Cymro yw prif ymgynghorydd economaidd y Canghellor
- Cyhoeddwyd
Mae yna gryn ddyfalu wedi bod ers tro am gynnwys y gyllideb ond mae Steffan Ball, sydd a'i wreiddiau yn ardal Dolgellau ac Aberystwyth, yn gwybod yn iawn beth sydd yn y bocs coch.
Ddiwedd mis Hydref eleni cafodd Steffan Ball ei benodi yn brif ymgynghorydd economaidd i'r Canghellor Philip Hammond wedi gyrfa lwyddiannus yn Efrog Newydd.
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd ei fam Gretta Ball: "Ry'n yn prowd iawn o Steffan - ro'dd e wastad yn dweud y byddai'n lico gweithio yn Downing Street a nawr mae e wedi cyrraedd rhif 11.
"Fuon ni lan yn ei weld e penwythnos cyn diwetha ond welon ni ddim ohono fe am hir gan ei fod yn gorfod mynd i'r gwaith ar y dydd Sul.
"Mae Steffan wastad wedi bod yn un sy'n gweithio'n galed a phan o'dd gwaith cartre 'dag e o'dd e wastad yn mynd i'w wneud e'n strêt. Ro'dd ei bedwar brawd hefyd yn eitha da."
Cafodd Steffan ei addysg gynnar yn Ysgol y Clogau yn Y Bont-ddu ger Dolgellau ac yn ysgol Tower House yn Y Bermo. Aeth yna i Goleg Malvern cyn graddio yng Nghaergrawnt mewn economeg.
'Wastad busnes yn y teulu'
"Mae e wastad wedi bod yn academaidd iawn," ychwanegodd Gretta. "Ar ôl gwneud ei radd gyntaf mi na'th e radd meistr a doethuriaeth yng Nghaergrawnt.
"Falle bydd llai o drips i Efrog Newydd nawr. Am saith mlynedd bu Steffan yn gweithio i gwmni Citadel gan rannu ei amser rhwng Llundain ac Efrog Newydd."
Cyn hynny bu Steffan yn gweithio i Fanc Lloegr a Banc y Federal Reserve yn America.
"Steffan yw'r trydydd o bum brawd," meddai Gretta ac mae'r pedwar arall hefyd yn ymddiddori yn y byd ariannol.
"Mae wastad busnes wedi bod yn y teulu. Roedd fy mam a'n nhad yn arfer rhedeg gwesty'r Ashley's yn Aberystwyth ac mae fy chwaer Nerys yn rhedeg gwesty ar y prom.
"Rwy i a fy ngŵr hefyd yn bobl busnes ac ry'n ar hyn o bryd yn berchen ar fusnes yn Y Bont-ddu."