Ymchwiliad i lofruddiaeth wedi gwrthdrawiad Caerffili

  • Cyhoeddwyd
Christopher Gadd

Mae'r heddlu wedi lansio ymchwiliad i lofruddiaeth yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ym Mhontllanfraith, Sir Caerffili.

Bu farw Christopher Gadd, oedd yn 48 oed ac yn lleol i'r ardal, ar ôl cael ei daro gan Land Rover yn dilyn dadl honedig mewn maes parcio.

Cafodd swyddogion eu galw am 16:00 ddydd Llun i wrthdrawiad rhwng cerbyd a pherson ger archfarchnad Sainsbury's ar Ffordd Trecelyn.

Fe wnaeth yr ambiwlans awyr ymateb i'r digwyddiad ond bu farw Mr Gadd yn y fan a'r lle.

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Ffynhonnell y llun, Nick Morgan

Dywedodd brawd Mr Gadd, Paul, nad oedd wedi gweld gyrrwr y cerbyd o'r blaen, ac "nad oedd yn gallu credu" yr hyn ddigwyddodd.

Fe gafodd y cerbyd ei gymryd gan swyddogion er mwyn cynnal profion.

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.