Atal Laura McAllister rhag sefyll fel is-lywydd FIFA
- Cyhoeddwyd
Mae ymgeisydd o Gymru oedd yn sefyll mewn etholiad ar gyfer is-lywyddiaeth FIFA wedi cael ei hatal rhag ceisio am y swydd.
Roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyflwyno'r Athro Laura McAllister fel ymgeisydd ar gyfer y bleidlais yr wythnos nesaf.
Dim ond un ymgeisydd arall, Evelina Christillin o'r Eidal, oedd yn ceisio am y swydd, fel rhan o ddiwygiadau FIFA er mwyn ceisio cael mwy o ferched ar ei bwrdd rheoli.
Ond mae Laura McAllister nawr wedi cael gwybod nad yw hi'n gymwys fel ymgeisydd, a hynny gan fod gan wledydd ynysoedd Prydain eisoes un is-lywydd ar y cyngor.
Yn ôl rheolau UEFA, y corff sydd yn gyfrifol am bêl-droed yn Ewrop, does gan wledydd Prydain ddim hawl cael mwy nag un is-lywydd i'w cynrychioli yn FIFA.
"Rydyn ni'n siomedig nad yw cais Laura yn medru mynd yn ei flaen," meddai prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford.
"Fe fyddai hi'n hoffi gwneud cyfraniad i FIFA ac UEFA ac rydym yn gobeithio y gallwn ni roi ei henw ymlaen yn y dyfodol."
Ychwanegodd yr Athro McAllister ei bod hi'n "siomedig" ond ei bod hi'n gobeithio y gallai ei "chefndir chwaraeon a llywodraethu" fod o ddefnydd petai'r cyfle yn codi eto.
'Newid y rheolau'
Fe enillodd Laura McAllister 24 cap dros dîm pêl-droed merched Cymru yn y 1990au, ac roedd hi'n gadeirydd Chwaraeon Cymru rhwng 2010 a 2016.
Mae hi'n arbenigo ar ddatganoli yng Nghymru a newydd gael ei phenodi gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, ar ôl cyfnod yn dysgu ym Mhrifysgol Lerpwl.
Ond mae ei hymgais i gael ei hethol i fwrdd rheoli FIFA wedi cael ei atal gan UEFA oherwydd eu canllawiau presennol.
Mae gan wledydd Prydain un is-lywyddiaeth parhaol ar fwrdd FIFA am resymau hanesyddol, ac ar hyn o bryd David Gill o Loegr - a drechodd Trefor Lloyd Hughes o Gymru yn y bleidlais ddiwethaf - sydd yn y rôl.
Ond mae hyn yn golygu nad yw UEFA yn caniatáu iddyn nhw gael ail aelod ar y bwrdd.
"Dydyn nhw ddim yn bod yn annheg. Mae o yn y rheolau," meddai Mr Ford.
"Allech chi ddweud y dylen ni fod wedi bod yn ymwybodol o hynny cyn cynnig Laura fel ymgeisydd? Gallech mae'n siŵr. Ond rydyn ni'n gobeithio dod o hyd i ffordd o newid y rheolau yn y dyfodol a chefnogi Laura mewn rôl arall.
"Mae UEFA yn dweud na allen nhw adolygu'r rheolau ar ganol proses etholiad, ond dydyn nhw heb ddweud na fyddan nhw'n ystyried newid yn y dyfodol."