John Redwood 'wedi gwrthwynebu cardiau adnabod yn gryf'
- Cyhoeddwyd
Mae dogfennau sydd newydd gael eu rhyddhau yn datgelu bod cyn-Ysgrifennydd Cymru John Redwood wedi gwrthwynebu'n gryf y cynigion i gyflwyno cardiau adnabod cenedlaethol gorfodol yn yr 1990au.
Mewn papurau Llywodraeth y DU o 1994, mae Mr Redwood yn dweud y byddai unrhyw fath o gardiau adnabod yn achosi "anawsterau sylweddol gyda grwpiau cenedlaetholwyr a datganolwyr" yng Nghymru.
Ychwanegodd: "Does dim prawf bod buddion ymarferol o ddefnyddio cardiau adnabod - hyd yn oed i'r heddlu a'r llysoedd, fyddai fwyaf tebygol o fod yn awyddus i gael cynllun o'r fath."
Roedd y Prif Weinidog John Major wedi dweud bod cardiau adnabod yn allweddol yn ei gynllun i fynd i'r afael â throseddu, ond penderfynodd yn erbyn y syniad yn y pendraw.
'Annerbyniol i lawer o bobl'
Yn y dogfennau Cabinet sydd newydd gael eu rhyddhau, fe ysgrifennodd Mr Redwood - oedd yn Ysgrifennydd Cymru rhwng 1993 ac 1995 - at yr Ysgrifennydd Cartref Michael Howard yn dweud bod ganddo "bryderon" am gardiau adnabod gorfodol.
Dywedodd: "Ar adeg pan fo cwestiynau cyfansoddiadol sy'n effeithio ar Gymru a'r Alban yn dod i'r amlwg unwaith eto, byddai trafod cynllun cardiau adnabod gorfodol yn ychwanegu'n ddiangen at y drafodaeth am ddyfodol yr Undeb."
Mewn llythyr cynharach ar Mr Major, dywedodd Mr Redwood y byddai cynllun gorfodol o'r fath yn "annerbyniol i lawer iawn o bobl".
"Ychydig o werth fyddai yna i gynllun gwirfoddol," meddai, gan ychwanegu y byddai cost y naill gynllun yn "uchel iawn".
Roedd Mr Major wedi cyfaddef y byddai "anawsterau ymarferol mawr" yn cyflwyno cardiau adnabod gorfodol, ond y gallan nhw fod yn ddefnyddiol i fynd i'r afael â throseddu.
Ond fe wnaeth ei lywodraeth benderfynu yn erbyn y cynlluniau wedi i ymgynghoriad ddangos bod barn y cyhoedd wedi'i hollti ar y cynigion.
Fe wnaeth y mater godi eto pan oedd Tony Blair yn brif weinidog.
Roedd Mr Blair yn credu mai cardiau adnabod fyddai'r ffordd orau i warchod rhyddid sifil, ac y byddan nhw hefyd yn helpu atal terfysgaeth a thwyll.
Fe gafodd ei gynlluniau eu cymeradwyo, cyn cael eu diystyru gan David Cameron pan ddaeth yn brif weinidog yn 2010.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2017