Fama 'di'r lle
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru'n wlad y gân medden nhw a dydi'n cyfansoddwyr ddim wedi gorfod chwilio'n rhy bell am ysbrydoliaeth bob tro - dyma rai o'r llefydd digon cyffredin sydd wedi ysgogi rhai caneuon cyfarwydd.
Fama Di'r Lle, Maharishi
Y 'lle' yn y gân yma ydy Tafarn y Glôb ym Mangor Ucha', ail gartref hogiau'r band Maharishi pan oedden nhw'n fyfyrwyr ym Mangor.
Mae'r dafarn wedi ei lleoli i fyny un o strydoedd bach Bangor Ucha' ac yn ei hanterth doedd hi ddim yn anarferol gweld pobl yn ciwio i lawr y stryd i ddod i mewn erbyn 'last orders'.
Roedd y Glôb yn dafarn eiconig i fyfyrwyr Cymraeg Bangor ers y 1970au ac yn 2015 roedd ei landlord Gerallt Williams yn dathlu 21 mlynedd o fod yn gyfrifol amdani.
Ceidwad y Goleudy, Mynediad am Ddim
Er ei fod wedi dotio ar sawl ynys, Ynys Llanddwyn oedd yr ysbrydoliaeth wreiddiol i Ceidwad y Goleudy meddai ei hawdur Emyr Huws Jones.
Yn ei gyfrol Caneuon Ems, mae'n dweud iddo ysgrifennu'r gân pan roddwyd y lle ar werth yn y 1970au. Roedd yn ymweld â'r ynys yn aml pan yn blentyn oherwydd cysylltiadau ei fam gyda'r ardal ac "Ynys Llanddwyn oedd y 'nefoedd fach' gyntaf i mi" meddai.
Mynediad am Ddim wnaeth ei chanu'n wreiddiol ond mae hi hefyd yn cael ei chysylltu gyda Bryn Fôn.
Quarry, Sobin a'r Smaeliaid
Gyda Sobin a'r Smaeliaid, canodd Bryn Fôn am hanes cyfoethog Dyffryn Nantlle a'r gymdeithas gynnes sydd i'w chael yn nhafarn y Quarryman's Arms yn ei bentref genedigol yn Llanllyfni.
Mae'r dafarn ar ochr y ffordd yn y pentref wedi ei chau bellach ar ôl iddi fynd ar dân - ond nid cyn cael ei hanfarwoli gan Sobin yn y gân yma!
Hanes Eldon Terrace, Daniel Lloyd a Mr Pinc
Cân am rannu tŷ a dyddiau coleg ond yn benodol am 'nymbar wan' Eldon Terrace ym Mangor Uchaf oedd yn gartref i rai o aelodau Daniel Lloyd a Mr Pinc oedd hefyd yn fyfyrwyr ym Mangor.
Gyda'i leoliad cyfleus ar Allt Glanrafon yn agos i Brifysgol Bangor a siopau a thafarndai Bangor Ucha' mae'r teras Fictoraidd yn gartref i do newydd o fyfyrwyr Bangor heddiw.
Mae Bangor Ucha' wedi ysbrydoli llu o ganeuon eraill hefyd - Mardi Gras ym Mangor Ucha' gan Sobin a'r Smaeliaid a Mr Wah gan Bysedd Melys yn eu mysg.
Heno yn yr Anglesey, Y Bandana
Mae 'na lawer o dafarndai â'r gair Anglesey uwch ben y drws ond yr Anglesey yn y gân yma ydy'r dafarn sy'n cefnu ar waliau Castell Caernarfon ar lan y Fenai.
Mae'r gân yn disgrifio noson allan yn nhre'r Cofis sy'n gyfarwydd i unrhyw un sydd wedi mwynhau tafarndai'r dref cyn cael eu denu i wylio haul ola'r p'nawn yn machlud dros y dŵr ar wal yr Anglesey yn yr haf.
Ciosg Talysarn, Dafydd Iwan ac Ar Log
Mae 'na giosg digon di-nod yn dal i sefyll ger stâd tai Bro Silyn ym mhentref Talysarn yn Nyffryn Nantlle ond yn 1982 roedd y bocs ffôn yma'n ganolbwynt i'r ymgyrch i ddal llosgwyr tai hâf Meibion Glyndwr.
Yn y bennod ddiweddara' mewn cyfres o ddigwyddiadau rhyfedd yn yr ymgyrch fe ddaethpwyd o hyd i offer bygio yn y ciosg a bu raid i'r heddlu gyfadde' mai eu hadran gudd nhw oedd yn gyfrifol.
Roedd yn destun dychan perffaith i Dafydd Iwan ac Ar Log., dolen allanol
Garej Paradwys, Ail Symudiad
Nid lle hyfryd i drin ceir yng ngorllewin Cymru oedd Garej Paradwys ond siop ddillad pync yng Nghaerdydd.
Roedd y band o Aberteifi yn y ddinas i ffilmio'r rhaglen Sêr pan glywon nhw am y siop newydd o'r enw Paradise Garage ger tafarn y Prince of Wales yng ngwaelod Heol y Santes Fair.
Fe gafon nhw eu hysbrydoli gan yr agwedd pync newydd roedd y dillad yn eu cynrychioli a dyna mae'r gân yn ei glodfori: "Dewch i lawr i Garej Paradwys, Cawn weld y wawr o Garej Paradwys..."
Roedd gan y siop gysylltiad gyda band pync arall, The Perfectors, o Gaerdydd, sydd yn y llun uchod. Roedd eu cynhyrchydd yn adnabod Alun Jones o'r band Amen Corner oedd yn berchen y siop ar y pryd ac fe gafon nhw ddefnyddio'r siop a gwisgo ei dillad ar gyfer sesiwn dynnu lluniau yn 1980.
Yn ôl y sôn mae Dave Edwards o Datblygu yn bwriadu recordio fersiwn newydd o Garej Paradwys yn y dyfodol agos, gwyliwch y gofod...
Merch o'r ffatri wlân, Meic Stevens
"Dim ond merch o'r ffatri wlân,
wrth ei gwaith bob dydd
heb sylwi dim ar y byd mawr oddi allan."
Un o ganeuon Meic Stevens am ei fro enedigol yw'r gân felancolig yma am ferch sy'n gweithio'n galed ynghanol peiriannau'r ffatri wlân yn Solfach.
Mae Meic yn datgelu yn ei hunangofiant mai ei fam, Betty Davies, oedd y 'ferch o'r ffatri wlân' wreiddiol a ysbrydolodd y geiriau am ferch â "gwallt mor ddu a thlws".
Roedd y ffatri yn Solfach yn un o 26 o ffatrïoedd gwlân yn Sir Benfro ar ddechrau'r 1900au oedd yn creu defnydd gwneud dillad, blancedi, carpedi a gwlân ar gyfer gweu.
Despenser Street, Gwenno
Cân am atgofion Gwenno Saunders o fyw yn Despenser Street yn ardal Glan-yr-afon, Caerdydd, ydy hon a'r troeson trwstan mae hi'n ei gofio yno'n ferch ifanc - o'r nenfwd yn syrthio i lawr i feddwyn yn "trywanu'r drws â chyllell gegin" un nos Wener.
Dywed ei bod yn gân ddoniol am sefyllfaoedd oedd ar y pryd yn rhai difrifol.
Enillodd ei halbwm Y Dydd Olaf wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn a'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2015.
Clwb Cariad, Y Profiad
Clwb Cariad gan Y Profiad oedd Clwb Ifor Bach ar Womanby Street, Caerdydd, ar droad yr 1990au pan oedd aelodau'r band yn fyfyrwyr yn y brifysgol yn y brifddinas.
Clwb Ifor oedd clwb Cymraeg y brifddinas ac roedd yn gyrchfan gyson i aelodau Cymdeithas Gymraeg y brifysgol.
Er bod eu tafod yn eu boch wrth ganu'r gân mae rhai o'r cymeriadau a'r sefyllfaoedd yn y gân yn rhai go iawn - o helbulon "adnewyddu'r drwydded" a "Meltdown bob nos Sul" i "Eirin Peryglus tan yr oriau mân".
Siop Ddillad Bala, Eryr Wen
Oriel luniau Tan yr Hall sydd yn lleoliad hen siop ddillad Fosters yn y Bala heddiw.
Cân ychydig yn ddilornus o un o gyd fyfyrwyr aelodau Eryr Wen yn y Brifysgol yn Aberystwyth ydi hon - roedd yn dod o'r Bala ac, yn naturiol, yn prynu ei ddillad yn yr unig siop ddillad dynion yn y dref!
Efallai y dylai fod wedi mynd i Garej Paradwys!
Garth Celyn, Gwilym Bowen Rhys a Siân Harris
Un o ganeuon cystadleuaeth Cân i Gymru 2012 oedd hon am lys Llywelyn Fawr ger Abergwyngregyn.
Er nad oes na sicrwydd, mae nifer yn credu fod plasty Pen-y-Bryn yn sefyll heddiw ar safle hen lys pwysig Llywelyn.
Baled sy'n sôn am wraig Llywelyn, Siwan, yn ei fradychu am ei fod yn ei gadael i faes y frwydr o hyd ydi'r gân. Cafodd y gerddoriaeth ei chyfansoddi gan Gwilym Bowen Rhys, oedd hefyd yn Y Bandana ar y pryd, a'r geiriau gan ei fam, Siân Harris.
Cae o Ŷd, Martin Beattie/Arfon Wyn
Cân fuddugol Cân i Gymru 2000 gan Arfon Wyn sydd wedi ei chanu droeon ers hynny gan y Moniars a chorau o bob rhan o Gymru.
Mae'n gân am sefyllfa druenus y byd sydd ohoni gan alw am "blannu hadau gobaith ar hyd a lled y byd".
Ond y caeau ŷd go iawn yma ar ochr y B5109 rhwng Llansadwrn a Biwmares ar Ynys Môn oedd yr ysbrydoliaeth wreiddiol, meddai Arfon Wyn.
Byddai'n eu pasio bob dydd wrth fynd i'w waith ar y pryd fel prifathro yn Ysgol Gynradd Biwmares - caeau sy'n dangos pam cafodd Ynys Môn yr enw Môn Mam Cymru!