Llyfrgelloedd: 250 o swyddi wedi eu colli ers 2010
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwil gan y BBC wedi datgelu bod mwy na 250 o swyddi mewn llyfrgelloedd ar draws Cymru wedi diflannu o fewn cyfnod o chwe blynedd.
Mae'r ffigyrau yn dangos bod 1,241 o bobl wedi eu cyflogi gan lyfrgelloedd Cymru yn 2010, ond bod hynny wedi gostwng i 979 heddiw.
Golyga hyn bod 262 yn llai o bobl wedi eu cyflogi mewn lyfrgelloedd heddiw nag oedd chwe blynedd yn ôl - gostyngiad o 21%.
Dywedodd Llywodraeth Cymru, mewn cyfnod o doriadau ariannol llym, eu bod wedi cymryd mwy o gamau i amddiffyn llyfrgelloedd na'r hyn a welwyd yn Lloegr.
Ar draws y DU, mae bron i 8,000 o swyddi wedi eu colli mewn llyfrgelloedd ers 2010.
Dros yr un cyfnod, mae 15,500 o weithwyr gwirfoddol wedi cael eu recriwtio a 343 o lyfrgelloedd wedi cau.
'Amser anodd'
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Ken Skates: "Er toriadau o £1.3 biliwn y flwyddyn i'n cyllideb, rydyn ni wedi buddsoddi £14m i drawsnewid mwy na 100 o lyfrgelloedd cyhoeddus.
"Canlyniad yr ymdrech yma i achub llyfrgelloedd cyhoeddus a hyrwyddo darllen yw ein bod wedi gweld cynnydd o 5% yn y flwyddyn ddiwethaf yn nifer y bobl sy'n benthyg llyfrau, o'i gymharu â gostyngiad o 4% ar draws y DU.
"Rydyn ni nawr yn gwario mwy y pen ar lyfrgelloedd cyhoeddus nag yn Lloegr.
"Hefyd, rydyn ni wedi cynnal safonau llyfrgelloedd ac y llynedd fe wnaethon ni gyhoeddi adolygiad i'r rôl sydd ganddyn nhw yn ein cymunedau, wnaeth gydnabod bod rhaid iddyn nhw newid i gwrdd ag anghenion modern.
"Mae hyn yn amser anodd i lyfrgelloedd, ond yng Nghymru maen nhw'n parhau i fod yn hollbwysig i gymunedau ledled y wlad."