Hyder i fentro
- Cyhoeddwyd
Yng nghynhadledd Web Summit yn Lisbon fis diwethaf roedd cwmni o Gymru yn bumed ar restr, dolen allanol o 1,500 o gwmnïau mwyaf addawol.
Sylfaenydd cwmni Properr - sy'n hwyluso'r broses o werthu tŷ - ydy Owen Derbyshire, sy'n 26 oed ac yn dod o Gaerdydd. Mae'n dweud wrth Cymru Fyw bod gan Gymru lawer i'w gynnig yn y byd busnes ond fod un peth ar goll...
Arbrofi
O'n i'n tipyn bach o Del Boy yn yr ysgol. O'n i'n arfer mynd i ocsiwn i brynu'r stwff 'ma oedd mor rhad ac o'n i'n gwerthu nhw ar eBay a gwneud elw bach teidi. O'n i tua 15 neu 16 oed, ond o'n i ddim cweit yn deall mai busnes o'dd hwnna - o'n i ddim yn deall mod i'n bod yn entrepreneurial.
Es i i'r brifysgol i Gaerwysg am flwyddyn, ond do'n i ddim yn teimlo bod e'n siwtio fi. Dwi'n credu mai'r strwythur o'dd e achos dwi'n berson eitha' annibynnol. O'dd e'n teimlo bach yn frustrating meddwl mod i yna am dair blynedd ac o'n i'n teimlo mod i eisiau bod yn creu.
Dwi'n deall yn iawn y rhesymeg dros fynd i'r brifysgol ond dwi'n meddwl fod scope i arbrofi gyda syniad tra bod ti yno. Dyna rywbeth nes i ddim cweit gwneud yn iawn. Ond mae e'n adeg diddorol iawn ym mywyd rhywun a falle mai dyna'r adeg i ti fod yn cymryd risg.
Es i 'nôl i Gaerdydd i wneud bits and bobs; gweithio ar gwpl o apps, ond d'on i ddim wir yn gwybod be' o'n i'n ei wneud. Ond o'dd e i gyd yn dysgu fi am sut i ddatblygu busnes, sut i ddatblygu product.
Nes i werthu tŷ ar ddiwedd 2014, dechrau 2015 ac o'n i methu credu pa mor aneffeithlon o'dd y broses. Am chwe mis do'dd dim cliw gen i be' oedd yn digwydd. O'n i'n teimlo gymaint allan o'r loop ac mae'n lot o arian i foi ifanc i fod yn ymddiried yn rhywun arall.
O'n i'n nabod lot o bobl o'dd yn dechre start-ups felly nes i ofyn os oedd modd symleiddio'r broses a'i wneud e'n fwy transparent. Wrth edrych ar y sector, mae e'n archaic - mae 'na gymaint o hen brosese' sy' wedi bod ers cannoedd o flynyddoedd.
Wnaeth hi gymryd rhyw flwyddyn i ni weld sut allen ni symleiddio'r broses ac ym mis Chwefror eleni roedden ni'n eitha' cyfforddus efo'r syniad a'r cynllun busnes. Nawr mae ganddo' ni dîm o saith a swyddfa gyferbyn â Chastell Caerdydd. Ma'n nuts pa mor sydyn ma' pethe wedi datblygu.
Fi ddim yn foi tech a ddim yn foi eiddo chwaith felly mae'n bwysig cael y bobl 'ma sydd lot gwell na fi i helpu i ddatblygu'r busnes. Mae'n bwysig cael y bobl ore o dy gwmpas di a rhai sy'n credu yn yr un weledigaeth ac sy'n tynnu yn yr un cyfeiriad.
'Mae'r sgiliau yma'
Mae'n fwy amlwg nawr nag o'r blaen, ond mae'r potensial yng Nghymru yn anferth. Ma' 'da ti'r licence 'ma i drio pethe. Ma' networks yn dynn iawn felly mae'n hawdd cwrdd â phobl. Mae 'na rywbeth diwylliannol 'ma nawr bod pobl yn hapus i edrych ar entrepreneurship fel gyrfa.
Dwi'n meddwl fod y Cymry wedi bod yn fwy averse i risg nag America, er enghraifft, ond dwi'n meddwl fod hynny'n newid. Mae'n bwysig bod busnesau da yn tyfu ac yn dod yn role models i bobl eraill. Dyw e ddim yn anodd, mae jyst angen cael yr hyder i neud rhywbeth. Mae'r sgiliau yna ganddo' ni o ran technoleg, busnes; mae jyst angen yr hyder yna arno' ni.
Mae'r costau byw yn isel yma, mae ganddo' ni brifysgolion llwyddiannus, a llywodraeth sy'n eitha' cefnogol i helpu busnesau hefyd. Yng Nghaerdydd mae'r safon byw yn wych ac i berson ifanc ti ddim angen llawer mwy.
Yn Lisbon ac yn Llundain mae pobl yn siarad am Gymru ac am y start-ups maen nhw wedi clywed amdanyn nhw ac mae hynny'n neis i glywed. O'n i'n siarad gyda rhywun o Oslo yn y gynhadledd yn Lisbon oedd yn gallu enwi pump neu chwe busnes o Gaerdydd.
Dros y chwe mis nesa' ni'n gobeithio dyblu'r tîm. Mae'n gyfnod exciting i fusnesau yng Nghymru.