Iechyd yn bwnc llosg dadl isetholiad Alun a Dyfrdwy

  • Cyhoeddwyd
Isetholiad

Mae pedwar o'r pum ymgeisydd ar gyfer isetholiad Alun a Glannau Dyfrdwy wedi gwrthdaro dros sut i wella'r gwasanaeth iechyd ac a ddylai'r cyhoedd gael pleidlais arall ar Brexit mewn dadl deledu fyw ar y BBC.

Penderfynodd Jack Sargeant, ymgeisydd y Blaid Lafur beidio ag ymuno â'r ymgeiswyr Ceidwadol, y Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Cymru a'r Blaid Werdd ar raglen BBC Wales Live a ddarlledwyd o Gei Connah.

Dywedodd Carrie Harper, ymgeisydd Plaid Cymru y gellid mynd i'r afael â phrinder meddygon a nyrsys yn y gogledd trwy agor ysgol feddygol yn y rhanbarth "oherwydd gwyddom, lle mae pobl yn hyfforddi, mae nhw'n tueddu i aros a gweithio".

Dywedodd y byddai "yn hapus i edrych" ar godi trethi i'r gwasanaeth iechyd pe byddai'r arian yn cael ei neilltuo.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carrie Harper o Blaid Cymru bod angen denu staff meddygol drwy agor ysgol feddygol yn y gogledd

Dywedodd Donna Lalek, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol fod ei phlaid yn ffafrio codi trethi i dalu am y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol: "Rydym am godi trethi.

"Rydym am roi ceiniog yn y bunt ar dreth incwm.

"Does neb yn hoffi talu trethi, ond mae angen gwneud rhywbeth ac mae angen ei wneud nawr."

Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol o blaid codi trethu i dalu am y gwasanaeth iechyd, meddai Donna Lalek

Wrth sôn am gynyddu trethi ar gyfer y gwasanaeth iechyd, dywedodd Sarah Atherton, ymgeisydd y Ceidwadwyr Cymreig y byddai'n ystyried y syniad".

Galwodd y cyn-nyrs a gweithiwr cymdeithasol am "adolygiad trylwyr" o reolaeth ac arweinyddiaeth y gwasanaeth iechyd, gan honni bod yna "lawer o wastraff".

Disgrifiad o’r llun,

Galwodd Sarah Atherton o'r Ceidwadwyr am adolygiad trylwyr o arweinyddiaeth y gwasanaeth iechyd

Dywedodd ymgeisydd y Blaid Werdd, Duncan Rees, fod angen gwneud mwy ar "gysoni" iechyd a gofal cymdeithasol.

Dywedodd y dylai pobl "dderbyn gofal cymdeithasol priodol pan fyddant yn mynd adref fel nad ydyn nhw yn llenwi gwelyau ysbyty".

Dywedodd y byddai'r Gwyrddion yn barod i godi trethi "pe bai pobl eisiau gwell gwasanaeth iechyd".

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen cysoni iechyd a gofal cymdeithasol meddai Duncan Rees o'r Blaid Werdd

Ar Brexit, dywedodd Democratiaid Rhyddfrydol y dylai'r cyhoedd gael pleidlais ar y fargen: "Roedd y bobl yn siarad yn refferendwm yr UE, ond nid oeddem yn gwybod beth fyddai'n digwydd."

"Rydym ni nawr yn dechrau cael blas o swyddi mewn perygl, prisiau'n codi, " meddai Ms Lalek. "Mae'n rhaid i ni roi'r telerau i'r bobl. "

Cytunodd Duncan Rees ar gyfer y Blaid Werdd. "Roedd y wlad wedi'i rannu'n sylweddol i lawr y canol. Enillodd un ochr, ond nid gan fwyafrif helaeth," meddai.

"Yn sicr, dylai fod gan y Senedd bleidlais ar y fargen a gynigir yn y pen draw, a dylai pobl Prydain gael pleidlais hefyd ar y fargen honno."

Dim ail bleidlais?

Ond gwrthodwyd y syniad o ail refferendwm gan Sarah Atherton o'r Ceidwadwyr, ddywedodd fod "ei phlaid yn gweithredu ewyllys democrataidd y bobl".

Dywedodd y byddai yn cefnogi Prif Weinidog Theresa May "i gael y fargen Brexit orau y gall hi ei gael i bobl y wlad hon," meddai.

Dywedodd Carrie Harper o Blaid Cymru fod ail bleidlais yn "syniad diddorol" ond nid ffocws ei phlaid.

"Os ydych chi'n edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn Norwy, gallwch gael y buddion gan y farchnad sengl a'r undebau tollau," meddai.

"Pleidleisiodd pobl i adael yr UE ond nid oedden nhw'n pleidleisio i adael swyddi."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr ymgeisydd Llafur Jack Sargeant nad oedd yn cymryd rhan yn y ddadl am ei fod eisiau siarad yn uniongyrchol â phobl yr etholaeth

Gwrthododd ymgeisydd y Blaid, Jack Sargeant, gymryd rhan yn y ddadl.

Mewn datganiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, dywedodd: "Mae fy ffocws absoliwt ar siarad yn uniongyrchol â phobl Alun a Glannau Dyfrdwy.

"Nid wyf am i ddim dynnu sylw oddi ar ein hymgyrch leol o'r flaenoriaeth hon, a dyna pam na fyddaf yn cymryd rhan. "

Galwyd yr isetholiad, ar 6 Chwefror, ar ôl marwolaeth tad Jack Sargeant, Carl Sargeant.