Corff arbed arian yn gwneud colledion
- Cyhoeddwyd
Mae corff gafodd ei sefydlu i sicrhau arbedion ariannol i'r sector cyhoeddus wedi gorfod cael ei achub gan y Llywodraeth ar ôl gwneud colledion.
Cafodd Y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol - GCC - ei sefydlu er mwyn sicrhau bargeinion gwell trwy brynu blociau sylweddol o nwyddau neu wasanaethau, gan son am bethau fel cytundebau gwerth miliynau drwy brynu trydan neu logi staff asiantaeth.
Ond fe wnaeth Swyddfa Cyfrifon Cymru ddarganfod mai dim ond tua £150m gafodd ei wario gan gyrff cyhoeddus oedd yn defnyddio GCC yn 2015-16.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn cynnal arolwg o waith y Gwasanaeth Caffel Cenedlaethol.
'Methu ad-dalu benthyciad'
Yn ôl adroddiad gan Swyddfa Cyfrifon Cymru fe wnaeth y GCC sicrhau arbedion o £25m i'r cyrff wnaeth ei ddefnyddio yn 2015-16.
Ond dim ond £339,143 wnaeth y corff dderbyn am ei wasanaeth, oedd yn llai na'r £2.4m oedd yn costio i'w gynnal.
Yn y flwyddyn ganlynol 2016-17, roedd cynnydd yng ngwerth y cytundebau aeth trwy ddwylo'r gwasanaeth newydd i £234m
Yn ôl yr adroddiad fe wnaeth y corff wneud arbedion o £148m y flwyddyn honno - tua 60% o'r hyn oedd yn ddisgwyliedig.
Fe wnaeth y corff hefyd barhau i wneud colled o tua £2m.
Mae'r gwasanaeth wedi methu hyd yn hyn i ad-dalu benthyciad o £5.9m gan Lywodraeth Cymru.
Cafodd y gwasanaeth ei sefydlu gan yr Ysgrifennydd Cyllid Jane Hutt yn 2013 gyda'r bwriad o sicrhau arbedion o fwy na £4bn yn flynyddol i'r sector cyhoeddus.
Dywedodd adroddiad Swyddfa Cyfrifon Cymru mai dim ond un rhan o dair o gyrff cyhoeddus a wnaeth gymryd rhan mewn arolwg oedd yn dweud eu bod yn fodlon gyda'r gwasanaeth.
Roedd un o bob tri o'r awdurdodau lleol, a hyd yn oed Llywodraeth Cymru yn anfodlon.
Cafodd perfformiad a dyfodol GCC ei drafod gan aelodau Pwyllgor Cyllid Cyhoeddus y Cynulliad ddydd Llun.
Dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymru mewn trydar: "Mae hyd yn oed y llywodraeth yn datgan eu bod yn anfodlon, alw chi ddim gwneud y peth i fyny."
Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu casgliadau Swyddfa Archwilio Cymru gafodd ei gyhoeddi'r llynedd.
"Mae tanlinellu fod gwariant cyhoeddus sy'n defnyddio'r Gwasanaeth yn cynyddu bob blwyddyn.
"Mae adroddiad hefyd yn cydnabod fod arbedion y GCC i'r sector cyhoeddus yn fwy na'r buddsoddiad ar gyfer sefydlu'r gwasanaeth.
Dywedodd fod y llywodraeth yn cydnabod fod angen gwneud mwy o waith yn y maes a bod arolwg yn cael ei gynnal.