 1955 mae Aelod Seneddol sir Gaernarfon - yr aelod Llafur Goronwy Roberts, yn herio y gweinidog oedd yn gyfrifol am yr Adran Rhyfel yn llywodraeth y Prif Weinidog Anthony Eden.
"Mae o'n gofyn, 'Ydach chi ddim yn gweld pam fod pobl Dyffryn Nantlle a phobl y pentrefi chwarelyddol wedi siomi a bo' nhw methu credu eich bod chi wedi rhoi y tir yna yn ôl i ni fel tir comin ac eich bod chi ddim wedi chwilio'n iawn os oedd yna fomiau byw yn dal i fod yna?'.
"Mae o'n gofyn ddwywaith, ond wrth gwrs tydi'r gweinidog ddim yn teimlo fod rhaid iddo fo atab o gwbl. Mae o'n deud 'nathon ni ein gorau i neud yn siŵr, cyn belled â bo ni yn y cwestiwn, fod y lle yn ddiogel i bobl fynd yno'."

Mae Cwm Silyn yng nghesail Crib Nantlle, a mynydd Craig Cwm Silyn yw copa uchaf y grib
Mae Wil hefyd yn cofio'r siom a'r dicter yn y pentref yn dilyn y drychineb:
"Oedd pawb yn filain iawn a methu dalld pam fod hyn wedi digwydd.
"Oeddan ni'n mynd yna sawl gwaith bob haf a gweld yr hen fomiau yma a doeddan ni'n meddwl dim ohonyn nhw.
"Mi fyddwn ni'n codi yr hen fomia' yma oedd efo'u tinau i fyny o'r mawndir, a'r bwledi a'r doman o hen rybish oedd ar hyd y mynydd yn bob man.
"Oeddan ni'n mynd i fyny'r mynydd a'u taflu nhw at ei gilydd ac yn chwarae sowldiwrs a chuddio tu ôl i garrag a lluchio bom a honna'n bangio ac yn clecian. 'Mond sŵn haearn wrth gwrs ond pan oedd yr hogia fyny fe gaswon nhw afal yn un mortar, aeth honno off a lladd y bois a dyna'r drychineb fwya. Trist iawn."
Ychydig ddyddiau ar ôl y drychineb daeth telegram gan glwb pêl-droed Tottenham Hotspur i gartref Wil a'r diweddar Maiwyn.
Eglurai Karen: "Oedd Maiwyn wedi ei dderbyn yn aelod o'r garfan ieuenctid a meddwl be' allasai fod wedi dod o'r yrfa bêl-droed yna. Mae yna gymaint o bethau wedi eu torri yn fyr a bywydau wedi cael eu heffeithio gan rwbath ddyla fod wedi cael ei ddiogelu'n well."
Pynciau cysylltiedig
I glywed rhagor gwrandewch ar Dros Ginio:
- Adran y stori
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mai 2023
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2021