Llais y Llywydd: Laura McAllister
- Cyhoeddwyd
Wedi gyrfaoedd disglair ym myd y bêl gron ac fel ysgolhaig, fe fydd hi'n her wahanol i'r Athro Laura McAllister wrth iddi droi ei sylw at Eisteddfod yr Urdd fel un o lywyddion dydd Mawrth.
Cafodd ei magu ym Mhen-y-bont, cyn symud ymlaen i addysg uwch yn Llundain a Chaerdydd, ble mae hi yn arbenigo mewn datganoli ac etholiadau yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru.
Yn ogystal â'i gyrfa academaidd fe enillodd 24 o gapiau dros dîm pêl-droed Cymru, ac aeth ymlaen i gadeirio corff Chwaraeon Cymru am dros 15 mlynedd.
Cyn camu ar lwyfan y 'Steddfod, bu'n sôn am ei pherthynas â'r ŵyl a'r Urdd.
Beth yw eich atgof cyntaf/hoff atgof o'r Urdd?
Fy nghof cyntaf fyddai bod yn rhan o Eisteddfod yr Urdd am gyfnod byr pan roeddwn yn ddisgybl yn Ysgol Glyndŵr, Pen-y-bont. Rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i'n gerddorol iawn nac yn rhyw ddawnsiwr neu adroddwr talentog iawn, ond roeddwn yn dal i fwynhau ymuno â fy ffrindiau. Os oedd unrhyw beth oedd yn ymwneud â chwaraeon ar gael, fi oedd y cyntaf yn y ciw!
Disgrifiwch y profiad o gystadlu yn yr Eisteddfod i berson o'r gofod.
Byddwch yn mynychu gŵyl enfawr gyda miloedd o blant a phobl ifanc, sydd oll yn casglu mewn un lleoliad mawr gyda llawer o hwyl a gemau, ond â chystadlu dwys hefyd. Mae pawb yn cwrdd â'u ffrindiau o bob cwr o Gymru. Byddwch yn dangos eich sgiliau ym mha bynnag weithgaredd a chewch eich beirniadu gan arbenigwyr. Bydd llawer o ddathlu os byddwch yn ennill, a llawer o hwyl hyd yn oed os na fyddwch chi!
Yw'r profiad o gystadlu wedi bod o fudd yn eich bywyd proffesiynol?
Rydw i wastad wedi credu bod gwneud unrhyw beth yn gyhoeddus yn hyfforddiant gwych ar gyfer gyrfa rhywun a'u datblygiad personol, boed hynny mewn perfformio neu chwaraeon. Fel rhywun fu yn ddigon ffodus i chwarae pêl-droed i Gymru, credaf fod disgyblaeth hyfforddi a chystadlu mewn Eisteddfodau wedi bod yn ddechrau gwerthfawr i mi.
Mae hi'n bwysig ceisio bod y gorau y gallwch fod ac mae cystadlu yn rhan o hynny. I lwyddo mewn unrhyw beth, rhaid i chi ganolbwyntio, bod yn ddisgybledig, yn barod i weithio'n galed, penderfynol, a gwydn - oll yn nodweddion sydd eu hangen yn nes ymlaen mewn bywyd!
Pa gystadleuaeth newydd hoffech ei weld yn rhan o'r Eisteddfod?
Pêl-droed merched o 4-16 mlwydd oed ac ar bob lefel!
Disgrifiwch ardal Pen-y-bont ar Ogwr i bobl sydd erioed wedi bod yno o'r blaen.
Pen-y-bont a'r ardal gyfagos yw un o'r llefydd mwyaf prydferth yng Nghymru. Yn ogystal â'r dref, gallech ymweld ag arfordir prydferth Morgannwg. Rydw i wrth fy modd yn rhedeg ar draethau Porthcawl ac Aberogwr. Ewch i weld cymoedd rhyfeddol a hanesyddol Llynfi, Garw ac Ogwr lle mae ein treftadaeth lofaol bwysig i'w weld. Ardal gyfeillgar yw Pen-y-bont ar y cyfan, lle mae'r iaith Gymraeg yn ffynnu. Mae'n dref chwaraeon llwyddiannus sydd â chlybiau pêl-droed a rygbi penigamp, ac o le daw rhai o athletwyr gorau Cymru - Aled Siôn Davies, Nicole Cooke, Helen Jenkins a Gareth Thomas i enwi dim ond rhai.
Beth, yn eich barn chi, yw'r peth gorau am yr Urdd?
Y peth gorau am yr Urdd yw'r ffaith ei fod yn rhoi cyfle i ni ddefnyddio'r Gymraeg mewn awyrgylch sy'n hwyl ac anffurfiol. Mae mor hawdd troi i'r Saesneg y tu allan i'r ysgol gan ei bod yn iaith gref fyd-eang, ond mae gwneud yr holl bethau cŵl drwy'r Urdd yn rhoi i ni'r ysgogiad i ddefnyddio'r Gymraeg a chael lot o hwyl wrth wneud!