Tyddewi - dinas fach sydd â breuddwydion mawr
- Cyhoeddwyd
Mae'r ddinas leiaf yng Nghymru a'r DU, Tyddewi, ar fin lansio cais er mwyn cael ei dewis fel Dinas Diwylliant y DU yn 2021.
Yn atyniad poblogaidd gydag ymwelwyr, mae tua 2,000 yn byw yn y ddinas yng ngogledd Sir Benfro.
Yn hanesyddol mae'n rhan o lwybr y pererinion, gyda dwy daith i Dyddewi yn cyfateb i un daith i Rufain.
Fe fydd cabinet Cyngor Sir Penfro yn trafod y cais ddydd Llun.
Mae'r ddogfen sydd wedi ei pharatoi er mwyn cefnogi'r cais yn dweud fod yna "hanes a threftadaeth gyfoethog i Dyddewi... a bod y ddinas yn ased anhygoel o ystyried ei maint".
Hefyd mae'n cyfeirio at Eglwys Gadeiriol fawreddog y ddinas oedd yn gartref i Nawddsant Cymru, Dewi Sant.
Mae'r cyngor yn awgrymu y dylai'r cais gynnwys ardal ehangach o ogledd Sir Benfro "er mwyn gallu elwa ar hunaniaeth ddiwylliannol gogledd Sir Benfro, er enghraifft yr iaith Gymraeg".
Mae disgwyl i'r Ddinas Diwylliant buddugol gael ei dewis erbyn Rhagfyr 2017.