Ymgais i atgyfodi papur Y Cymro yng ngwanwyn 2018

  • Cyhoeddwyd
Y Cymro

Mae un o aelodau Cyfeillion y Cymro wedi dweud eu bod yn gobeithio y gall y papur newydd hanesyddol ailymddangos y flwyddyn nesaf.

Cafodd rhifyn olaf Y Cymro ei gyhoeddi ddiwedd Mehefin, gan ddod â thraddodiad oedd wedi para 85 o flynyddoedd i ben.

Dywedodd y perchnogion ar y pryd, cwmni Tindle, y bydden nhw yn fodlon gwerthu'r papur, a daeth criw at ei gilydd yn fuan wedyn i drafod syniadau gyda'r gobaith o'i atgyfodi.

Mae'r grŵp nawr wedi dweud wrth raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru eu bod yn gobeithio ei weld yn dychwelyd yn ystod gwanwyn 2018.

'Yr angen yno'

Eu bwriad yw paratoi cynllun busnes er mwyn gallu cael arian gan y Cyngor Llyfrau, oedd yn rhoi grant o £18,000 tuag at berchnogion y papur gynt.

Cafodd cyfarfodydd eu cynnal yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, a'r bwriad nawr yw denu rhagor o bobl ag arbenigedd mewn gwahanol feysydd i gynllunio dyfodol i'r papur.

"Mae'n hymchwil ni wedi dangos fod yr angen yna, felly ar hyn o bryd 'dyn ni'n troi'r dyhead yna tuag at realiti," meddai cydlynydd y prosiect David Wyn Williams.

Dywedodd mai'r bwriad oedd parhau i gyhoeddi'r Cymro ar ffurf papur newydd traddodiadol, yn hytrach symud ymhellach tuag at fodel ar-lein.

llyfrau
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cyfeillion yn gobeithio am gefnogaeth ariannol gan y Cyngor Llyfrau

"O ran prosiect Y Cymro dwi'n credu'n bersonol ei bod hi'n hollbwysig mai papur newydd fydd yr amcan," meddai.

"Dwi'n teimlo fod yr angen yn dal i fod yna am bapur newydd, felly mae pobl yn gallu edrych yn ôl ar gyfnod o amser a gweld beth sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod y cyfnod yna."

Ychwanegodd mai'r bwriad oedd gweld y cyhoeddiad yn ôl ar ei thraed erbyn "y flwyddyn ariannol nesaf".

"Mae'n wir fod yn rhaid i ni fynd ati tra bod y brwdfrydedd a'r momentwm yn dal yno."

'Angen ystyried'

Dywedodd Arwel Jones, swyddog grantiau Cymraeg y Cyngor Llyfrau eu bod yn disgwyl i Gyfeillion y Cymro ddod yn ôl atyn nhw â chais ffurfiol a chynllun busnes.

Mae yna gefnogaeth mewn egwyddor, meddai, i roi grant i'r Cymro cyn belled â bod y cynllun yn dal dŵr.

"Mae natur cynlluniau'r Cyfeillion yn wahanol i'r hyn roedd Tindle yn ei wneud, sef cyhoeddi papur wythnosol, felly bydd angen ystyried y cynlluniau'n fanwl," meddai.

"Rydan ni'n disgwyl clywed gan y grŵp er mwyn gallu trefnu cyfarfod yn ystod yr wythnosau nesaf i drafod y ffordd ymlaen."