Y dafarn yng Nghaerdydd sydd â bron i 1,000 o flynyddoedd o hanes

Y fynedfa i'r dafarn o ochr Heol Santes Fair
- Cyhoeddwyd
Mae tafarn The Prince of Wales yng nghanol Caerdydd yn un o fannau yfed prysuraf y ddinas.
Os ewch i'r dafarn, sydd ar gornel Wood Street a Heol Santes Fair, ar nos Wener neu Sadwrn byddwch yn debygol o weld y lle'n orlawn.
Mae'r dafarn bellach yn un o dafarndai'r cwmni JD Wetherspoon, ond mae hanes y safle'n ymestyn bron i 1,000 o flynyddoedd.
Eglwys Canol Oesol
Yn 1107 adeiladwyd eglwys ar y gornel ble mae'r dafarn heddiw gan y Benedictiaid - Eglwys Santes Fair.
Safodd yr eglwys yno am dros 500 mlynedd nes i lifogydd greu difrod mawr iddi yn y 17eg ganrif. Ar y pryd doedd gan y rhan yma o Gaerdydd ddim llawer o amddiffyniad rhag yr Afon Taf os yr oedd yn gorlifo.

Y safle ar gornel Wood Street ac Heol Santes Fair heddiw
Yn dilyn y llifogydd penderfynwyd enwi Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr (ger Marchnad Caerdydd a thafarn Owain Glyndŵr heddiw) fel prif eglwys yr ardal.
Oherwydd y difrod mawr i Eglwys Santes Fair fe ddisgynnodd y tŵr yn 1680, ac yn 1701 fe benderfynwyd stopio defnyddio'r adeilad yn llwyr.
Yn 1843 adeiladwyd eglwys arall o'r enw Eglwys Santes Fair yn Nhrebiwt gan John Crichton-Stuart, ail Ardalydd Bute, ac mae'r adeilad yn cael ei ddefnyddio fel addoldy hyd heddiw.
Agor theatr newydd
Yn ail hanner yr 19eg ganrif penderfynwyd defnyddio'r lleoliad unwaith eto.
Yn dilyn tân i'r Theatr Frenhinol ar Heol y Frenhines yn 1827 roedd pobl yng Nghaerdydd yn teimlo bod angen theatr arall ar y ddinas. Felly, yn 1878 adeiladwyd y 'Theatr Frenhinol Newydd' - adeilad y dafarn bresennol.

Yr adeilad fel ag yr oedd tra roedd yn theatr
Cafodd yr adeilad ei ddylunio gan W. D. Blessley a T. Waring mewn steil adeiladau gothig Fenis.
Y cynhyrchiad cyntaf yn y theatr yn 1878 oedd Pygmalion and Galatea gan W. S. Gilbert, y dramodydd, bardd a chyfansoddwr sy'n enwog am ei gydweithio gydag Arthur Sullivan.

Roedd y llwyfan yn 56 troedfedd mewn lled ac yn 46 troedfedd mewn dyfnder
O 1881 roedd y theatr yn cael ei reoli gan Edward John Fletcher (1837-1896), ac wedi cyfnod ar gau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf cafodd y Theatr Frenhinol Newydd ei ailenwi'n The Playhouse.
Cafodd y theatr ei adnewyddu yn 1920 hefyd, gyda'r dylunwyr Willmot a Smith yn gyfrifol am foderneiddio'r theatr i gyd-fynd efo ffasiwn yr oes.
'Theatr Tywysog Cymru'
Yn 1935 roedd newid unwaith eto i enw'r theatr, gan gymryd yr enw Theatr Tywysog Cymru.
Yn Theatr Tywysog Cymru cafwyd perfformiad cyntaf erioed Opera Cenedlaethol Cymru yn 1946 pan gafodd Cavalleria Rusticana ei lwyfannu yno.

Edrych tua'r llwyfan yn y dafarn heddiw, gyda'r bwa proscenium yn dal yn ei le
Tyfodd enw'r theatr fel man i rai o enwau mwyaf yr oes berfformio.
Yn eu plith oedd y Cymro Richard Burton, seren Gone with the Wind, Vivien Leigh, yr Americanwr Robert Montgomery, y dramodydd Noël Coward, a dau o actorion llwyfan gorau Lloegr erioed - John Gielgud ac Laurence Olivier.

Rhai o'r actorion a berfformiodd ar lwyfan Theatr Tywysog Cymru; Vivien Leigh, Richard Burton, John Gielgud a Laurence Olivier
O ganol y 1950au tan ganol yr 1970au roedd ffilmiau ar y sgrin fawr yn cael eu dangos yn y theatr, yn ogystal â pherfformiadau byw.
Ond daeth y sioeau byw yn fwy prin ac un o'r pethau ddaeth yn eu lle oedd sinema i ffilmiau bornograffaidd.
Yn 1970 roedd cynlluniau i gartrefu Theatr Genedlaethol Cymru yn yr adeilad, ond yn y pen draw penderfynwyd yn erbyn gwneud hyn.

Rhan o Theatr Tywysog Cymru fel yr oedd, a'r adeilad fel y mae heddiw
Pan roedd ganol Caerdydd yn gweld lot o newid yn y 1970au, ag adeiladau uchel yn dod yn fwyfwy amlwg, roedd ymgyrch i ddymchwel yr adeilad.
Ond cafodd y cynnig ei wrthod yn 1974, yn bennaf am ei fod yn adeilad rhestredig Gradd II ers 1960.

Yr olygfa a wynebai'r actorion o'r llwyfan

Yr hen seddi dal yno heddiw, yn edrych dros y dafarn
Agorodd Caeser's Nightclub yn yr adeilad yn 1984, ond doedd y fenter ddim am fod yn un hirdymor ac fe gaeodd y clwb nos tair mlynedd yn ddiweddarach.
Ar ddiwedd yr 1980au roedd yr adeilad yn gartref i arcêd adloniant a thafarn.
Yn 1999 daeth yr adnewyddiadau mawr diweddaraf, ac fe newidiodd y dafarn i'r dafarn Wetherspoons rydyn ni'n ei 'nabod heddiw.

Roedd lle i bron 3,000 o bobl yn y theatr ar un adeg
Mae'r safle yma yng nghanol Caerdydd wedi gweld llawer o newid dros y blynyddoedd; theatr, sinema, theatr bornograffaidd, arcêd, clwb nos a thafarn.
Ond y tro nesa' rydych yn cerdded heibio'r adeilad edrychwch ar y wal ar ochr Wood Street, ble mae amlinelliad yn atgof o'r eglwys gafodd ei hadeiladu yno bron 1,000 o flynyddoedd yn ôl.

Pan adeiladwyd y theatr yn 1878 rhoddwyd amlinelliad o'r hen eglwys ar ochr yr adeilad fel cofeb i hanes y lleoliad
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2019