Cadarnhau mai dyn oedd ar goll fu farw ger Llanrwst
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cadarnhau mai corff dyn aeth ar goll tra'n cerdded yn ardal Afon Conwy a gafodd ei ddarganfod ger Llanrwst ddydd Sul.
Cafodd corff Brian Perry, 75, ei ddarganfod ddydd Sul yn dilyn adroddiadau ei fod wedi bod ar goll ers prynhawn Sadwrn.
Doedd Mr Perry heb gael ei weld ers tua 16:30, wedi iddo fynd â'i gi am dro ger pentref Trefriw ger Llanrwst.
Roedd wedi bod yn cerdded mewn ardal oedd wedi gweld llifogydd sylweddol o ganlyniad i Storm Bert.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod ei deulu wedi cael gwybod, a'u bod yn cydymdeimlo gyda nhw.
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Bu'r heddlu, Gwylwyr y Glannau, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Tîm Chwilio ac Achub Gogledd-Ddwyrain Cymru a'r tîm chwilio tanddwr rhanbarthol yn archwilio'r afon ers i Mr Perry fynd ar goll.
Roedd wedi bod yn cerdded gyda'i wraig a'u ci ger Ffordd Gower - ardal sydd wedi gweld llifogydd sylweddol wedi Storm Bert.
Cafodd ei gorff ei ddarganfod gan ddeifiwr heddlu yn ardal Ffordd Gower, rhwng Trefriw a Llanrwst ddydd Sul.