Cofio'r cerddor a'r arweinydd Helena Braithwaite

  • Cyhoeddwyd
Helena BraithwaiteFfynhonnell y llun, Ty Pawb
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Helena Braithwaite sawl gwobr am ei gwaith ym myd cerdoriaeth

Yn 80 oed bu farw'r cerddor a'r arweinydd corau Helena Braithwaite.

Roedd Ms Braithwaite yn adnabyddus fel arweinydd corau ac fel hyfforddwr oedd hefyd yn gweithio yn y gymuned yn hyrwyddo cerddoriaeth ym Mro Morgannwg a Chaerdydd.

Ar ôl graddio gydag anrhydedd mewn cerddoriaeth - gan arbenigo mewn cerddoriaeth o'r 20fed ganrif - bu'n darlithio mewn Addysg Gerddorol yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd o 1972 - 1993.

Fe enillodd sawl gwobr genedlaethol yn sgil ei gwaith fel Cynghorydd Cerdd i Gyngor Sir De Morgannwg rhwng 1979 - 1993.

Daeth cyfle wedyn i Ms Braithwaite weithio gyda'r BBC fel trefnydd ac arweinydd prosiect mewn cymunedau ar draws Cymru gyda Cerddorfa'r BBC.

'Cerddor amryddawn'

Huw Tregelles Williams oedd Cyfarwyddwr Cerddorfa'r BBC ar y pryd ac fe ddisgrifiodd gyfraniad Ms Braithwaite fel un "cyfoethog iawn ac roedd yn gerddor amryddawn oedd â'r gallu i drin corau yn arbennig".

Hi wnaeth sefydlu Côr Ieuenctid De Morgannwg a Chantorion Ardwyn, Caerdydd a dywedodd Cyfarwyddwr Cerddorol Côr Ardwyn Caerdydd, David Leggett "ein bod wedi colli cerddor amryddawn a thalentog dros ben".

Ychwanegodd: "Roedd Helena Braithwaite yn un â'r ddawn o hyfforddi côr i'r safon uchaf posib, ond hefyd roedd hi'n medru addysgu pawb am gerddoriaeth wrth wneud hynny.

"Cafodd ddylanwad enfawr ar genedlaethau o gerddorion ifanc yn enwedig fel arweinydd Côr Ieuenctid De Morgannwg a Chantorion Ardwyn Caerdydd.

"O dan ei arweiniad fe deithiodd Cantorion Ardwyn Caerdydd led y byd gan berfformio i nifer o fawrion gan gynnwys Nelson Mandela.

Disgrifiad o’r llun,

Fe weithiodd Huw Tregelles Wiliams gyda Ms Braithwaite fel rhan o Gerddorfa'r BBC yng nghanol y 90au

Ym 1994, fe dderbyniodd Ms Braithwaite wobr goffa John Edwards gan yr Urdd am Hyrwyddo Cerddoriaeth Gymreig.

Fe gafodd ei anrhydeddu gydag MBE yn 1998 am ei gwasanaetha i gerddoriaeth Gymreig.

'Unigryw'

Fel rhywun oedd yn glos iawn at Gôr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru fe wnaeth Cyfarwyddwr y Tŷ Cerdd, Deborah Keyser roi teyrnged drwy ddweud:

"Mae dyled Tŷ Cerdd yn fawr i Helena... roedd hi'n gysylltiedig â Chôr Ieuenctid Cymru ers ei sefydlu yn 1984 yn artistig ac ar ffurf ymgynghorol.

"Fe wnaeth Helena chwarae rhan unigryw yng Ngherddoriaeth Cymru," meddai.

Mae John Cranmer, Cyfarwyddwr Datblygu Academaidd y Coleg Cerdd Brenhinol yng Nghaerdydd wedi dweud fod gwaith Ms Braithwaite wedi bod yn "arloesol".

"Fe wnaeth Helena gyfrannu at addysg a hyfforddiant cenedlaethau o gerddorion yn y Coleg Brenhinol.

"Roedd ei gwaith arloesol ym maes cerddoriaeth gymunedol yn arbennig o ddylanwadol wrth lunio gyrfaoedd llawer y tu mewn i Gymru a thu hwnt," meddai.