Y Cymro: Dim cartwnau
- Cyhoeddwyd

Gwaith dychanol y cartwnydd Marc Rees Jones
Mae papur wythnosol Y Cymro wedi penderfynu rhoi'r gorau i gyhoeddi cartwnau.
Fe fydd y cartŵn olaf yn ymddangos yn rhifyn yr wythnos hon o'r Cymro.
Yn ôl y papur maen nhw'n awyddus i gael rhagor o le i lythyrau yn y cyhoeddiad , a dyna'r prif reswm dros gael gwared ar y cartwnau.
Mae un o'r ddau gartwnydd sydd wedi bod yn gwneud y gwaith yn fwyaf diweddar wedi dweud ei fod yn siomedig â'r penderfyniad.
Yn ôl Marc Rees Jones mae llwyfan prin i ddychan yng Nghymru wedi'i golli.
"Does dim cymaint o gyfle i'r grefft yn Gymraeg, falle dyna fel mae hi dyddie 'ma- market forces"
Ffrae MBE Merched y Wawr fydd testun y cartŵn olaf a fydd yn ymddangos yn Y Cymro ddydd Gwener.
Dwedodd Robat Gruffudd o wasg y Lolfa fod y penderfyniad yn drist a'i fod yn gobeithio y bydd y sefyllfa'n ysgogi'r Cyngor Llyfrau i roi cymorth ychwanegol i'r Cymro.
"Mae angen iddyn nhw gael mwy o grant, mae'n wyrthiol be maen nhw'n 'neud nawr a cyn lleied o arian."

Marc Rees Jones yn creu cartwn newydd