Penodi'r barnwr Cymreig cyntaf i'r Goruchaf Lys

  • Cyhoeddwyd
Lord Justice Lloyd JonesFfynhonnell y llun, Supreme Court

Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi pwy yw'r aelod Cymreig cyntaf o'r Goruchaf Lys.

Mae'r Arglwydd Ustus Lloyd Jones - Syr David Lloyd Jones - wedi bod yn farnwr ar gylch llysoedd Cymru a chafodd ei benodi i'r Llys Apêl yn 2012.

Mae'n un o dri ustus newydd, ac fe gafodd ei eni a'i fagu ym Mhontypridd.

Mae galwadau wedi eu gwneud yn y gorffennol i benodi barnwyr Cymraeg i'r Goruchaf Lys, wrth i gyfreithiau Cymreig gael eu pasio yn y Cynulliad.

Ond er fod gan yr Alban a Gogledd Iwerddon systemau barnwrol ers tro, mae'r Arglwydd Thomas o Gresffordd eisoes wedi dweud nad oedd angen penodi 12 o farnwyr llawn amser o Gymru gan fod y galw i ymdrin a chyfreithiau Cymreig yn brin.

Fodd bynnag, dywedodd prif weithredwr y llysoedd ar y pryd, Jenny Rowe, wrth i'r corff o gyfraith Gymreig gynyddu oherwydd datganoli byddai angen ystyried penodi barnwr oedd â dealltwriaeth o gyfreithiau Cymreig.