Llywodraeth Cymru yn cael bod yn rhan o achos llys Brexit
- Cyhoeddwyd

Mae'r Goruchaf Lys wedi dyfarnu y bydd gan lywodraethau Cymru a'r Alban yr hawl i gymryd rhan yn y ddadl sydd gerbron y llysoedd ar hyn o bryd ynglŷn â'r modd o ddechrau'r broses Brexit.
Bydd y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd yn dechrau pan mae'r DU yn tanio Erthygl 50.
Ddechrau'r mis fe wnaeth yr Uchel Lys ddyfarnu bod yn rhaid cynnal pleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin cyn y gall Llywodraeth San Steffan danio Erthygl 50 o Gytundeb Lisbon.
Wedi'r dyfarnaid dywedodd Llywodraeth Prydain y byddant yn herio'r penderfyniad yn y Goruchaf Lys.
Yna, penderfynodd Cwnsler Cyffredinol Cymru Mick Antoniw ei fod am wneud cais am ganiatâd i ymyrryd yn yr apêl oherwydd unrhyw effaith y gallai hyn gael ar Lywodraeth Cymru.
Mae wedi croesawu'r penderfyniad: "Mae'r achos hwn yn codi materion o bwys sylweddol nid yn unig o ran y cysyniad o Sofraniaeth y Senedd ond hefyd mewn perthynas â threfniadau cyfansoddiadol ehangach y Deyrnas Unedig a'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer datganoli.

"Dydy'r achos hwn yn ddim i'w wneud â gadael yr Undeb Ewropeaidd neu beidio. Mae'r bobl wedi pleidleisio dros adael yr Undeb, felly bydd y Deyrnas Unedig yn gadael.
Ychwanegodd: "Yr unig gwestiwn cyfreithiol dan sylw yw a oes modd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, fel mater o gyfraith gyfansoddiadol, ddefnyddio pwerau Uchelfreiniol i roi hysbysiad ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd.
"Yn y Goruchaf Lys, bydd Llywodraeth Cymru'n ceisio pwysleisio pwysigrwydd Sofraniaeth y Senedd a rheolaeth y gyfraith: egwyddorion craidd, sefydlog cyfraith gyfansoddiadol Prydain."
Mae disgwyl i'r goruchaf lys wrando ar yr apêl ym mis Rhagfyr.