Darganfod corff yn y dociau ym Mae Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau fod corff wedi ei ddarganfod yn y dociau ym Mae Caerdydd.
Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Mermaid Quay am tua 13:00 ddydd Sadwrn yn dilyn adroddiadau bod unigolyn yn y dŵr.
Fe wnaeth swyddogion gadarnhau bod corff marw wedi ei ddarganfod yno, ond nid oes unrhyw fanylion pellach wedi cael eu rhyddhau.
Cafodd tîm arbenigol eu galw er mwyn codi'r corff o'r dŵr.