Dyn yn marw wedi dwy flynedd yn yr ysbyty ar ôl ymosodiad
- Cyhoeddwyd
Mae dyn anabl a ddioddefodd ymosodiad gan ei gymydog wedi iddo gwyno bod ei gi yn cyfarth yn y nos, wedi marw ar ôl bod yn yr ysbyty am ddwy flynedd.
Fe wnaeth Raymond Burrell ymosod ar Matthew Sheehan y tu allan i'w dŷ yng Nghaerdydd ym mis Medi 2015, gan ei adael mewn pwll o waed.
Mewn achos yn 2016, cafodd Burrell ei ganfod yn ddieuog o geisio llofruddio ond yn euog o achosi niwed corfforol difrifol, ac fe gafodd ddedfryd o garchar am oes.
Dywedodd y barnwr y dylai dreulio o leiaf wyth mlynedd dan glo.
Clywodd y llys yn ystod yr achos fod Mr Sheehan wedi cwyno yn gyson bod ci Raymond Burrell yn gwneud sŵn yn hwyr yn y nos a'i fod wedi ymosod arno yn dilyn ffrae yn gynnar un bore.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn gweithio gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron yn dilyn marwolaeth Mr Sheehan.
Dywedodd llefarydd: "Rydym yn ymwybodol o'r ffaith bod Matthew Sheehan wedi marw ar 9 Tachwedd yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
"Mae tîm ymchwilio troseddau difrifol Heddlu De Cymru bellach wedi cysylltu â theulu Mr Sheehan, Gwasanaeth Erlyn y Goron a Chrwner EM mewn perthynas â'i farwolaeth."
Roedd Burrell wedi treulio cyfnod yn y carchar yn y gorffennol ar ôl iddo saethu ei gariad 17 oed yn farw yn 2002.