Pobl ym Maesteg 'ofn bod yn eu cartrefi eu hunain'
- Cyhoeddwyd
Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn un dref wedi gadael pobl yn ofnus i fod yn eu cartrefi ac yn rhy ofnus i ddal y trên, yn ôl rhai trigolion yno.
Ers dechrau 2019, mae problemau ym Maesteg, yn sir Pen-y-bont ar Ogwr, wedi cynnwys ffenestri neuadd y dref wedi'u torri â brics a cherrig yn cael eu taflu at gartrefi pobl.
Dywedodd un preswylydd nad oedd bellach eisiau mynd adref ar ôl gwaith.
Mae Heddlu De Cymru wedi lansio ymgyrch newydd ac mae'n rhedeg patrolau ychwanegol i geisio mynd i'r afael â'r mater.
'Allan o reolaeth'
Dywedodd un preswylydd, a oedd yn dymuno aros yn ddienw, fod "math mwy dinistriol o ddifrod bwriadol i eiddo preifat a fandaliaeth" i'w weld yn yr ardal.
"Dyw sefyll yna'n gwarchod fy eiddo a fy nghar, bob nos, ddim yn rhoi dim cyfle i mi orffwys rhwng fy shifftiau yn y gwaith," meddai.
"Pan nad ydych chi bellach am ddychwelyd adref ar ôl eich diwrnod gwaith, yna rydych chi'n sylweddoli'n gyflym bod y digwyddiadau hyn wedi mynd allan o reolaeth."
Dywedodd y cynghorydd dros Ddwyrain Maesteg, Keith Edwards fod y dref heb weld materion "ar y fath raddfa o'r blaen".
"Mae toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol yn golygu nad yw'r gwasanaeth ieuenctid yn bodoli a does dim cyfleusterau gyda'r nos yn y dyffryn i bobl ifanc," meddai.
Cafodd 450 o blanhigion canabis eu canfod yn ardal Caerau ger Maesteg gan yr heddlu ddydd Llun fel rhan o Ymgyrch Monstera.
Dywedodd Sarjant Matthew Beynon fod cynnydd wedi bod mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal dros y misoedd diwethaf.
"Rydym yn ceisio sathru hyn mas a gwneud gwahaniaeth positif er lles y gymuned," meddai.