Carchar am oes wedi ymosodiad ar gymydog anabl
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei garcharu am oes ar ôl curo ei gymydog wedi iddo gwyno bod ei gi yn cyfarth.
Fe wnaeth Raymond Burrell ymosod ar Matthew Sheehan y tu allan i'w dŷ yng Nghaerdydd gan ei adael mewn pwll o waed.
Dywedodd y barnwr: "Roeddech chi'n ddifater os byddai yn byw neu'n marw, dim ond ei fod ddim yn dweud wrth unrhyw un yr hyn ddigwyddodd."
Mae Mr Sheehan, sydd yn anabl, yn parhau mewn coma saith mis ers yr ymosodiad.
Cafodd Mr Burrell ei ganfod yn ddieuog o geisio llofruddio ond yn euog o achosi niwed corfforol difrifol.
Dywedodd y barnwr y dylai dreulio o leiaf wyth mlynedd dan glo.
'Anodd deall pam'
Clywodd y llys fod Mr Sheehan wedi cwyno yn gyson bod ci Raymond Burrell yn gwneud sŵn yn hwyr yn y nos a'i fod wedi ymosod arno yn dilyn ffrae yn gynnar un bore.
Dywedodd tad Mr Sheehan bod bywyd ei fab wedi ei newid yn llwyr.
"Mae'n anodd deall pam y byddai person yn achosi anafiadau mor ofnadwy i berson arall," meddai.
"Yr unig beth allwn ni wneud yw eistedd a dal ei law."
Roedd Mr Burrell wedi treulio cyfnod yn y carchar yn y gorffennol ar ôl iddo saethu ei gariad 17 oed yn farw yn 2002.