Arbenigwyr yn annog newid y drefn diagnosis canser
- Cyhoeddwyd
Fe ddylai Cymru allu cystadlu gyda'r gorau yn y byd o ran gofal canser, os yw'r gwasanaeth iechyd yn cyflwyno newidiadau sylweddol i'r broses o gynnal profion diagnosteg am yr afiechyd.
Dyna farn un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r byd yn y maes sy'n dweud bod modd i Gymru wella'n sylweddol - er gwaetha'r ffaith fod cyfraddau goroesi canser yma ac yng ngwledydd eraill Prydain ar hyn o bryd gyda'r gwaethaf yng ngorllewin Ewrop.
Yn ôl yr Athro Frede Olesen o Brifysgol Aarhus yn Denmarc, un rheswm pam bod Cymru ar ei hol hi, o gymharu â sawl gwlad arall, yw fod cleifion â chanser yn rhy aml yn aros yn rhy hir am ddiagnosis.
O ganlyniad mae triniaeth yn dechrau'n rhy hwyr pan fod y canser wedi datblygu'n sylweddol neu ar adeg pan fod dim modd ei wella.
'Dim amheuaeth'
"Dydyn ni methu dweud o ran sicrwydd p'unai yr aros, triniaeth well neu offer gwell, ond mae yna asesiad wedi ei wneud sy'n dangos bod aros wir o bwys," meddai'r Athro Olesen.
"O ran fy nghanfyddiad i, does dim amheuaeth bod amseroedd aros byrrach yn aros at well diagnosis."
Yn ystod y ddegawd a hanner diwethaf mae Denmarc wedi trawsnewid y ffordd mae'r gwasanaeth iechyd yno yn trin canser.
Fe ddangosodd ymchwil rhyngwladol 11 mlynedd yn ôl fod y wlad hefyd yn perfformio'n wael o'i chymharu â nifer o wledydd cyfoethog.
Yn ôl yr arolwg, roedd perfformiad Denmarc o ran goroesi canser tua'r un lefel â Chymru a Phrydain yn y tablau rhyngwladol - canfyddiad wnaeth syfrdanu gwleidyddion a'r gymuned feddygol yno.
Un o'r prif newidiadau sydd wedi cael ei gyflwyno yn Nenmarc yw sicrhau bod cleifion sy'n sâl ond sydd heb symptomau clir na phenodol o un math o ganser yn cael cynnig profion diagnosis yn gyflym.
Yn Nenmarc mae'r profion yn cael eu cynnal ymhen ychydig ddyddiau, neu hyd yn oed ychydig oriau i'r claf gael ei weld gan ei feddyg teulu.
Fe all cleifion tebyg yng Nghymru aros wythnosau, hyd yn oed misoedd, am yr un profion.
Mae Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ger Llantrisant, eisoes yn rhedeg rhai prosiectau yn seiliedig ar egwyddorion y model canser yn Nenmarc.
Diagnosis 'yn gynt'
Dywedodd Dr Rhian Rhys, sy'n radiolegyddd yno: "Am y pum mlynedd diwethaf ni wedi bod yn cymryd atgyfeiriadau oddi wrth feddygon teulu o gleifion sydd â lympiau yn y pen a'r gwddw felly maen nhw'n gallu atgyfeirio nhw'n syth i radioleg.
"Maen nhw'n cael uwch sain sy'n brawf hawdd ac sy'n ddiogel so does dim ratiation."
Mae'n cymryd "tua 10 munud" ac yn gallu "sortio rhan fwyaf o lympiau", ychwanegodd.
Mae ymchwil diweddar yn awgrymu fod Denmarc bellach yn cau'r bwlch â'r gwledydd sy'n perfformio orau.
Yn dilyn ymweliad â Denmarc mae arbenigwyr Iechyd o Gymru yn cydnabod fod cyfraddau goroesi canser yng Nghymru ddim yn ddigon da.
Dywedodd Dr Dyfed Wyn Huws, Cyfarwyddwr Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser: "Dwi'n hyderus iawn y bydd modd newid i fodel Denmarc sy'n ymddangos ei fod yn gweithio i diagnosio pobl yn gynt gyda chanser."
Mae hynny, yn rhannol, oherwydd gall cleifion sydd heb symptomau pendant "fynd ar goll yn y system" wrth aros am brofion - er bod tua 50% o achosion canser yn y pendraw yn cael ei canfod yn y grŵp yma o gleifion.
Ond mae'r arbenigwyr yn dweud ei bod nhw'n ffyddiog y gall y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ddysgu gwersi a mabwysiadu elfennau o'r hyn sy'n digwydd yn Nenmarc.