Pump ymgeisydd yn isetholiad Alun a Glannau Dyfrdwy

  • Cyhoeddwyd
Carl Sargeant
Disgrifiad o’r llun,

Daw'r isetholiad yn dilyn marwolaeth y cyn-weinidog, Carl Sargeant

Fe fydd pum plaid yn cymryd rhan yn yr isetholiad fis nesaf i ddewis olynydd i'r cyn-weinidog Llywodraeth Cymru, Carl Sargeant, fel AC Alun a Glannau Dyfrdwy

Roedd gofyn i ymgeiswyr gael eu henwebu erbyn 16:00 ddydd Mercher ar gyfer yr isetholiad ar 6 Chwefror.

Mab 23 oed Mr Sargeant, Jack, yw ymgeisydd y Blaid Lafur, gyda Sarah Atherton yn sefyll ar ran y Ceidwadwyr, Carrie Harper ar ran Plaid Cymru, Donna Lalek ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol, a Duncan Rees ar ran y Blaid Wredd.

Yn yr etholiad diwethaf yn 2016, fe wnaeth Llafur sicrhau mwyafrif o 5,364 dros y Ceidwadwyr, ac roedd UKIP yn drydydd.

Dim UKIP

Roedd UKIP eisoes wedi dweud na fyddan nhw'n enwebu ymgeisydd petai Llafur yn dewis Jack Sargeant.

Cafodd Carl Sargeant ei ganfod yn farw yn ei gartref yng Nghei Connah ddyddiau wedi iddo golli ei swydd fel ysgrifennydd cymunedau Llywodraeth Cymru yn sgil honiadau am ei ymddygiad.

Roedd wedi dweud bod yr honiadau'n "sioc" iddo ac wedi addo brwydro i adfer ei enw da.

Bydd ymchwiliad annibynnol yn ystyried amgylchiadau ei ddiswyddiad.