Dynes mewn cyflwr difrifol ar ôl cael ei tharo gan gar
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i ddynes gael ei hanafu'n ddifrifol yng Nghaerdydd nos Fercher.
Cafodd dynes 29 oed ei tharo wrth gerdded ger Gwesty Lynx ar Heol Casnewydd tua 23:15.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod dyn 27 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi anafiadau difrifol drwy yrru'n beryglus.
Mae swyddogion yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un welodd y digwyddiad.