Cynllun i orchuddio chwarter dinas Casnewydd â choed

Y nod yw plannu 30,000 o goed newydd, meddai Joanne Gossage o Gyngor Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Mi fydd chwarter Casnewydd o dan orchudd canopi coed fel rhan o gynllun newydd i ddatblygu 'coedwig drefol' y ddinas.
Bydd bron i 30,000 o goed yn cael eu plannu i ychwanegu at y chwarter miliwn sydd eisoes yn bodoli yno.
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddechrau cyfrif nifer y coed mewn trefi.
Yn ôl yr asesiad diweddaraf, Casnewydd oedd y ddinas â'r gyfran uchaf o orchudd canopi coed yng Nghymru.
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2024
Mae Joanne Gossage, rheolwr gwasanaeth yr amgylchedd a hamdden yng Nghyngor Casnewydd, yn credu bod y ddinas yn "wyrdd iawn" ac nad yw gorchuddio 25% o'r ddinas gyda gorchudd canopi coed yn darged afrealistig.
"Mae pobl yn meddwl am goedwig drefol fel rhywbeth tywyll, efallai ychydig yn fygythiol a brwnt - ond dyw hi ddim," meddai.
"Mae'r coed yn creu fframweithiau deniadol mewn man agored cyfyngedig - gall fod mewn stryd - gan greu ardal gysgodol braf uwchben pennau pobl.
"Mae 'na fudd economaidd, gyda chysylltiad uniongyrchol rhwng plannu seilwaith gwyrdd ag awydd pobl i fynd i ardal - i fyw yno neu i ymweld â hi."

Mae Parc Glan yr Afon yng Nghasnewydd drws nesaf i Bont y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol - un o ffyrdd brysuraf y ddinas
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i gwblhau arolwg o orchudd canopi mewn ardaloedd trefol.
Cafodd mapiau o'r gorchudd canopi mewn trefi a dinasoedd eu creu yn defnyddio lluniau a gafodd eu tynnu o'r awyr.
Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru ganfyddiadau am orchudd coed trefol yn 2016.
Gorchudd canopi trefol Caerdydd - 15.4%
Gorchudd canopi trefol Wrecsam - 17.4%
Gorchudd canopi trefol Abertawe - 17.4%
Gorchudd canopi trefol Casnewydd - 18%
Mae Casnewydd yn amcangyfrif bod ei choedwig drefol bresennol werth £2.2m y flwyddyn i'r ddinas ac yn storio 76,000 tunnell o garbon, sydd werth mwy na £17m.
Bydd y cyngor yn tyfu coed ar ei dir ei hun, ond yn gobeithio y bydd datblygwyr preifat a pherchnogion tir yn gwneud yr un peth i ychwanegu at orchudd canopi'r ddinas.

Mae Daniel Key yn byw yng Nghasnewydd ac yn teimlo y byddai'r ddinas yn elwa o gael hwb gwyrdd
Dywedodd Daniel Key, sy'n 37 ac yn byw yng Nghasnewydd, y "byddai'n hyfryd" pe bai chwarter y ddinas dan orchudd canopi coed".
"Mae'n ddinas adeiledig iawn - sydd ddim yn y cyflwr gorau ar hyn o bryd, gyda llawer o dai gwag neu fusnesau wedi mynd," meddai.
"Mae llawer o geir yma, a byddai'n braf cael mwy o goed er mwyn cael aer glanach."
Ychwanegodd: "Cyn belled â bo' nhw'n meddwl am swyddi hefyd, yn lleol, byddai'n cefnogi hyn."
'Ysgyfaint gwyrdd'
Mae coed stryd ymhlith y seilwaith gwyrdd pwysicaf, yn ôl Joanne Gossage, sy'n dweud eu bod nhw fel "ysgyfaint gwyrdd uwchben pennau pobl".
Mae mwy na thraean o'r holl goed yn y ddinas mewn ardaloedd preswyl - a'r rhywogaethau mwyaf cyffredin yw cypreswydden Leyland, Bedw a'r Ddraenen Wen.
Dywedodd Ms Gossage y bydd cynyddu gorchudd canopi yn helpu i gadw tymheredd y ddinas i lawr, atal llifogydd, yn gwella bioamrywiaeth ac yn helpu iechyd a lles pobl.
"Rydym yn gwneud hyn gyda nifer fach iawn o adnoddau yn fewnol," meddai.
"Dydyn ni ddim yn gofyn am lawer o gyllideb y cyngor gan ein bod yn gweithredu'n ddyfeisgar ac yn bod yn anturus, gan chwilio am arian y tu allan i'n cyllideb ein hunain."
Mae'r cyngor yn bwriadu agor ymgynghoriad cyhoeddus ar ei Strategaeth Adfywio Gorchudd Coed, gyda'r nod o orchuddio chwarter y ddinas erbyn 2035.