Teimladau cymysg wrth bobi bara Cwm am y tro olaf
- Cyhoeddwyd
Mae staff becws teuluol sydd wedi gwasanaethu rhan o Wynedd ers dros hanner canrif wedi mynegi teimladau cymysg wrth baratoi i bobi bara a theisennau am y tro olaf y penwythnos yma.
Fe sefydlwyd Becws Cae Gors yng Nghwm-y-Glo, rhwng Llanrug a Llanberis, gan Selwyn Morris a'i frodyr Dafydd ac Alwyn yn 1966.
Ag yntau bellach yn 74 oed mae Selwyn Morris yn teimlo bod "yr amser wedi dod" iddo yntau, fel ei frodyr gynt, ymddeol a bydd y becws yn agor am y tro olaf ddydd Sadwrn.
Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at beidio gorfod dechrau ei ddiwrnod gwaith am 02:00, gan ddiolch i gwsmeriaid sydd wedi cefnogi'r busnes dros y blynyddoedd.
Mae gweithio saith diwrnod yr wythnos o'r oriau bach tan ganol p'nawn "wedi bod yn waith caled," meddai, "ond o'n i wrth fy modd yma".
Rhwng y becws ei hun a'i siopau yn Llanberis a Chaernarfon, mae'r busnes yn cyflogi 20 o bobl, ac mae'n cyflenwi busnesau a siopau eraill yn ardaloedd Caernarfon, Bangor a rhannau o Ynys Môn.
Mae pum fan hefyd yn mynd o gwmpas pentrefi'r ardal yn gwerthu nwyddau - gwasanaeth sy'n cael ei ddefnyddio yn bennaf gan gwsmeriaid oedrannus, yn ôl merch Selwyn Morris.
"Dim otsh pa dywydd, o'dd Dad allan," meddai Julie Roberts.
"Mae o'n dedicated - mae o'n neud yn siŵr bod ei gwsmeriaid yn dod gyntaf."
Mae Mr Morris yn cofio "cario bara dros gaea' ... yr eira ben walia" yn ystod tywydd garw i ymweld â chartrefi cwsmeriaid mewn pentrefi anodd i'w cyrraedd fel Penisarwaun.
"O'dd hen bobl yn dibynnu arno i ga'l bara," meddai Mrs Roberts. "Os oeddan nhw methu ca'l llefrith neu rwbath, fysa fo yn mynd i'r siop i nôl llefrith iddyn nhw.
"Ella fysa rhai ddim yn gweld neb am wythnosa'. O'ddan nhw'n ca'l siarad efo Dad, o'dd o yn gwmni mewn ffordd. O'ddan nhw'n disgw'l i weld Dad."
"Maen nhw 'di gwatshad ar f'ôl i," meddai Mr Morris, gan ddiolch cwsmeriaid ffyddlon am ei gefnogi.
"Gewch chi ddim cystal cacen ŵy â rhai Cwm - na cream doughnuts!" meddai Catherine Foulkes, sy'n gweithio yn y becws ers 38 mlynedd.
Dywedodd bod nifer o gwsmeriaid selog wedi prynu sawl torth yn fwy na'r arfer yn y dyddiau diwethaf wrth brynu o'r siop am y tro olaf.
"Mae'n drist ofnadwy - pawb yn colli ni ac yn gofyn lle ma nhw'n mynd i ga'l bara o hyn ymlaen. Ma' rhai am ddechrau neud bara eu hunain."
Does dim bwriad rhannu'r gyfrinach ynghylch blas arbennig 'bara Cwm' fel mae'n cael ei alw'n lleol, oni bai bod wnelo fo rhywbeth â'r crasiad.
Mae Meinir Griffith yn prynu bara o'r becws yn rheolaidd ers priodi a symud i Benisarwaun 28 mlynedd yn ôl.
"Dwi'n prynu 10 torth ar y tro a rhoi nhw yn y rhewgell. Dwi'n prynu ambell i deisen a sosej rôl... mins peis 'Dolig a bara i neud stwffin.
"Ma' nhw'n rhoi gwasanaeth arbennig a fydd hi'n chwith mawr ar eu holau nhw."
Dywed y teulu na fu'n fwriad erioed i geisio gwerthu'r busnes wedi ymddeoliad Mr Morris.
Ond gyda'r duedd gynyddol i bobl brynu bara o'r siopau mawr a gofynion ymarferol cynhyrchu mewn becws bach annibynnol, maen nhw'n amheus faint o ddiddordeb fydde wedi bod mewn prynu'r busnes.
"Ma' generation heddiw yn wahanol," meddai Mrs Roberts. "Ond o'dd o'n dal yn fusnes mawr ac yn fusnes da.
Does dim brys i benderfynu beth i'w wneud gyda'r adeilad yng Nghwm-y-Glo.
"Fyddai'n ôl yn fa'ma bob dydd, mae'n siŵr!" meddai Mr Morris, cyn i'w ferch ychwanegu: "Swn i'm yn licio gweld neb arall yna.
"'Da ni'n cau y drws, a Dad bia' fo a 'sa neb arall yn ca'l dod i mewn. 'Sa ni byth yn neud hynna.
"Bydd yn anodd dydd Sadwrn ond fydd o'n ok 'da ni'n deulu reit clos."