'Doedden ni ddim yn gwybod os oedden nhw am fyw'
- Cyhoeddwyd
Mae mis Medi yn fis ymwybyddiaeth NICU - unedau gofal dwys i fabanod newydd-anedig.
Un pâr sydd yn gyfarwydd iawn â'r gwasanaeth gwych mae unedau o'r fath yn ei roi yw teulu Dan a Carrie Smith o Gaerdydd. Yn 2009 cafodd eu hefeilliaid, Betsy a Scarlett, eu geni dri mis yn gynnar, a bu'n rhaid i'r ddwy aros yn yr ysbyty am fisoedd.
Bellach, â'r ddwy wedi dathlu eu pen-blwydd yn 10 oed, ac yn ffynnu, Dan a Carrie sy'n hel atgofion am eu profiad ofnadwy, a'u canmoliaeth am yr help a gafodd y teulu gan yr unedau a'u helpodd.
Dan: Roedd hi'n sioc yn y scan 12 wythnos fod yna efeilliaid, ac yn syth bin, roedd rhaid i ni fynd i weld consultant oherwydd fod un efaill yn llai na'r llall, felly roedd hi'n amlwg o'r dechrau bod hi ddim am fod yn hawdd.
Yn 26 wythnos, aeth Carrie i mewn i ysbyty Caerdydd gyda pre-eclampsia ac oedden nhw methu dod â'i phwysau gwaed hi i lawr. Pan ddaeth un o'r consultants i mewn yn gwisgo jîns i'w gweld hi - wedi cael ei alw i mewn ar ei ddiwrnod i ffwrdd - roedd hi'n gwybod fod rhywbeth o'i le a'i fod wedi gorfod dod i'w helpu hi.
Carrie: O'dd fy nghorff i'n mynd mewn i organ failure, a'n mhwysau gwaed i ar lefel strôc. Roedd rhaid eu geni nhw - nes i ddweud no way, oedden nhw rhy ifanc - ond bydden i wedi marw heb iddyn nhw wneud.
Roedd hi'n anodd cael ysbyty addas iddyn nhw - mae'n anodd cael gofal newydd-anedig o dan 28 wythnos yng Nghymru. O'r diwedd, roedd lle yng Nghasnewydd i ni.
Dan: Ar 16 Mehefin 2009, cafodd Betsy ei geni gyntaf, yn pwyso 1 pwys 6 owns, a Scarlett ddau funud wedyn, yn 2 bwys 4 owns. Cawson nhw eu cymryd i stafell ochr, a ges i eu gweld nhw am funud, yn eu hetiau bach gwlân, gyda'r doctoriaid yn intubatio nhw'n barod.
Ges i ddim mynd nôl mewn i weld Carrie gan ei bod hi'n gwaedu a doedden nhw methu stopio fe. O'n i mas ar y coridor mewn scrubs am rhyw awr - dim gwraig, dim babis, dim syniad beth o'dd yn mynd mla'n.
Carrie: Y tro cynta' i mi weld y merched o'dd mewn lluniau. Oedden nhw ddim yn edrych yn grêt. O'n ni wedi dewis enwau, ac yn gwybod pa enw fyddai'n siwtio'r babi lleia', ond roedd y staff wedi rhoi'r enwau anghywir ar gefn y lluniau. Felly 'naethon ni eu cael nhw i sortio fe mas ar yr holl waith papur.
Doedd gennyn ni ddim rheolaeth dros ddim byd arall ond hwn. Roedd rhaid iddo fe fod yn iawn.
Dan: 'Nath y doctoriaid egluro i mi - o'dd Carrie dal out of it - faint o siawns oedd ganddyn nhw o gael anableddau, problemau clywed, gweld... 'Nes i jest dweud 'iawn, ocê - 'nawn ni ddelio gyda fe fel ma'n dod'. Dyna'r cwbl alli di 'neud.
Carrie: Roedd yr wythnosa' cynta' 'na mor scary - doedden ni ddim yn gwybod os oedden nhw am fyw. Roedd pobl yn ein llongyfarch ni, ond doedd e ddim yn teimlo'n iawn. Roedd 'na lot yn eu herbyn nhw.
Roedden nhw'n fach iawn, ond roedd eu gwallt ac ewinedd mor berffaith - ac roedd e'n rhoi gobaith rhywsut.
Pan o'dd Scarlett tua pythefnos oed, cafodd hi strop gyda'r tiwb intubation a rhywsut ei dynnu fe mas - dim syniad sut. Roedden nhw methu rhoi'r tiwb nôl mewn achos fod popeth wedi chwyddo.
Ddaethon ni nôl o gael paned, a gweld fod yr holl ddoctoriaid a nyrsus yno yn gweithio ar un o'n merched ni. Dyna un o 45 munud gwaetha'n bywyd ni. Roedd rhaid iddyn nhw ddod â hi nôl 'da shot o adrenaline.
Yn rhyfedd, yr un pryd, aeth cyflymder calon Betsy i lawr, a doedden nhw methu gweithio mas pam. Ddaeth e ond nôl lan pan ddaeth un Scarlett lan.
'Chydig o ddyddiau wedyn, gawson ni gwtsho Scarlett am y tro cynta' - roedd e mor bwysig. Roedden ni mor ofn rhoi infection iddyn nhw, bydden ni'n golchi'n dwylo degau o weithiau cyn eu cyffwrdd. Ond roedden ni'n darllen iddyn nhw, er mwyn iddyn nhw glywed ein lleisiau ni, ac yn cael gofalu amdanyn nhw fel newid eu cewynnau a glanhau'r tiwbs mas.
Dan: Aeth y nyrsus yn gyffrous un dydd achos fod un ohonyn nhw wedi cael pŵ - a phan dynnon ni'n cewyn bant, roedd pŵ 'na maint pŵ llygoden! Mor fach! Ond o'dd e'n grêt, achos o'dd e'n dangos fod ei bowels hi'n gweithio.
Carrie: Ar ôl pump wythnos, doedd Betsy ddim yn g'neud yn grêt, felly 'naeth hi orfod mynd i Fryste i gael llawdriniaeth i gau twll bach yn ei chalon. A doedden ni erioed wedi ei chwtsho hi! Do'n i methu stopio meddwl am hynny.
Roedd e'n anodd gwahanu'r ddwy a bod ar wahân - fi gyda Betsy ym Mryste a Dan gyda Scarlett yng Nghasnewydd. Tra o'n i ym Mryste, cafodd Scarlett ei symud o'r ward intensive care i'r uned high dependency, ac o'n i ddim yno. O'n i'n teimlo fel tasen i 'di methu ei diwrnod cynta hi'n yr ysgol.
Dan: Cawson ni'n symud i Gaerdydd tua 7 wythnos, ond roedd wastad rhywbeth. Bydden nhw'n tyfu, ac wedyn yn dal annwyd - roedd e fel un cam 'mlaen, a dau gam nôl. Jest cyn o'dd Scarlett fod i gael ei rhyddhau, 'nath hi orfod cael llawdriniaeth ar ei llygad, a 'nath hi ddim gwella'n grêt. Yn y diwedd ddaeth hi mas ar ei due date.
O'dd hwnna'n anodd, achos oedden ni eisiau mwynhau ei chael hi adref, ond roedd Betsy dal yn yr ysbyty am dair wythnos arall. Roedd e mor anodd gadael Betsy ar ôl eto.
Carrie: Pan o'dd y ddwy adref, roedd e'n anodd. Mae pawb yn disgwyl i ti fod wrth dy fodd oherwydd fod dy fabis di adre', ond dyna pryd mae'r poeni'n dechrau, gan dy fod ti ar dy ben dy hun a ma'r gefnogaeth 'di mynd. A gan ei bod hi'n aeaf, doedd neb methu dod rownd i'n gweld ni achos fod ganddyn nhw annwyd, ac roedden ni gymaint o ofn i'r merched ddal rhywbeth.
Ro'dd popeth mor stressful - y pethau arferol o fod yn fam, ond mae gen ti ddau, ac mae ganddyn nhw broblemau, a ti wedi bod drwy brofiad ofnadwy yn barod, felly ti mor mor flinedig. Ond ti'n teimlo'n euog achos ddylet ti fod mor hapus.
Pan ddaeth hi'r amser i mi fynd yn ôl i'r gwaith, oedden nhw flwydd oed ond wir ddim ond yn naw mis achos bod nhw wedi dod mor gynnar. Ac o'n i mewn gymaint o stad achos yr holl boeni a phopeth oedden ni wedi mynd drwyddo.
Ges i ddiagnosis o PTSD a'n seinio bant o gwaith am ddau fis. Odd hynny'n gymaint o ryddhad.
Dan: Nawr, maen nhw'n 10 oed, a wir yn iawn. Maen nhw'n ffrindiau gorau ac yn elynion pennaf! Mae Betsy dal yn llai, ond bydd hi wastad siŵr o fod.
Mae'n nhw'n wahanol iawn, ond ry'n ni wastad wedi annog hynny - mae Betsy'n greadigol, tra bod Scarlett yn hoffi chwaraeon ac yn fwy academaidd. Dydyn ni ddim yn eu trin nhw'n wahanol i blant eraill, ac yn rhoi stŵr os oes angen. Wrth gwrs bo' ni. Rydyn ni eisiau iddyn nhw fod yn bobl cyflawn.
Dan: Roedd y ddau uned - yng Nghasnewydd a Chaerdydd - yn wych. Roedd y nyrsus yn grêt. Roedd un ohonyn nhw'n ceisio mynd i dŷ gwyliau bob penwythnos, ond roedden ni'n aml yn ei gweld hi, dal yno yn hwyr ar nos Wener, ddim yn gadael nes fod y merched yn iawn. Roedd hi mor committed.
Carrie: Nes i gwrdd â dynes y diwrnod o'r blaen a glywodd enwau'r merched. Gofynnodd hi i mi, 'oedden nhw'n efeillaid prem?' 'Oedden.' 'O'n i'n edrych ar eu holau nhw ar y ward yng Nghasnewydd!' meddai.
Roedd hi'n eu cofio nhw'n iawn ac wedi synnu wrth eu gweld nhw'n bownsio o gwmpas y lle. 'Maen nhw'n edrych yn iawn,' meddai hi.
'Ydyn,' meddais. 'Maen nhw'n hollol iawn. Maen nhw'n survivors.'