Ymchwilio i farwolaeth dyn yn dilyn tân mewn garej
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i farwolaeth dyn yn dilyn tân yn ardal Pontardawe fore Sul.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Rhos am tua 03:00 ddydd Sul wedi adroddiadau bod corff wedi'i ddarganfod yn dilyn tân mewn garej.
Ar ôl darganfod corff dyn ar y safle, mae'r heddlu wedi lansio ymchwiliad i achos y farwolaeth a'r tân.
Mae'r heddlu yn gobeithio siarad gyda gyrrwr tacsi a gludodd tri dyn o ganol Caerdydd i ardal Delffordd yn Rhos rhwng 00:15 a 02:30.
Mae'r heddlu yn trin y farwolaeth fel un anesboniadwy ac yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.